Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau defnyddio'r cyfle yma, yn syml iawn, i erfyn ar y Llywodraeth a'r Gweinidog yma i godi'u gêm, i ddangos mwy o frys yn eu hymateb i'r argyfwng iechyd meddwl rydyn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. Ac mae'r Gweinidog ei hun, yn un, dwi'n gwybod, sy'n teimlo'n angerddol am y maes iechyd meddwl. Dyna pam ei bod hi yn ei swydd. Ond mae angen i'r angerdd hwnnw rŵan droi yn benderfynoldeb i weithredu o ddifri, ar raddfa fawr, heb unrhyw oedi. Mi gefnogaf i yn unrhyw ffordd y gwaith hwnnw. Rydyn ni wedi cydweithio, o'r blaen, ar bwyllgor. Does yna ddim rheswm pam na allwn ni i gyd, yn fan hyn, fod yn gwbl gytûn ar beth sydd angen ei wneud, er y byddwn ni, wrth gwrs, yn dod â syniadau gwahanol at y bwrdd ar sut i'w gyflawni o, ac mae'n bwysig ein bod ni, er mwyn symud ymlaen, yn rhannu syniadau. Mi gefnogwn ni'r cynnig Ceidwadol. Rydyn ni, ar y meinciau yma, wedi cynnig cynigion tebyg ein hunain yn y gorffennol. Dwi'n gobeithio gall pawb yma gefnogi ein gwelliant ninnau hefyd. Mwy am hwnnw yn y man.
Dwi yn erfyn ar y Llywodraeth, achos mae'r argyfwng yn mynd yn waeth ac yn waeth. Yr wythnos yma eto, mi ddaeth y newyddion ataf i am berson ifanc arall yn colli eu bywyd ar ôl brwydro'n hir efo problemau iechyd meddwl. Dwi'n meddwl am y boen aeth y person yna drwyddo fo, a'r boen mae ei deulu o a'i ffrindiau yn mynd drwyddo fo rŵan. Dwi'n clywed, wedyn, am ferch o'r un ardal, oedd hefyd wedi colli'i bywyd yn ddiweddar. Dŷn ni'n gwybod am y straen mae'r pandemig wedi ei roi ar ein pobl ifanc ni. Maen nhw wedi colli gymaint: colli cerrig milltir pwysig yn eu bywydau; colli cwmnïaeth; colli normalrwydd; strwythur; colli addysg; ac, ie, colli mynediad at wasanaethau, oherwydd pwysau COVID ar y gwasanaethau hynny.
Ond, wrth gwrs, mi oedd y diffyg cynaliadwyedd hwnnw a diffyg adnoddau mewn gwasanaethau iechyd meddwl yno ymhell cyn i'r feirws daro. Ydy hi'n dderbyniol bod bachgen ifanc o fy etholaeth i'n cael ei gynghori i fynd y tu allan i’w fwrdd iechyd ei hun i chwilio am gefnogaeth am anhwylder bwyta achos nad oes gan y meddyg teulu ddim hyder yn y ddarpariaeth yn lleol, ac wedyn yn gorfod disgwyl misoedd lawer am apwyntiad? Ac mae eraill, wrth gwrs, yn aros llawer hirach na misoedd—mae flynyddoedd yn gallu bod am apwyntiad am therapi ac ambell i driniaeth.
Mae adroddiad cynnydd ar waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ‘Cadernid Meddwl’, a gyhoeddwyd bron union flwyddyn yn ôl rŵan, ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad gwreiddiol, yn dweud:
‘mae ein plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i’r gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y mae ei hangen arnynt, boed ar adeg gynnar i helpu i atal problemau rhag datblygu, neu’n hwyrach, pan fydd pethau wedi gwaethygu a bod angen cymorth a gofal arbenigol.’
Rŵan, y Gweinidog iechyd meddwl presennol oedd yn cadeirio’r pwyllgor hwnnw ar y pryd, ac mi fydd hi, dwi yn reit siŵr, yn eiddgar i fwrw ymlaen i wireddu’r tri phwynt canolog yr oedd yn yr adroddiad hwnnw, a’r tri phwynt yr oedden nhw’n gofyn amdanyn nhw, sef bod angen gwneud mwy i wneud gwelliannau yn gyflymach; bod angen gweithio mewn modd system gyfan efo bob rhan o’r gwasanaeth yn chwarae ei rhan; a bod effaith y pandemig yn gwneud cynnydd yn fwy angenrheidiol nag erioed.
Rydym ni wedi amlinellu rhai o’n syniadau penodol ni yn y gwelliant heddiw. Rydym ni’n galw eto am rwydwaith o ganolfannau llesiant ar draws Cymru lle gall pobl ifanc gael cefnogaeth cyn i broblemau dyfu yn broblemau acíwt. Ond heb os, ein nod ni, wrth gwrs, ydy gwella a chyflymu mynediad at ofal a thriniaeth ar bob lefel, ac, fel dwi’n dweud, mae’n rhaid i ni gyd fod â ffocws berffaith glir ar y nod yna.
Mae yna berig, wrth gwrs, i welliant Llywodraeth, fel yr un sydd gennym ni’r heddiw yma, gael ei weld fel, ‘Peidiwch â phoeni, rydym ni’n gwneud popeth yn barod. Mae ein commitment ni yn ddigon clir.’ Ond dydy geiriau ddim yn ddigon. Plîs, Weinidog, dangoswch y commitment yna drwy weithredoedd rŵan ar gyfer y boblogaeth gyfan, ond yn enwedig ein pobl ifanc ni.