– Senedd Cymru ar 6 Hydref 2021.
Nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl. Galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7793 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dydd Sul 10 Hydref yw diwrnod iechyd meddwl y byd.
2. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar gymorth iechyd meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.
3. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ifanc sy'n dod i'r ysbyty gyda phroblemau hunan-niweidio wedi codi 39 y cant ers 2007.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn ei strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd y flwyddyn nesaf:
a) camau i weithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed Senedd, 'Cadernid Meddwl' a 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach';
b) adroddiadau blynyddol a phennu targedau ar gyfer amseroedd aros i gael triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau;
c) cyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;
d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar destun iechyd meddwl a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Dydd Sul yma, 10 Hydref, yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Dylem fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar ein hiechyd meddwl ein hunain, a iechyd meddwl ein ffrindiau a'n teulu, a'r hyn y gallwn ni fel Aelodau o'r Senedd ei wneud i hybu iechyd meddwl cadarnhaol ledled Cymru. Mae hefyd yn ddiwrnod lle mae angen i bob un ohonom ystyried a rhoi amser i ofyn i rywun sut y maent yn teimlo. Mae'n ddiwrnod pan ddylem anfon neges destun at hen ffrind, cael sgwrs Zoom gyda chydweithiwr neu gyfarfod am goffi gydag aelod o'r teulu. Efallai na fyddwch chi byth yn gwybod y gwahaniaeth y gall gweithred fach ei wneud i rywun sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.
Nid yw COVID-19 wedi bod yn garedig i'n hiechyd meddwl. Ac yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y plant ac oedolion sy'n dioddef. Byddai'n anghywir i mi beidio â dechrau drwy sôn am waith nifer fawr o elusennau iechyd meddwl ledled Cymru a'r DU sy'n gwneud gwaith gwych ym mhob un o'n cymunedau. Mae Mental Health Matters yn darparu gwasanaethau hanfodol, megis hybiau llesiant a grwpiau cefnogi cymheiriaid ar gyfer gorbryder ac iselder, tra bod y Samariaid yn gweithredu gwasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gwirfoddolwyr sy'n ateb y galwadau, a hwy yw'r arwyr di-glod sydd heb amheuaeth wedi achub bywydau di-rif ac sydd yno i ni yn ein hawr o angen, ac mae angen i ni fod yno iddynt hwy yn eu hawr hwythau o angen.
Yng Nghymru, mae COVID-19 wedi amlygu anghydraddoldebau iechyd meddwl a oedd eisoes yn bodoli o dan Lywodraeth Lafur Cymru, gyda llawer o wasanaethau wedi eu hymestyn i'r eithaf, ôl-groniadau cynyddol a llai o bobl yn cael cymorth mawr ei angen. Amlinellodd Mind Cymru yn eu hadroddiad 'Rhy hir i aros' fod miloedd o bobl, hyd yn oed cyn y pandemig, yn aros yn hirach nag erioed i gael therapi seicolegol. Gwelsant na chyrhaeddwyd y targed o 80 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn 26 wythnos yn unrhyw un o'r 17 mis hyd at fis Awst 2020. Ond nid oes amheuaeth fod COVID-19 wedi gwneud y broblem yn waeth, oherwydd wrth gymharu mis Awst 2020 â'r un cyfnod yn 2019, tra bod nifer y bobl a oedd yn aros i ddechrau therapïau seicolegol wedi gostwng o 7,198 i 5,208, canfu Mind hefyd fod nifer y bobl sy'n aros yn hwy na 26 wythnos wedi codi 4 y cant, a bod y rhai sy'n aros yn hirach na blwyddyn wedi codi 17 y cant. Ac efallai nad yw hyd yn oed y gostyngiad yn nifer yr unigolion ar y rhestr aros yn newyddion mor dda ag y mae'n swnio. Mae'n golygu, yn ôl pob tebyg, fod llai o bobl yn gofyn am gymorth yn y lle cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnynt, oherwydd y pandemig.
Ac yn anffodus, mae pawb ohonom yn gwybod am yr effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar ein hiechyd meddwl, yn enwedig pobl iau. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, dywedodd dros hanner oedolion Cymru a thri chwarter y bobl ifanc fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu at ei gilydd yn ystod misoedd cynnar y pandemig. Ac er bod pryder am y pandemig yn gyffredinol wedi lleihau ymhlith oedolion y DU, o 42 y cant ym mis Chwefror 2021, roedd unigrwydd wedi codi o 10 y cant ym mis Mawrth 2020 i 26 y cant flwyddyn yn ddiweddarach. Ac efallai'n fwyaf amlwg, roedd mwy na 10 marwolaeth ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn 2020 yn hunanladdiad, ac mae'r gyfradd honno yn aml dair i bedair gwaith yn uwch ymhlith dynion nag ymhlith menywod.
Mae angen i'r strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd nesaf adlewyrchu'r newidiadau sylweddol a welsom yn y Gymru ôl-COVID. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw i ble'r oeddem ddwy flynedd yn ôl, ac mae angen i strategaeth newydd adlewyrchu hynny. Felly, yn y goleuni hwn, mae gwelliannau'r Llywodraeth heddiw yn siomedig iawn. Heddiw, mae gennym gyfle gwirioneddol i gyflwyno strategaeth hirdymor er mwyn sicrhau adolygiad priodol o wasanaethau iechyd meddwl fel eu bod yn addas ar gyfer heddiw a'r dyfodol. Felly, mae eu gweld wedi'u glastwreiddio gan welliannau'r Llywodraeth yn gyfle a gollwyd go iawn. Rydym angen targedau, ac rydym angen canlyniadau, a'r Senedd hon i allu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu cylch. Ac mae arnaf ofn nad yw gwelliannau'r Llywodraeth yn cyflawni'r un o'r amcanion hynny.
Mae ein cynnig yn adeiladol. Nid ydym yn ei gyflwyno heddiw i daflu bai ar y Llywodraeth nac unrhyw un arall. Er bod problemau amlwg yn y gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru cyn y pandemig, rydym i gyd yn cydnabod bod y flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi rhoi straen anhygoel ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Mae angen diweddaru'r atebion i fynd i'r afael â'r broblem er mwyn adlewyrchu hynny, a dyna pam y galwaf ar bob Aelod o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r ymrwymiad i adolygu’r dystiolaeth, y data a’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol ar gyfer hunan-niweidio i bobl o bob oed yng Nghymru.
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r canlynol:
a) gweithredu argymhellion o adroddiadau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd, 'Cadernid Meddwl' a 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach';
b) cryfhau a chyhoeddi data amseroedd aros iechyd meddwl a gwella perfformiad ledled Cymru;
c) cyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol;
d) cynllun gweithlu iechyd meddwl clir.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y diwygiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU yn addas ar gyfer Cymru ac yn gyson â deddfwriaeth berthnasol bresennol yng Nghymru.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau defnyddio'r cyfle yma, yn syml iawn, i erfyn ar y Llywodraeth a'r Gweinidog yma i godi'u gêm, i ddangos mwy o frys yn eu hymateb i'r argyfwng iechyd meddwl rydyn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. Ac mae'r Gweinidog ei hun, yn un, dwi'n gwybod, sy'n teimlo'n angerddol am y maes iechyd meddwl. Dyna pam ei bod hi yn ei swydd. Ond mae angen i'r angerdd hwnnw rŵan droi yn benderfynoldeb i weithredu o ddifri, ar raddfa fawr, heb unrhyw oedi. Mi gefnogaf i yn unrhyw ffordd y gwaith hwnnw. Rydyn ni wedi cydweithio, o'r blaen, ar bwyllgor. Does yna ddim rheswm pam na allwn ni i gyd, yn fan hyn, fod yn gwbl gytûn ar beth sydd angen ei wneud, er y byddwn ni, wrth gwrs, yn dod â syniadau gwahanol at y bwrdd ar sut i'w gyflawni o, ac mae'n bwysig ein bod ni, er mwyn symud ymlaen, yn rhannu syniadau. Mi gefnogwn ni'r cynnig Ceidwadol. Rydyn ni, ar y meinciau yma, wedi cynnig cynigion tebyg ein hunain yn y gorffennol. Dwi'n gobeithio gall pawb yma gefnogi ein gwelliant ninnau hefyd. Mwy am hwnnw yn y man.
