Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 6 Hydref 2021.
Daw’r ychwanegiad o £20 at y credyd cynhwysol i ben heddiw. Bydd y penderfyniad creulon hwn gan Lywodraeth Dorïaidd ddideimlad yn San Steffan yn effeithio ar dros 275,000 o aelwydydd tlotaf Cymru. Mae hynny'n un o bob pum cartref. Yn ôl Sefydliad Bevan, bydd yr effaith yn waeth ar deuluoedd Cymru, gan fod cyfran uwch o deuluoedd yma yn hawlio credyd cynhwysol neu gredyd treth gwaith. Ac i deuluoedd â phlant, effeithir ar bedwar o bob 10 teulu; dyna bedwar o bob 10 teulu â phlant yng Nghymru a fydd yn teimlo'n sydyn fod eu rhwyd ddiogelwch i'w gweld dipyn yn llai diogel o heddiw ymlaen. Daw'r toriad heddiw wrth i gostau byw yng Nghymru a chostau ynni aelwydydd godi—mae prisiau nwy'n uwch nag erioed heddiw yn y DU—ac mae dyledion aelwydydd yn dyfnhau.
Yr ateb, yn ôl Llywodraeth San Steffan: gweithiwch ddwy awr yn ychwanegol. Ar wahân i galongaledwch llwyr y datganiad hwn, mae hefyd yn gwbl gyfeiliornus. Mae credyd cynhwysol yn fudd-dal graddedig, sy'n golygu bod eich taliad yn lleihau 63c am bob punt a enillwch, felly ar gyfer swydd sy'n talu £10 yr awr, bydd yn cymryd llawer mwy na dwy awr i ennill £20 yn ychwanegol. Ar ben hynny, mae swyddi gan 38 y cant o'r bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru. Maent yn dibynnu ar gredyd cynhwysol am nad yw eu gwaith yn talu digon. Roeddwn yn gwrando ar fam yn cael ei chyfweld ar Radio Wales y bore yma; mae hi a'i gŵr yn gweithio'n llawnamser. Maent ar gredyd cynhwysol; maent yn mynd i fod yn waeth eu byd. Dywedodd y bydd y toriad yn cyfateb i werth pedair wythnos o siopa bwyd.
Gan fod dyletswydd gan Lywodraeth Cymru tuag at bobl Cymru, hoffwn wybod pa gynlluniau newydd penodol sydd gan Lywodraeth Cymru i liniaru effaith y penderfyniad trychinebus hwn ar ein teuluoedd tlotaf, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn golygu bod £286 miliwn yn cael ei dynnu o'n heconomïau lleol. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £500 miliwn ar gyfer cronfa gymorth i aelwydydd i helpu cartrefi agored i niwed dros y gaeaf, sydd wedi golygu bod £25 miliwn ar gael i Lywodraeth Cymru. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn hanner digon o arian i lenwi'r twll creulon a grëwyd yn incwm yr aelwydydd tlotaf yn sgil dod â'r ychwanegiad at y credyd cynhwysol i ben, ac ni fydd yn diwallu anghenion y niferoedd cynyddol, yn anochel, o bobl sy'n wynebu tlodi tanwydd, sy'n fater o fywyd neu farwolaeth wrth i'r gaeaf agosáu. Felly, hoffwn wybod a fydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio peth o'r arian hwn i helpu cwsmeriaid sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sydd mewn dyled i gwmnïau ynni yn enwedig, gan y bydd y penderfyniad heddiw wedi effeithio ar lawer ohonynt.
Ac yn olaf, pryd y bydd Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn cefnogi galwadau eang am ddatganoli pwerau lles i Gymru, fel y gallwn sicrhau bywyd gweddus i bawb, yn hytrach na gadael y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ar drugaredd San Steffan am byth, rhywle nad yw byth yn mynd i roi blaenoriaeth i les pobl Cymru? Nid yw San Steffan erioed wedi malio am bobl Cymru, ac ni fydd byth yn gwneud hynny. Dewis gwleidyddol oedd cyflwyno'r toriad hwn; mae ffurfio system well yn galw am ewyllys wleidyddol. Pa bryd y gwnewch chi fel Llywodraeth benderfynu mai digon yw digon?