Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan, ac i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb a'i phenderfyniad diwyro i sicrhau'r newid angenrheidiol yn hyn o beth.
Rydym yn sefyll yma ar adeg dyngedfennol, ac o ystyried bod y pwnc sy'n cael ei drafod heddiw mor berthnasol, byddwn ar fai pe na bawn yn rhannu fy stori bersonol fy hun. Fel yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, rwyf finnau hefyd yn ystadegyn. Fel nifer o bobl y llynedd, yn ystod y cyfyngiadau symud, pan oedd newydd-deb gweithio gartref wedi pylu a phan nad oeddem ond yn gweld ffrindiau ar gwisiau galwadau Zoom, roeddwn yn teimlo'n ynysig ac yn unig, a châi hyn ei ddwysáu gan y ffaith fy mod yn byw ar fy mhen fy hun. Fel y soniodd Delyth Jewell, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, mae'n anodd ei fesur, ac nid oeddwn yn sylweddoli bod hyn yn digwydd ar y pryd, fy mod yn cael trafferth. Roeddwn yn fyr fy nhymer ac yn bigog. Yn hytrach na mynd ar deithiau cerdded yn gynnar yn y bore, byddwn yn cuddio o dan y dwfe. Rwy'n edrych yn ôl yn awr ac yn sylweddoli, gydag eglurder llwyr, fod fy iechyd meddwl dan straen. Diolch byth, wrth i'r cyfyngiadau symud lacio, gallwn gyfarfod â ffrindiau a gwneud chwaraeon. Gwn mai cerddoriaeth oedd y peth i'r Aelod dros Islwyn; i mi, chwaraeon ydoedd. Teimlwn fy iechyd meddwl yn gwella ar unwaith. O siarad â ffrindiau a chydweithwyr, gwn nad fi oedd yr unig un a deimlai fel hyn yn ystod y cyfyngiadau symud.
Ond mae'n dangos nad oes neb yn ddiogel rhag iechyd meddwl gwael. Bydd llawer ohonom, ar ryw adeg, yn dioddef i wahanol raddau. Fel y dywedodd Altaf Hussain, nid oes ffiniau i iechyd meddwl ac nid yw'n gwahaniaethu. Fodd bynnag, fel y nododd yr Aelod dros Orllewin De Cymru, Tom Giffard, yn briodol, roedd gwasanaethau iechyd meddwl Cymru yn ei chael hi'n anodd ymhell cyn COVID, ac fel y mae, rwy'n amau y bydd yr un anawsterau'n parhau ymhell ar ôl y pandemig. Dyna pam y mae'r cynnig hwn sydd gerbron yr Aelodau heddiw mor bwysig. Mae wedi bod yn anodd gwrando ar yr ystadegau niferus y prynhawn yma: bydd un o bob pedwar yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau; mae unigrwydd wedi cynyddu i 26 y cant yn ystod y pandemig; mae cynnydd sydyn wedi bod yn nifer y gwrth-iselyddion sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn, fel y soniodd yr Aelod dros Aberconwy; a'r ffaith nad yw targed Llywodraeth Cymru o gyflawni 80 y cant o asesiadau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod wedi'i gyrraedd dros yr wyth mis diwethaf. O ganlyniad i hyn, gwelsom sefydliadau a arweinir gan y gymuned ledled Cymru yn arwain y ffordd drwy ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n achub bywydau.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i ddau sefydliad elusennol sy'n gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Yn sir Benfro, cafodd y cyn filwr Barry John syniad: helpu i gefnogi cyn-filwyr ein lluoedd arfog gyda'u hiechyd meddwl drwy therapi celf. O'r syniad hwnnw, ganed Oriel VC yn Noc Penfro a Hwlffordd. Gyda chefndir artistig Barry a'i gysylltiad â gwaith iechyd meddwl, fe welodd yr angen yn y gymuned am ei arbenigedd a'i brofiadau. Nawr, mae Oriel VC yn gweithio gyda chyn-filwyr, pobl hŷn, plant, ac unrhyw un sy'n teimlo bod angen amser arnynt i gymdeithasu a mynegi eu hunain drwy gelf. Yn genedlaethol, mae sefydliadau fel Sefydliad DPJ sy'n gweithio gyda'n cymuned amaethyddol, sector sydd â lefelau brawychus o uchel o broblemau iechyd meddwl, i roi cymorth i rannu'r baich i'r rhai sydd ei angen. Wedi trasiedi hunanladdiad Daniel Picton-Jones, penderfynodd ei weddw, Emma, greu'r sefydliad i gefnogi iechyd meddwl pobl yn y sector ffermio, i'r rheini sy'n teimlo'n union fel y teimlai Daniel, gan roi'r cymorth na wyddai ef sut i'w gael iddynt.
Nid yw'r elusennau eithriadol hyn ond yn ddwy enghraifft ymhlith llawer sy'n darparu cymorth, arweiniad, clust i wrando a hyd yn oed ysgwydd i grio arni ar gyfer y rhai sydd ei hangen. Ac wrth ymateb i'r Aelod o Ddwyrain Casnewydd, mae'r hyn y mae clwb pêl-droed Casnewydd yn ei wneud yn wych. Gwn yn bersonol fod chwaraeon yn ysgogiad mor wych i wella iechyd meddwl. Ond ni ddylai fod yn rhaid i glybiau chwaraeon ac elusennau wneud y gwaith hwn ar eu pen eu hunain. Dyna pam y mae'r cynnig hwn mor bwysig—i gyflwyno canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr ar lefel genedlaethol, cynllun gweithlu iechyd meddwl clir ac adroddiadau blynyddol a thargedau ar gyfer amseroedd aros am driniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys lleihau ôl-groniadau.
Po fwyaf a ddysgwn am iechyd meddwl, yn wir, po fwyaf y siaradwn am iechyd meddwl, gorau oll y gallwn ddarparu cymorth defnyddiol wedi'i dargedu i'r rheini yn ein bywydau sy'n cael trafferth gyda chyflyrau iechyd meddwl. Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, ond nid yw'n iawn inni beidio â gwneud dim ynglŷn â'r ddarpariaeth iechyd meddwl. Ddirprwy Weinidog, rwy'n edrych ymlaen at eich datganiad ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yn y dyfodol, ond heddiw, rwy'n annog yr holl Aelodau i bleidleisio dros y cynnig hwn. Diolch yn fawr.