Dwi yn erfyn ar y Llywodraeth, achos mae'r argyfwng yn mynd yn waeth ac yn waeth. Yr wythnos yma eto, mi ddaeth y newyddion ataf i am berson ifanc arall yn colli eu bywyd ar ôl brwydro'n hir efo problemau iechyd meddwl. Dwi'n meddwl am y boen aeth y person yna drwyddo fo, a'r boen mae ei deulu o a'i ffrindiau yn mynd drwyddo fo rŵan. Dwi'n clywed, wedyn, am ferch o'r un ardal, oedd hefyd wedi colli'i bywyd yn ddiweddar. Dŷn ni'n gwybod am y straen mae'r pandemig wedi ei roi ar ein pobl ifanc ni. Maen nhw wedi colli gymaint: colli cerrig milltir pwysig yn eu bywydau; colli cwmnïaeth; colli normalrwydd; strwythur; colli addysg; ac, ie, colli mynediad at wasanaethau, oherwydd pwysau COVID ar y gwasanaethau hynny.
Ond, wrth gwrs, mi oedd y diffyg cynaliadwyedd hwnnw a diffyg adnoddau mewn gwasanaethau iechyd meddwl yno ymhell cyn i'r feirws daro. Ydy hi'n dderbyniol bod bachgen ifanc o fy etholaeth i'n cael ei gynghori i fynd y tu allan i’w fwrdd iechyd ei hun i chwilio am gefnogaeth am anhwylder bwyta achos nad oes gan y meddyg teulu ddim hyder yn y ddarpariaeth yn lleol, ac wedyn yn gorfod disgwyl misoedd lawer am apwyntiad? Ac mae eraill, wrth gwrs, yn aros llawer hirach na misoedd—mae flynyddoedd yn gallu bod am apwyntiad am therapi ac ambell i driniaeth.
Mae adroddiad cynnydd ar waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ‘Cadernid Meddwl’, a gyhoeddwyd bron union flwyddyn yn ôl rŵan, ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad gwreiddiol, yn dweud:
‘mae ein plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i’r gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y mae ei hangen arnynt, boed ar adeg gynnar i helpu i atal problemau rhag datblygu, neu’n hwyrach, pan fydd pethau wedi gwaethygu a bod angen cymorth a gofal arbenigol.’
Rŵan, y Gweinidog iechyd meddwl presennol oedd yn cadeirio’r pwyllgor hwnnw ar y pryd, ac mi fydd hi, dwi yn reit siŵr, yn eiddgar i fwrw ymlaen i wireddu’r tri phwynt canolog yr oedd yn yr adroddiad hwnnw, a’r tri phwynt yr oedden nhw’n gofyn amdanyn nhw, sef bod angen gwneud mwy i wneud gwelliannau yn gyflymach; bod angen gweithio mewn modd system gyfan efo bob rhan o’r gwasanaeth yn chwarae ei rhan; a bod effaith y pandemig yn gwneud cynnydd yn fwy angenrheidiol nag erioed.
Rydym ni wedi amlinellu rhai o’n syniadau penodol ni yn y gwelliant heddiw. Rydym ni’n galw eto am rwydwaith o ganolfannau llesiant ar draws Cymru lle gall pobl ifanc gael cefnogaeth cyn i broblemau dyfu yn broblemau acíwt. Ond heb os, ein nod ni, wrth gwrs, ydy gwella a chyflymu mynediad at ofal a thriniaeth ar bob lefel, ac, fel dwi’n dweud, mae’n rhaid i ni gyd fod â ffocws berffaith glir ar y nod yna.
Mae yna berig, wrth gwrs, i welliant Llywodraeth, fel yr un sydd gennym ni’r heddiw yma, gael ei weld fel, ‘Peidiwch â phoeni, rydym ni’n gwneud popeth yn barod. Mae ein commitment ni yn ddigon clir.’ Ond dydy geiriau ddim yn ddigon. Plîs, Weinidog, dangoswch y commitment yna drwy weithredoedd rŵan ar gyfer y boblogaeth gyfan, ond yn enwedig ein pobl ifanc ni.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth fynd i'r afael â materion iechyd meddwl, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pob sefydliad sy'n gallu chwarae rhan yn gwneud hynny, a bod pob sefydliad yn meddwl am yr hyn y gallant ei wneud i helpu'n weithredol, ac rwy'n falch iawn fod gennym glwb pêl-droed Casnewydd yn fy ardal leol sydd wedi bod yn awyddus iawn i wneud hynny. Maent wedi bod yn edrych ar sut y gallant estyn allan y tu hwnt i'w gweithgarwch craidd, fel petai, o fod yn glwb pêl-droed llwyddiannus—ac rwy'n gobeithio y cawn gryn lwyddiant ar y cae y tymor hwn. Maent yn estyn allan i'r gymuned, maent yn gwneud llawer o waith cymunedol, ac o ran iechyd meddwl, hwy oedd y pedwerydd clwb yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr i lofnodi siarter ar chwaraeon a hamdden a sut y gall pŵer chwaraeon a'r modelau rôl pwerus y gall pêl-droedwyr eu cynnig helpu gwaith iechyd meddwl. Felly, rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn fod sefydliad fel clwb pêl-droed Casnewydd yn meddwl yn y ffordd honno.
Hwy oedd y clwb pêl-droed cyntaf yng Nghymru i lofnodi'r siarter, a gobeithio y bydd eraill yn dilyn, ac maent yn benderfynol o'i wneud yn llwyddiant. Mae'n ymwneud â bod yn rhan o rwydwaith, gweithio gyda phartneriaid fel yr awdurdod lleol a'r gwasanaeth iechyd, cael yr holl bartneriaid i lofnodi addewid i fwrw ymlaen â gwaith ar y cyd a deall sut y gallant gydweithio'n effeithiol, a monitro'r gwaith hwnnw wedyn i sicrhau y gwneir cynnydd go iawn. Mae'n ymwneud â negeseuon cadarnhaol, trechu gwahaniaethu, a defnyddio pŵer y clwb pêl-droed a'r chwaraewyr pêl-droed. A chredaf ei fod yn bwysig i iechyd meddwl dynion yn enwedig, sy'n broblem benodol; mae dynion weithiau'n arbennig o amharod i siarad am iechyd meddwl, i gyfaddef eu bod yn fregus. A phan fyddant yn gweld modelau rôl pwerus, megis pêl-droedwyr, yn barod i wneud hynny, yn barod i rannu eu profiad a'u problemau, rwy'n credu o ddifrif y gall hynny fod yn bwerus iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei ddangos. Mae ganddynt bobl sydd â chyfrifoldeb dynodedig o fewn y clwb i fwrw ymlaen â hyn. Maent wedi cysylltu â'r holl gynrychiolwyr gwleidyddol rheng flaen yn lleol, fel fi. Felly, mae'n datblygu'n gydymdrech sylweddol. A hoffwn dynnu sylw hefyd at waith Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o hyn, ond hefyd mewn perthynas â'u prosiect Arrow, sy'n gweithio'n arbennig gyda phobl ifanc ar eu problemau iechyd meddwl, ac yn gweithio gyda'r holl ysgolion yn yr ardal. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n cael ei gydnabod fel arfer da, ac mae'n enghraifft o sefydliad sy'n mynd gam ymhellach, gan wneud rhywbeth y tu hwnt i'w weithgareddau craidd, er mwyn deall heriau iechyd meddwl a helpu i'w trechu.
