Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a geiriau pwerus iawn, sy'n cael eu rhannu a'u hadleisio o ran yr hyn a ddywedoch ar yr ochr hon i'r Senedd. Rwy'n gwybod, ac rydych yn llygad eich lle, fod hwn yn benderfyniad creulon, ac ymateb y Canghellor, fel y dywedwch, i ddod â'r ychwanegiad i ben yw bod yn rhaid canolbwyntio ar swyddi, ond mae dros 97,000 o bobl sy'n derbyn credyd cynhwysol yng Nghymru yn gweithio, ac mae 76,000 o bobl ar gredyd cynhwysol yn y grŵp heb ofyniad i wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae'r rheini'n bobl anabl a phobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud na allant weithio; maent yn y grŵp heb ofyniad i wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Pa mor greulon yw hi y bydd y bobl hynny hefyd yn colli'r incwm blynyddol hollbwysig o £1,040, ac oddeutu 275,000 o deuluoedd incwm isel yn colli cyfanswm o £286 miliwn? Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ydy, wrth gwrs, mae'n golygu ei dynnu allan o'n heconomi hefyd.
Y toriad arfaethedig fydd y gostyngiad mwyaf dros nos i gyfradd sylfaenol o nawdd cymdeithasol ers dechrau'r wladwriaeth les fodern dros 70 mlynedd yn ôl. Ac rwyf hefyd yn diolch i bawb, nid yn unig yma yn y Senedd, ond yn Stormont, San Steffan a Holyrood, lle mae pob un o'r pwyllgorau wedi cyfarfod a chondemnio hyn; comisiynwyr plant pob gwlad; nifer o elusennau a grwpiau ffydd; heb sôn am yr holl Geidwadwyr sydd yn erbyn hyn, gan gynnwys cyn Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau.
A gaf fi ymateb i'ch cwestiynau penodol drwy ddweud bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am y gronfa gymorth i aelwydydd gwerth £500 miliwn yn warthus? Pum miliwn ar hugain o bunnoedd i Gymru. Ni all byth wneud iawn am yr arian a gollwyd gan gannoedd o filoedd o deuluoedd ledled Cymru, felly rydym yn gweithio ar gynigion i sicrhau y gwerir yr arian yn y ffordd fwyaf effeithlon o ran effaith y toriad creulon hwn ar incwm eu haelwydydd. Felly, rwy'n ddiolchgar i chi am godi'r pwynt hwn heddiw. Oherwydd mewn gwirionedd, mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi dweud, o ganlyniad i hyn, fod un o bob pedwar o bobl bellach yn dweud ei bod yn debygol iawn y bydd angen iddynt fynd heb brydau bwyd—64,000 o bobl yng Nghymru, hynny yw. Ac mae un o bob pump yn dweud ei bod yn debygol iawn na fyddant yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi y gaeaf hwn—61,000 o bobl yng Nghymru—a hynny cyn y codiad diweddaraf ym mhris tanwydd.
Felly, yn gyflym iawn hefyd, ac rwyf eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn ymestyn y gronfa cymorth dewisol sydd gennym yng Nghymru—£25.4 miliwn yn ychwanegol yn ystod y pandemig. Rydym yn ei hymestyn ac rydym hefyd yn cynnwys yr hyblygrwydd a ymgorfforwyd gennym yn y gronfa cymorth dewisol. Bydd hynny'n parhau tan y gwanwyn, ond bydd gennym hefyd—unwaith eto—ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau, gan weithio gydag awdurdodau lleol a Cyngor ar Bopeth. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.
Felly, unwaith eto, ar eich pwynt olaf, mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym system nawdd cymdeithasol a weinyddir gyda thrugaredd ac sy'n deg o ran y ffordd y mae'n trin pobl. Fe wyddoch ein bod yn asesu hyn yn ofalus mewn perthynas â'n sefyllfa yng Nghymru, ac wrth gwrs, gallai datganoli rhai pwerau sy'n ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol ddarparu ystod ehangach o offer inni allu trechu tlodi. Rydym wedi ymateb i hynny, wrth gwrs, ac i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr arferai John Griffiths ei gadeirio. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny o ddefnydd i ddangos sut rydym yn ceisio ymateb i'r toriad creulon, diangen hwn i incwm a bywydau'r bobl dlotaf yng Nghymru, sydd, fel y dywedais, yn cyfrannu at ein heconomi, ein cymunedau, a'n cymdeithas.