Felly, os ydym o ddifrif am wneud y cynnydd sydd angen inni ei wneud yng Nghymru, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno bod angen i'r holl sefydliadau a all ychwanegu at ymdrech gyfunol y gwasanaeth iechyd a phartneriaid allweddol gamu i'r adwy. Rhaid iddo fod yn fusnes i bawb, onid oes? Ac rwy'n credu bod sefydliadau fel clwb pêl-droed Casnewydd, Cyngor Dinas Casnewydd, yn dangos esiampl dda, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o rai eraill ledled Cymru yn efelychu eu gweithredoedd, a'u llwyddiant, gobeithio.
Daw 'Cadernid Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach' i'r casgliad yn glir fod effeithiau ehangach COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar fywydau plant a'n pobl ifanc. Ac unwaith eto, rwy'n mynd i dalu teyrnged i Lynne Neagle am yr holl waith a wnaethoch gyda 'Cadernid Meddwl', a gwn am eich angerdd a'ch ymroddiad i weld gwelliant yn iechyd meddwl ein pobl ifanc.
Mae arolwg Barnardo's o ymarferwyr y DU yn profi hyn, oherwydd nododd 95 y cant o'r 275 o ymatebwyr gynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n wynebu problemau iechyd meddwl a llesiant. Ein dyletswydd i'n pobl ifanc yng Nghymru yw sicrhau y gweithredir ar yr holl alwadau yn yr adroddiad 'Ddwy flynedd yn ddiweddarach', megis gwella dulliau o gyfeirio, mynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaeth, darpariaeth ar gyfer y lefel is, cymorth therapiwtig, a gwaith pellach ar fonitro ansawdd ac argaeledd gwasanaethau. Rhaid i'r un peth fod yn wir am y gwasanaethau i oedolion.
Yn anffodus, yng ngogledd Cymru, ac yn fy etholaeth i, rwy'n gweld anghysonderau o'r fath yn wythnosol. Fe roddaf gipolwg i chi ar un o fy achosion, sy'n profi pa mor enbyd yw'r sefyllfa erbyn hyn. Am nad oes gan dîm iechyd meddwl cymunedol Conwy ddigon o weithwyr cymdeithasol o fewn y tîm, atgyfeiriwyd un o fy etholwyr bregus iawn at dîm llesiant cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn warthus, er bod CMHT—y tîm iechyd meddwl—yn ymwybodol o ganlyniad yr atgyfeiriad, cafodd unigolyn bregus ei ryddhau ganddynt o ofal. Mae'r awdurdod lleol bellach wedi cadarnhau na chawsant atgyfeiriad gan CMHT. Canfu adolygiad gyda seiciatrydd ymgynghorol y dylai'r unigolyn fod wedi cael cydlynydd gofal. Wrth inni siarad—ac er i mi ofyn dros y chwe wythnos diwethaf, ac er bod fy etholwr wedi'i ryddhau o ofal, fel rhan o fesurau COVID, dros 18 mis yn ôl—mae'r etholwr yn dal i fod ar y rhestr aros. Ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Gan nad oes cydlynydd gofal, esboniwyd na ellir cael cynllun gofal a thriniaeth. Wel, mae'n ddrwg gennyf, ond eisteddais yma yn ystod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, lle mae'r cynlluniau hyn i fod yn weithredol ond nid yw hynny'n wir. Felly, mae'n safon warthus o ofal a sylw i unigolyn bregus iawn.
Mae arnom angen adroddiadau blynyddol sy'n rhoi darlun gonest o ddifrifoldeb y sefyllfa ar lawr gwlad, ac mae angen inni helpu'r Senedd hon yng Nghymru i ddeall pa gamau sydd eu hangen i gefnogi gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n cynorthwyo ein cymunedau. Rwyf am weithio gyda Lynne ar hyn, ac rwyf wedi bod yn gwneud hynny hyd yma fel Aelod dros etholaeth. Rwyf am weld cynllun gweithlu iechyd meddwl clir, ac rwyf am weld strategaeth argyfwng yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer y tymor byr. Yn rhan o hyn, rwy'n eich annog i gefnogi'r ymgyrch hon i weld gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol hyfforddedig ym mhob meddygfa ar draws ein hetholaethau.
Unwaith eto, wrth siarad â meddygon teulu—siaradais ag un heddiw, ac fe ddywedodd, 'Ar yr adeg yr oedd gennym nyrs iechyd meddwl yn ein practis, golygai nad oedd raid inni atgyfeirio ymlaen; gallem drin pobl ar y pryd'. Felly, mae'r angen i yrru hyn yn ei flaen yn ddybryd wrth inni gofio—ac mae hyn yn drist iawn i'w ailadrodd—bod mwy na 3.2 miliwn o eitemau gwrth-iselder wedi'u presgripsiynu gan feddygon teulu yng Nghymru yn y chwe mis ar ôl y pandemig COVID, cynnydd o 115,660 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, tra bod nifer y bobl a atgyfeiriwyd ar gyfer therapïau siarad wedi gostwng draean.
Hoffwn gloi drwy atgoffa'r Senedd, ochr yn ochr â'r cynnydd torcalonnus o 40 y cant yn nifer y bobl ifanc sy'n mynd i'r ysbyty ar ôl hunan-niweidio, ein bod yn parhau i weld cyfradd hunanladdiad sy'n peri pryder yng Nghymru—10.3 marwolaeth fesul 100 y cant o'r boblogaeth yn 2020. A chefais nodyn yn fy mewnflwch heddiw gan y Samariaid sy'n sobreiddiol, a byddaf yn ei ddarllen yn llawnach yn nes ymlaen, ond maent yn pryderu'n fawr am yr achosion y maent yn ymdrin â hwy.
Nawr, er fy mod yn deall, Ddirprwy Lywydd, fod amgylchiadau gwahanol yn achos pob un o'r 285 o fywydau a gollwyd, mae'n ffaith bod nifer y bywydau yr effeithir arnynt yn sylweddol uwch pan ystyriwch y teulu a'r anwyliaid sy'n cael eu gadael i ddygymod ar ôl digwyddiadau mor drasig. Nid yw'n iawn mai'r unig gyswllt swyddogol y bydd rhai teuluoedd yn ei gael yw swyddogion yr heddlu yn rhoi gwybod iddynt am y golled drasig, a dyna ni. Mae'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn dod yn grŵp mewn perygl eu hunain ac mae angen cymorth ymarferol arbenigol arnynt, ac nid yn unig yn syth wedyn.
Er fy mod yn edrych ymlaen at weld cyhoeddi fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gofal profedigaeth yng Nghymru, mae astudiaeth interim gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod bod angen lefelau uchel o gymorth emosiynol.
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Iawn. Felly, gadewch i bawb ohonom gydweithio â'r Gweinidog, gyda'r Dirprwy Weinidog, yn drawsbleidiol, a sicrhau y gallwn ddychwelyd yma ymhen blwyddyn a gweld bod yr ystadegau ar gyfer y diffyg cefnogaeth wedi gostwng. Diolch.
Mae'n siŵr y dylai hapusrwydd plant fod yn un o'r metrigau y mae unrhyw Lywodraeth neu gymdeithas o ddifrif yn eu cylch. Nawr, nid yw bob amser yn hawdd mesur hapusrwydd na nodi sut y mae bodlonrwydd yn amlygu ei hun, ond pan fydd patrymau'n datblygu ac yn dal eu gafael, mae'n rhaid i bob un ohonom gymryd sylw. Y llynedd, cyhoeddwyd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a oedd wedi cyfweld â phlant mewn 35 o wledydd ym mhob cwr o'r byd. Gofynnodd yr astudiaeth iddynt pa mor hapus y teimlent gartref, yn yr ysgol, am eu dyfodol, amdanynt eu hunain, ac mewn sawl agwedd, plant Cymru oedd â rhai o'r sgoriau isaf. Digwyddodd y cyfweliadau ymhell cyn COVID, ac fel y mae Platfform wedi atgoffa'r Aelodau o'r Senedd wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw, tarodd COVID-19 y rhai a oedd eisoes yn cael yr amser caletaf. Gwn ein bod i gyd wedi arfer clywed gwleidyddion yn siarad am ymchwil neu ystadegau neu ganfyddiadau, a'r duedd yw ein bod yn mynd yn fyddar iddynt, ond yr astudiaeth honno—dyma'r math o beth a ddylai ein hysgwyd a mynnu ein sylw. Dylai beri dychryn i ni. Oherwydd yn anffodus nid yw'r canfyddiadau'n unigryw. Mae 'Adroddiad Plentyndod Da 2021' gan Gymdeithas y Plant yn edrych ar atebion a roddwyd gan blant rhwng 10 a 15 oed i ddynodi pa mor hapus ydynt, ac roedd y sgoriau hapusrwydd cymedrig ar gyfer sut y mae'r plant hynny'n teimlo am fywyd yn gyffredinol, eu cyfeillgarwch ag eraill a'u hymddangosiad yn is na phan ddechreuodd yr arolwg yn 2009-10. Rwyf wedi bod yn edrych ar yr adroddiad, a rhai o'r amcangyfrifon mwyaf poenus y gellir eu hallosod ar gyfer plant Cymru yw bod tua 24,000 o blant yng Nghymru wedi nodi lefelau isel o hapusrwydd yn yr ysgol, a dywedodd 30,000 eu bod yn anhapus ynglŷn â'u hymddangosiad.
Nawr, ceir materion cymdeithasol ehangach y dylid mynd i'r afael â hwy yma—ehangach nag y gall unrhyw un Lywodraeth ymdrin â hwy ar ei phen ei hun—yn ymwneud â'r pwyslais a osodwn ar ymddangosiad, yr effaith y gall Instagram a chylchgronau ei chael ar ddelwedd y corff a'r ffyrdd y gall bwlio fod yn waeth ar y platfformau hyn ac o'u oherwydd. Rhaid cydnabod a chynllunio ar frys i fynd i'r afael â'r pethau hynny a'u trechu, oherwydd rydym yn sôn yma am deimladau sy'n ddychrynllyd o gyffredin i gynifer o blant.
Ond yn ehangach, beth y gallwn ei wneud i helpu plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl? Ddirprwy Lywydd, mae ein gwelliant, fel y'i nodwyd, yn galw am gyflwyno rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl a llesiant ataliol i ieuenctid. Dylai'r cymorth hwnnw yn y gymuned fodoli ochr yn ochr â chwnsela sydd ar gael mewn ysgolion, fel bod gan bobl ifanc rywle y gallant ymddiried ynddo i droi ato bob amser pan fyddant ond angen sgwrsio drwy eu problemau, rhywle lle maent yn teimlo'n ddiogel. Nawr, mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn y mae Cymdeithas y Plant wedi galw amdano, sef hybiau mynediad agored sy'n cynnig cymorth galw heibio ar sail hunangyfeirio. Ond Ddirprwy Lywydd, beth am y plant a'r bobl ifanc sydd mewn argyfwng? Rwy'n gwybod bod y comisiynydd plant wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos hon yn pwysleisio'r angen am ofal argyfwng ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc. Tynnodd sylw at y ffaith nad yw ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yn lleoedd priodol i bobl ifanc orfod mynd iddynt pan fyddant mewn argyfwng, fod angen llochesau a chanolfannau argyfwng iechyd meddwl pwrpasol ar gyfer pobl ifanc, ac roedd hyn yn taro tant. Dywedodd y comisiynydd fod disgwyl yn rhy aml i blant a phobl ifanc ddilyn llwybrau anhyblyg nad ydynt bob amser yn gweithio iddynt, a wynebu amseroedd aros hir.
Dywedais ar ddechrau fy sylwadau, Ddirprwy Lywydd, nad yw bob amser yn hawdd mesur hapusrwydd. Yn anffodus, ar adegau mae'n rhy hawdd mesur anhapusrwydd eithafol pan fydd yn arwain at argyfwng, ciwiau o bobl yn aros am wasanaethau wedi'u gorlethu, metrigau anobaith sy'n ymestyn o'n blaenau. Gwn fod y Llywodraeth am gael hyn yn iawn, gwn fod y Gweinidog eisiau hynny'n fawr, felly ochr yn ochr â'r angen ymarferol am ganolfannau argyfwng ar gyfer hybiau cymunedol, a gawn ni ailffocysu'r dangosyddion a ddefnyddiwn ar gyfer llesiant plant? Yn ogystal â'r pethau allanol y gallwn eu mesur, fel cyrhaeddiad, cyflogaeth a thai, a gawn ni dalu mwy o sylw i'r hyn y mae plant yn ei deimlo yn eu pennau, sut y maent yn ymdopi, yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym am beth sy'n digwydd? A gawn ni ddilyn cyngor Cymdeithas y Plant a chynnwys y dangosyddion hynny yn y modd y cynhelir arolygon yng Nghymru i lywio polisi cyhoeddus, ie, ac i wrando ar y plant hynny, oherwydd efallai mai dyna'r ymyrraeth fwyaf pwerus y gallem ei gwneud?
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Rwyf wedi dweud ar fwy nag un achlysur fod y pandemig COVID wedi amlygu'r gwendidau yn llawer o'n gwasanaethau, ac yn anffodus mae diffyg cynnydd ar ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl o'r radd flaenaf yn enghraifft arall o sut y mae'r wlad hon bellach yn ei chael hi'n anodd. Nid yw iechyd meddwl yn adnabod ffiniau, nid yw wedi'i gyfyngu i un rhan o'r boblogaeth. Gall effeithio ar unrhyw unigolyn, o ba statws bynnag, ac er bod llawer y gallwn ei wneud i gynnal iechyd meddwl da, weithiau gall realiti bywyd fod yn rhy llethol.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar effaith iechyd meddwl ar blant a phobl ifanc, a phwysigrwydd cael hyn yn iawn. Mae pwyllgorau blaenorol y Senedd wedi canolbwyntio ar blant ac iechyd meddwl. Cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl: Ddwy Flynedd yn Ddiweddarach' yn 2020, ac er bod rhai newidiadau cadarnhaol wedi'u gwneud i'r ddarpariaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, y casgliad oedd bod
'plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i’r gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y mae ei hangen arnynt'.
Dadleuodd y pwyllgor nad yw gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yn digwydd yn ddigon cyflym, mae bylchau o fewn y gwasanaethau presennol, ac mae effaith y pandemig yn golygu bod yr angen am ffocws cryf ar iechyd emosiynol a meddyliol plant yn fwy hanfodol nag erioed. Gwn ein bod yn dyrannu llawer o arian i wasanaethau iechyd meddwl a'i bod yn her anodd yn hanesyddol i recriwtio'r nifer gywir o glinigwyr â'r cymysgedd cywir o sgiliau i wasanaethau iechyd meddwl. Mae hon yn broblem gyda'r gweithlu sy'n rhaid ei blaenoriaethu os ydym am allu ymateb i ofynion y presennol a'r dyfodol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn cymryd camau i ddeall galwadau a deall pa mor effeithiol yw'r llwybrau presennol, dangosodd canfyddiadau cynnar yr adroddiad yn glir fod plant a phobl ifanc yn ei chael yn anodd defnyddio'r gwasanaeth, am ei fod yn canolbwyntio gormod ar oedolion.
Fel llawfeddyg orthopedig, dyma un o'r rhesymau pam fy mod eisiau inni fynd i'r afael â'r angen am ofal brys ar gyfer iechyd meddwl. Nid yw gwasanaethau'n adlewyrchu realiti bywyd. Os gall dyn dorri ei goes yn hwyr ar nos Sadwrn a chael ei drin gan glinigydd mewn adran ddamweiniau ac achosion brys, pam na all yr un egwyddor fod yn berthnasol i rywun sydd wedi dioddef niwed i'r meddwl? Gellir trwsio toriadau ac yn gorfforol, gorau po gyflymaf y caiff y toriadau hynny eu trin; mae'r un peth yn wir am salwch meddwl, mae'r gobaith o sefydlogi a gwella yn well os ymatebir iddynt yn gyflym. Nid oes gan y dyn sydd wedi torri ei goes fwy o hawl i gael cymorth na pherson ifanc yn ei arddegau y mae ei feddwl wedi torri. Nid oes ganddo fwy o hawl i gael cymorth parhaus i wella na pherson ifanc yn ei arddegau sydd angen cyfnod o gymorth ar gyfer ei iechyd meddwl. Nid oes ganddo fwy o hawl i gael blaenoriaeth pan fydd, ymhen chwe mis, yn torri ei goes arall na'r person yn ei arddegau sy'n cael pwl arall o salwch meddwl. Mae'n bryd inni fynd i'r afael â'r anghydbwysedd, a hynny ar frys. Diolch.
Mae'r ddadl hon heddiw yn un hynod bwysig ac yn addas o ran ei hamseriad. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn profi problemau iechyd meddwl, ac mae data'n dangos bod lefelau pryder o fewn y boblogaeth yn uwch nag yr oeddent chyn y pandemig. Mae COVID-19, wrth gwrs, wedi effeithio ar les meddyliol pob un ohonom, ond i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes, mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd.
Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, gyda lefelau pryder yn uwch nag yr oeddent, ac mae ymchwil yn dangos bod problemau iechyd meddwl fel arfer yn dechrau pan fo unigolion yn blant neu'n bobl ifanc. Felly, rwy'n croesawu—yn croesawu'n fawr—er gwaethaf cyni, y £5 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wella ac ehangu cwnsela mewn ysgolion, i ariannu awdurdodau lleol i recriwtio a hyfforddi cwnselwyr, i ariannu'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant proffesiynol i staff ysgolion ar faterion llesiant, a gwella lles meddyliol plant.
Fel cyn-athro, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi ein bod yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer lles meddyliol pobl ifanc. Ac er bod darparu cymorth iechyd meddwl yn hanfodol, mae blaenoriaethu gwasanaethau i wella mesurau ataliol hefyd yn bwysig. Gydag incwm Cymru ar lefelau 2010 yn 2021, mae cyni yn bendant wedi ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau, ar weithwyr cymdeithasol, ac ar dimau argyfwng iechyd meddwl.
Ac i mi, a siarad yn bersonol, gwn fod cerddoriaeth yn hynod bwysig i fy lles meddyliol. Ond yn anffodus, nid yw honno'n fraint y gall pawb ei mwynhau heddiw ledled Cymru. Ni all y gwaith o wella iechyd meddwl fod yn adweithiol yn unig, mae'n rhaid iddo fod yn rhagweithiol ac yn gyfannol. Gwyddom eisoes fod gwella mynediad at y celfyddydau a chwaraeon, gan ein galluogi i fynegi ein creadigrwydd, yn gwella ein lles meddyliol, ac mae'n rhaid iddo fod yn rhan hanfodol o'n strategaeth gelfyddydol ehangach i wella iechyd meddwl. Rydym yn aros i'r gwaith sydd ar y ffordd ar y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol ddod i ben, ac rwy'n annog buddioldeb a chraffter, a strategaeth gerddoriaeth genedlaethol i Gymru sy'n addas i'r diben, wedi'i hariannu'n dda ac sy'n darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, llesiant a chenedlaethau'r dyfodol. Ac mae mwy y gallwn ac y dylem ei wneud.
Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr, ond mae'n rhaid i'r Torïaid gyferbyn gydnabod hefyd—mae'n rhaid iddynt gydnabod, ac nid ydynt yn gwneud hynny—fod ffactorau fel ansicrwydd incwm, diffyg arian a dyled yn effeithio'n gryf ar iechyd meddwl, ac mae'r rhai sydd eisoes ar incwm is yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl. Mae'n destun pryder mawr, Ddirprwy Lywydd, i gloi, y bydd y toriad credyd cynhwysol o £20 gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sy'n dod i rym heddiw—mae'r ddadl hon yn addas, fel y dywedais—yn cael effaith negyddol gref ar iechyd meddwl nifer fawr o'r bobl sy'n ei gael.
Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd gwasanaethau'n cael eu gwella ledled Cymru, er gwaethaf cyllidebau cyni parhaus, i sicrhau nad oes neb dan anfantais o ran eu mynediad at wasanaethau oherwydd eu lleoliad? A pha sicrwydd y gallwch ei roi, Weinidog, y rhoddir blaenoriaeth i wasanaethau ataliol, gan gynnwys o fewn y strategaeth a'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, i wella lles meddyliol cyfannol, wrth inni ymadfer wedi'r pandemig hwn a chamu i Gymru iachach a brafiach? Diolch.
Roeddwn wrth fy modd pan benodwyd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant newydd oherwydd gwn am ei hangerdd personol i fod eisiau mynd i'r afael â'r problemau a gawsom yn ein gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan luniodd ei adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn gallu mynd i'r afael â llawer o'r pryderon sydd, yn anffodus, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, yn parhau yn sgil yr adroddiad hwnnw. Derbyniwyd llawer o'r argymhellion gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, ac ni dderbyniwyd rhai eraill, er mawr ofid i Gadeirydd y pwyllgor ar y pryd. Ond yn gwbl amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni weithio arno ar sail drawsbleidiol i fynd i'r afael ag ef ac rydym bob amser wedi gwneud hynny mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y Senedd hon dros y blynyddoedd.
Mae fy etholaeth i, wrth gwrs, wedi'i lleoli yn yr ardal a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae'n destun gofid mawr i mi fod y bwrdd iechyd hwnnw wedi wynebu heriau mawr yn y gorffennol yn ei ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl, gyda'r gofal gwarthus a roddwyd i bobl oedrannus ar ward Tawel Fan yn uned Ablett. A hefyd, yn anffodus, mae problemau enfawr a sylweddol yn dal i fod yno. Mae'n parhau i fod yn destun mesurau arbennig i bob pwrpas, y lefel uchaf o ymyrraeth, mewn perthynas â'r heriau iechyd meddwl hynny sydd ganddo o hyd, er bod tua chwe blynedd ers i'r sefydliad gael ei wneud yn destun mesurau arbennig. Ddirprwy Weinidog, rwy'n credu y byddwn yn dibynnu arnoch chi i godi'r mater hwnnw'n uwch ar y rhestr flaenoriaethau, fel y gallwn sicrhau bod pobl gogledd Cymru yn cael y lefelau gofal a thriniaeth, mynediad at driniaeth, y maent yn ei haeddu.
Gwyddom ar hyn o bryd—. Ydw, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Diolch, Darren Millar, am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref, ond dylem gofio ei fod bob dydd mewn gwirionedd. Ac o ran lefel y cymorth a'r gwasanaethau, credaf fod yr Aelod yn iawn: mae angen inni fynd i'r afael â'r problemau hynny ac roeddwn yn falch hefyd fod y Gweinidog wedi cael y portffolio hwn, gyda'i hangerdd gwirioneddol.
Dywedaf hyn fel rhywun sy'n ystadegyn go iawn o'r un o bob pedwar o bobl ag iechyd meddwl: a ydych chi'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, fod gan bedwar o bob pedwar o bobl iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae fy un i'n waeth na'ch un chi, ac fel arall, ac mae hwnnw'n fater y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef, ac fel rydych wedi'i awgrymu, mae angen gwella rhai gwasanaethau a'u gwneud yn fwy hygyrch? Mae yna lefel o wasanaeth, fel yr awgrymodd John Griffiths, gyda chlwb pêl-droed Casnewydd—clwb gwych—ond hefyd mae yna wasanaeth rydym yn ei ddarparu i'n gilydd, ac mae'r Aelod wedi codi fy nghalon ar fy nyddiau ofnadwy, pan nad oeddwn eisiau canolbwyntio ar y diwrnod, gyda choflaid syml a chwtsh. Mae hynny yr un mor bwysig. A ydych chi'n cytuno â hynny?
Rwy'n sicr yn cytuno fod cwtsh syml yn gwneud gwahaniaeth enfawr weithiau ac rwyf hefyd yn cydnabod bod pawb yn cael diwrnodau gwael gyda'u hiechyd meddwl. Gallant deimlo'n isel neu'n ofidus neu'n bryderus am bob math o bethau gwahanol. Ac mae'n rhaid inni gydnabod na ddylai fod stigma ynghlwm wrth iechyd meddwl gwael. Mae'n rhaid inni sicrhau, fel y dywedodd Altaf Hussain, ei fod yn cael yr un flaenoriaeth ag iechyd corfforol pobl ac yn anffodus nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd.
Hoffwn ddychwelyd at yr ystadegau yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, asesiadau iechyd meddwl o fewn 28 diwrnod i bobl o bob oedran: dim ond 59 y cant o bobl sy'n cael eu gweld o fewn y targed hwnnw. Ac i bobl ifanc, yn anffodus, Ddirprwy Weinidog, mae'n waeth byth: ychydig dros chwarter sy'n cael eu hasesu o fewn y targed hwnnw, y cyfnod o 28 diwrnod, ac mae hyn er gwaethaf y ffocws a roddwyd i'r mater dair blynedd yn ôl pan gyhoeddwyd yr adroddiad, 'Cadernid Meddwl'. Gwyddom hefyd fod un o bob pedwar o'r rheini'n aros am amser hir iawn am therapi ar ôl eu hasesu, hyd at 18 mis mewn rhai achosion yng ngogledd Cymru, ac yn amlwg nid yw hynny'n ddigon da pan fyddwn yn sôn am fywydau pobl ac eisiau eu harfogi â'r gallu i wella eu hiechyd meddwl drostynt eu hunain.
Adeiladwyd yr uned CAMHS yn Abergele, gwasanaeth pobl ifanc gogledd Cymru, yn 2008. Fe'i hagorwyd gan Edwina Hart, y Gweinidog iechyd ar y pryd. Roedd 18 o welyau yn yr uned honno, ac mae 18 o welyau yn yr uned honno o hyd, ond nid yw erioed wedi'i defnyddio ar gapasiti llawn. Ar hyn o bryd, dim ond 12 o welyau sy'n cael eu defnyddio gan bobl sydd eu hangen, ac yn anffodus rydym yn dal i anfon pobl filltiroedd i ffwrdd dros y ffin i Loegr er mwyn iddynt gael gwasanaethau y gallent eu cael ar garreg eu drws yng ngogledd Cymru.
Felly, hoffwn eich annog, Ddirprwy Weinidog: cadwch eich ffocws ar y mater hwn. Gwn yn bendant fod eich calon gyda phawb yn y Siambr hon yn eich awydd i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ond byddai fy etholwyr a minnau'n ddiolchgar iawn pe baech yn rhoi amser i ganolbwyntio ar yr heriau sydd wedi bodoli'n gyson yng ngogledd Cymru ers chwe blynedd bellach. Gwyddom fod enghreifftiau o arferion da ledled y wlad, ond hoffem pe baent i'w gweld yn fwy cyson yn ein hardal ni.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi siarad heddiw. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a chyda Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu, mae hwn yn gyfle da i drafod pwysigrwydd diogelu a chefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant. Mae 12 mis wedi bod ers i ni ddechrau gweithredu ein cynllun cyflawni, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddiwygiwyd mewn ymateb i'r pandemig, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd ar ein cynnydd i'r Aelodau mewn datganiad yn y Siambr hon yr wythnos nesaf.
Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl ni i gyd mewn sawl ffordd wahanol iawn. Fel y mae Jack Sargeant wedi nodi, mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac ar rai dyddiau mae'n dda, ar rai dyddiau nid yw cystal. Rydym wedi gweld bod rhai pobl wedi teimlo'n bryderus ac ynysig ac ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud a rhai pobl hefyd yn bryderus ynglŷn ag ailymuno â chymdeithas wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi. I rai, gwyddom fod y pandemig yn gyfle i ailgysylltu â chymunedau, wrth i gymdogion gefnogi ei gilydd, ac wrth i deuluoedd allu treulio mwy o amser gyda'i gilydd. Dyna pam, er bod effaith COVID yn debygol o fod yn niweidiol, ei bod yn hanfodol inni ddeall yr effaith ar rai grwpiau mewn mwy o fanylder.
Rydym yn parhau i gryfhau'r trefniadau a roddwyd ar waith ar ddechrau'r pandemig. Mae ein cymorth dadansoddi yn tynnu sylw at y dystiolaeth a'r canlyniadau diweddaraf o arolygon poblogaeth yng Nghymru a ledled y DU. Rydym wedi sefydlu bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog ar iechyd meddwl, a gadeirir gennyf fi'n bersonol. Mae'n rhoi mwy o sicrwydd i mi am y cynnydd a wneir ar gyflawni ein rhaglen waith iechyd meddwl, ond hefyd mae'n rhoi cyfle imi herio os teimlaf nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud neu nad yw pethau'n cael eu gwneud yn ddigon cyflym. Yn bwysig iawn, mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi i gryfhau ein cymorth dadansoddol.
Mae dadansoddi'n dangos, er bod lefelau pryder wedi aros yn uwch nag yr oeddent cyn y pandemig, ein bod wedi gweld amrywiadau, ac yn ddealladwy, mae lefelau pryder wedi gostwng wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Mae agweddau ar iechyd a llesiant personol, pryder am iechyd a llesiant pobl eraill, a chyllid personol i gyd wedi achosi pryderon i unigolion i wahanol raddau yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwyddom hefyd nad yw'r effaith wedi'i theimlo'n gyson ar draws pob grŵp. Dengys ymatebion i arolygon fod rhai grwpiau o bobl, megis rhai â chyflyrau iechyd meddwl a oedd yn bodoli eisoes, oedolion ifanc, cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, rhai ar aelwydydd incwm is a menywod, er enghraifft, yn adrodd am lefelau uwch o bryderon iechyd meddwl nag eraill, ac wedi gwneud hynny drwy gydol y pandemig. Gwyddom fod arolygon gan Gomisiynydd Plant Cymru hefyd yn tynnu sylw at yr effaith ar blant a phobl ifanc.
Ym mis Hydref 2020, diwygiwyd ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' mewn ymateb i'r newidiadau hyn a thystiolaeth arall, ac mae bellach yn cynnwys ystod o gamau gweithredu newydd neu gamau gweithredu wedi'u cyflymu i ddarparu cymorth ychwanegol lle mae ei angen fwyaf. Yn fwyaf arbennig, rydym wedi cryfhau ac ehangu ein cynnig haen 0 i ddarparu mynediad agored at ystod o gymorth iechyd meddwl anghlinigol. Gellir cael mynediad at hwn dros y ffôn neu ar-lein ac nid oes angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol. Caiff llawer o'r cymorth hwn ei ddarparu gan y trydydd sector, a hoffwn ategu diolch Tom Giffard iddynt, ac maent hefyd mewn sefyllfa mor dda i gyrraedd y cymunedau mwyaf bregus ac sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf ledled Cymru. Gwyddom hefyd, i rai grwpiau, fod goresgyn stigma wrth geisio cymorth iechyd meddwl yn arbennig o anodd. Felly, mae ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys camau gweithredu penodol a oruchwylir gan is-grŵp stigma a gwahaniaethu ein bwrdd partneriaeth cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl. Mae hwn yn cynnwys grŵp gorchwyl a gorffen penodol ar gyfer pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd ar hyn o bryd yn adolygu pa gamau pellach sydd eu hangen i gynorthwyo cymunedau amrywiol i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl.
Mewn perthynas â'r cynnig heddiw, rwyf hefyd yn cydnabod yr angen i gryfhau ein trosolwg mewn ymateb i nifer yr achosion o hunan-niweidio yng Nghymru. Mae ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe yn dangos, er ein bod wedi gweld cynnydd mewn hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc dros y 10 mlynedd diwethaf, fod y niferoedd wedi gostwng ar draws pob oedran yn ystod y pandemig, yn seiliedig ar nifer y derbyniadau i'r ysbyty ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae nifer yr achosion o hunan-niweidio bellach yn debyg i'r lefelau cyn y pandemig. Ond nid wyf yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd. Mae ymddygiad hunan-niweidio yn gymhleth, ac nid yw data derbyniadau'r GIG ond yn un elfen o'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddeall lefelau hunan-niweidio yng Nghymru yn well. Fe wnawn bopeth yn ein gallu i leihau nifer yr achosion o hunan-niweidio. Gallaf gadarnhau bod uned gomisiynu gydweithredol GIG Cymru a Gwelliant Cymru yn sefydlu rhaglen waith i adolygu'r dystiolaeth a'r data i gefnogi ein dulliau o atal hunan-niweidio.
Mewn ymateb i sylwadau Janet Finch-Saunders am gyfraddau hunanladdiad, a gaf fi sicrhau'r Aelod ein bod yn monitro cyfraddau hunanladdiad yn agos iawn fel sy'n digwydd ledled y DU? Mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn awgrymu nad ydym yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad o ganlyniad i'r pandemig, ond nid ydym mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon ynglŷn â hynny. Dyna pam ein bod yn cyflwyno ffordd o gadw gwyliadwriaeth mewn amser real fel y gallwn—[Torri ar draws.] Ewch chi.
Diolch. Yn ddiweddar, mae Esgob Bangor wedi cysylltu â mi ac wedi nodi ei bryderon real, difrifol ynglŷn â nifer y bobl sy'n cyflawni hunanladdiad yng ngogledd Cymru. Yn fwyaf arbennig, mae wedi tynnu sylw at ddynion ifanc. A yw'n bosibl, felly—? Mae wedi gofyn—roeddwn am ysgrifennu atoch—a fyddech yn ystyried cynnal cyfarfod fel y gallwn drafod y pryderon hynny. Oherwydd os oes clerigwr yn dweud bod problem, yn amlwg, mae'n aelod gweithgar o'r gymuned, a chredaf y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'w bryderon.
Diolch am hynny, Janet. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â'r unigolyn a grybwyllwch, ond dylwn ailbwysleisio nad ydym, diolch byth, yn gweld cynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn fod pob un ohonom yn wirioneddol gyfrifol yn yr iaith a ddefnyddiwn ynglŷn â hunanladdiad, oherwydd pan soniwn am gyfraddau, mae pobl yn dweud pethau fel, 'Cyfraddau'n mynd drwy'r to', ac yn y blaen. Mae pobl fregus yn clywed hynny a gall ddylanwadu ar eu hymddygiad.
Rydym yn cadw gwyliadwriaeth mewn amser real fel ein bod yn ymwybodol, heb orfod aros am gwestau, beth yw'r gyfradd hunanladdiad wirioneddol ar sail barhaus. Ac mae hyn hefyd yn golygu y gallwn roi cymorth ar unwaith i'r teuluoedd a'r bobl eraill sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Rydych yn llygad eich lle am effaith hunanladdiad; mae'n dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Yr hyn rydym eisiau ei wneud—ac rwy'n hyderus ein bod yn gwneud cynnydd ar hynny—yw sefydlu llwybr profedigaeth ar ôl hunanladdiad a sicrhau ei fod ar gael i bawb y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt.
I droi, felly, at wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig, fel y gŵyr yr Aelodau, maent wedi parhau i fod ar gael yn ystod y pandemig, ond mae amseroedd aros i gael cymorth wedi'u heffeithio ac nid yw rhai targedau wedi'u cyrraedd. Rydym yn cydnabod bod amseroedd aros ledled Cymru, yn enwedig i blant a phobl ifanc, yn her, ond gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod yn benderfynol o fynd i'r afael â'r her honno fel mater o frys.
Fodd bynnag, nid newid targedau na chreu rhai newydd yw'r ateb yma. Drwy fy nghysylltiad rheolaidd â byrddau iechyd, rwy'n pwyso arnynt gyda fy nghynlluniau i fynd i'r afael ag amseroedd aros, ac rwyf wedi mynd gam ymhellach pan fyddaf wedi teimlo bod y sefyllfa'n fwy difrifol, tra'n cydnabod nad yw hyn yn rhywbeth y gellir ei ddatrys dros nos. Ac fel y dywedais eisoes, rydym wedi buddsoddi'n helaeth yn ein cymorth mynediad agored haen 0. Ar yr un pryd, rwy'n benderfynol o ddatblygu ein dull system gyfan o ymyrraeth gynnar ac atal ar gyfer plant ac oedolion er mwyn sicrhau y gall pawb gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Bydd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth a lleihau amseroedd aros.
Rydym yn gwneud cynnydd da o ran gwella gofal argyfwng, a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn yn fy natganiad yr wythnos nesaf. Gallaf ailadrodd ein hymrwymiad i sicrhau bod un pwynt cyswllt iechyd meddwl 24/7 ar gael i bob oedran ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Ebrill 2022. Fodd bynnag, un elfen yn unig yw ymateb y GIG yn yr ymateb trawslywodraethol ac amlasiantaethol ehangach sydd ei angen. Fel y dywedodd John Griffiths yn ei gyfraniad, mae iechyd meddwl yn fusnes i bawb.
Rwy'n deall yn iawn fod sicrhau bod cael y gweithlu cywir ar waith yn hollbwysig, ac mae ein cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl yn cynnwys hyn fel nod sylfaenol. Yn ogystal ag ehangu'r gweithlu, rydym hefyd angen y cymysgedd cywir o weithwyr proffesiynol sy'n gallu darparu cymorth iechyd meddwl. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud cynnydd da ar ddatblygu gweledigaeth a chynllun gweithlu trawsnewidiol mwy hirdymor ar gyfer iechyd meddwl a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar weithlu'r GIG yn ei gyfanrwydd, felly yn ogystal â'r gwaith blaengynllunio y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ei wneud, rwyf hefyd yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud yn awr i gryfhau ein gweithlu presennol yng ngoleuni'r pwysau presennol ar y gweithlu a'n rhagolwg o gynnydd yn y galw iechyd meddwl. Byddaf yn dweud mwy am hynny wrth y Siambr maes o law.
Ddirprwy Weinidog, os gallwch ddirwyn i ben yn awr.
O, a yw fy amser wedi dod i ben?
Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi oherwydd yr ymyriad, ond rydych wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny.
A gaf fi droi, felly, at welliant Plaid Cymru? Rwyf wedi trafod y cynlluniau hyn y mae Plaid Cymru yn eu cyflwyno gyda Rhun ap Iorwerth o'r blaen, ond credaf mai ein dull presennol o sicrhau bod cymorth ataliol yn cael ei ddarparu ar draws nifer o leoliadau—drwy ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid a gwasanaethau, lle mae plant yn byw eu bywydau bob dydd—yw'r un cywir. Bydd ein fframwaith NYTH newydd, a gydgynhyrchir gyda phobl ifanc ledled Cymru, ynghyd â'n dull ysgol gyfan, yn cyflawni hynny.
A gaf fi gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud bod ysgogi newid a gwelliant mewn cymorth iechyd meddwl, yn enwedig i blant a phobl ifanc, wedi bod yn ganolog yn fy ngwaith yn y Senedd hon? O dan fy arweiniad i, cyhoeddwyd adroddiad 'Cadernid Meddwl' y pwyllgor plant a phobl ifanc. Rwy'n falch o'r newidiadau a ddaeth yn sgil yr adroddiad hwnnw, yn enwedig datblygu ein dull ysgol gyfan a rhoi ffocws cryf iawn ar ymyrraeth gynnar. Mae mwy o waith i'w wneud ar draws y system gyfan, ond gall yr Aelodau fod yn sicr fy mod yn gwbl benderfynol o gyflawni'r agenda hon ar gyfer plant ac oedolion yn fy rôl newydd yn y Llywodraeth. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch i bob un Aelod am gyfrannu i'r ddadl ac i'r Dirprwy Weinidog am ymateb.
Diolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan, ac i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb a'i phenderfyniad diwyro i sicrhau'r newid angenrheidiol yn hyn o beth.
Rydym yn sefyll yma ar adeg dyngedfennol, ac o ystyried bod y pwnc sy'n cael ei drafod heddiw mor berthnasol, byddwn ar fai pe na bawn yn rhannu fy stori bersonol fy hun. Fel yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, rwyf finnau hefyd yn ystadegyn. Fel nifer o bobl y llynedd, yn ystod y cyfyngiadau symud, pan oedd newydd-deb gweithio gartref wedi pylu a phan nad oeddem ond yn gweld ffrindiau ar gwisiau galwadau Zoom, roeddwn yn teimlo'n ynysig ac yn unig, a châi hyn ei ddwysáu gan y ffaith fy mod yn byw ar fy mhen fy hun. Fel y soniodd Delyth Jewell, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, mae'n anodd ei fesur, ac nid oeddwn yn sylweddoli bod hyn yn digwydd ar y pryd, fy mod yn cael trafferth. Roeddwn yn fyr fy nhymer ac yn bigog. Yn hytrach na mynd ar deithiau cerdded yn gynnar yn y bore, byddwn yn cuddio o dan y dwfe. Rwy'n edrych yn ôl yn awr ac yn sylweddoli, gydag eglurder llwyr, fod fy iechyd meddwl dan straen. Diolch byth, wrth i'r cyfyngiadau symud lacio, gallwn gyfarfod â ffrindiau a gwneud chwaraeon. Gwn mai cerddoriaeth oedd y peth i'r Aelod dros Islwyn; i mi, chwaraeon ydoedd. Teimlwn fy iechyd meddwl yn gwella ar unwaith. O siarad â ffrindiau a chydweithwyr, gwn nad fi oedd yr unig un a deimlai fel hyn yn ystod y cyfyngiadau symud.
Ond mae'n dangos nad oes neb yn ddiogel rhag iechyd meddwl gwael. Bydd llawer ohonom, ar ryw adeg, yn dioddef i wahanol raddau. Fel y dywedodd Altaf Hussain, nid oes ffiniau i iechyd meddwl ac nid yw'n gwahaniaethu. Fodd bynnag, fel y nododd yr Aelod dros Orllewin De Cymru, Tom Giffard, yn briodol, roedd gwasanaethau iechyd meddwl Cymru yn ei chael hi'n anodd ymhell cyn COVID, ac fel y mae, rwy'n amau y bydd yr un anawsterau'n parhau ymhell ar ôl y pandemig. Dyna pam y mae'r cynnig hwn sydd gerbron yr Aelodau heddiw mor bwysig. Mae wedi bod yn anodd gwrando ar yr ystadegau niferus y prynhawn yma: bydd un o bob pedwar yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau; mae unigrwydd wedi cynyddu i 26 y cant yn ystod y pandemig; mae cynnydd sydyn wedi bod yn nifer y gwrth-iselyddion sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn, fel y soniodd yr Aelod dros Aberconwy; a'r ffaith nad yw targed Llywodraeth Cymru o gyflawni 80 y cant o asesiadau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod wedi'i gyrraedd dros yr wyth mis diwethaf. O ganlyniad i hyn, gwelsom sefydliadau a arweinir gan y gymuned ledled Cymru yn arwain y ffordd drwy ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n achub bywydau.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i ddau sefydliad elusennol sy'n gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Yn sir Benfro, cafodd y cyn filwr Barry John syniad: helpu i gefnogi cyn-filwyr ein lluoedd arfog gyda'u hiechyd meddwl drwy therapi celf. O'r syniad hwnnw, ganed Oriel VC yn Noc Penfro a Hwlffordd. Gyda chefndir artistig Barry a'i gysylltiad â gwaith iechyd meddwl, fe welodd yr angen yn y gymuned am ei arbenigedd a'i brofiadau. Nawr, mae Oriel VC yn gweithio gyda chyn-filwyr, pobl hŷn, plant, ac unrhyw un sy'n teimlo bod angen amser arnynt i gymdeithasu a mynegi eu hunain drwy gelf. Yn genedlaethol, mae sefydliadau fel Sefydliad DPJ sy'n gweithio gyda'n cymuned amaethyddol, sector sydd â lefelau brawychus o uchel o broblemau iechyd meddwl, i roi cymorth i rannu'r baich i'r rhai sydd ei angen. Wedi trasiedi hunanladdiad Daniel Picton-Jones, penderfynodd ei weddw, Emma, greu'r sefydliad i gefnogi iechyd meddwl pobl yn y sector ffermio, i'r rheini sy'n teimlo'n union fel y teimlai Daniel, gan roi'r cymorth na wyddai ef sut i'w gael iddynt.
Nid yw'r elusennau eithriadol hyn ond yn ddwy enghraifft ymhlith llawer sy'n darparu cymorth, arweiniad, clust i wrando a hyd yn oed ysgwydd i grio arni ar gyfer y rhai sydd ei hangen. Ac wrth ymateb i'r Aelod o Ddwyrain Casnewydd, mae'r hyn y mae clwb pêl-droed Casnewydd yn ei wneud yn wych. Gwn yn bersonol fod chwaraeon yn ysgogiad mor wych i wella iechyd meddwl. Ond ni ddylai fod yn rhaid i glybiau chwaraeon ac elusennau wneud y gwaith hwn ar eu pen eu hunain. Dyna pam y mae'r cynnig hwn mor bwysig—i gyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol, cynllun gweithlu iechyd meddwl clir ac adroddiadau blynyddol a thargedau ar gyfer amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau.
Po fwyaf a ddysgwn am iechyd meddwl, yn wir, po fwyaf y siaradwn am iechyd meddwl, gorau oll y gallwn ddarparu cymorth defnyddiol wedi'i dargedu i'r rheini yn ein bywydau sy'n cael trafferth gyda chyflyrau iechyd meddwl. Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, ond nid yw'n iawn inni beidio â gwneud dim ynglŷn â'r ddarpariaeth iechyd meddwl. Ddirprwy Weinidog, rwy'n edrych ymlaen at eich datganiad ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yn y dyfodol, ond heddiw, rwy'n annog yr holl Aelodau i bleidleisio dros y cynnig hwn. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.