Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar destun iechyd meddwl a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Dydd Sul yma, 10 Hydref, yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Dylem fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar ein hiechyd meddwl ein hunain, a iechyd meddwl ein ffrindiau a'n teulu, a'r hyn y gallwn ni fel Aelodau o'r Senedd ei wneud i hybu iechyd meddwl cadarnhaol ledled Cymru. Mae hefyd yn ddiwrnod lle mae angen i bob un ohonom ystyried a rhoi amser i ofyn i rywun sut y maent yn teimlo. Mae'n ddiwrnod pan ddylem anfon neges destun at hen ffrind, cael sgwrs Zoom gyda chydweithiwr neu gyfarfod am goffi gydag aelod o'r teulu. Efallai na fyddwch chi byth yn gwybod y gwahaniaeth y gall gweithred fach ei wneud i rywun sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.
Nid yw COVID-19 wedi bod yn garedig i'n hiechyd meddwl. Ac yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer y plant ac oedolion sy'n dioddef. Byddai'n anghywir i mi beidio â dechrau drwy sôn am waith nifer fawr o elusennau iechyd meddwl ledled Cymru a'r DU sy'n gwneud gwaith gwych ym mhob un o'n cymunedau. Mae Mental Health Matters yn darparu gwasanaethau hanfodol, megis hybiau llesiant a grwpiau cefnogi cymheiriaid ar gyfer gorbryder ac iselder, tra bod y Samariaid yn gweithredu gwasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gwirfoddolwyr sy'n ateb y galwadau, a hwy yw'r arwyr di-glod sydd heb amheuaeth wedi achub bywydau di-rif ac sydd yno i ni yn ein hawr o angen, ac mae angen i ni fod yno iddynt hwy yn eu hawr hwythau o angen.
Yng Nghymru, mae COVID-19 wedi amlygu anghydraddoldebau iechyd meddwl a oedd eisoes yn bodoli o dan Lywodraeth Lafur Cymru, gyda llawer o wasanaethau wedi eu hymestyn i'r eithaf, ôl-groniadau cynyddol a llai o bobl yn cael cymorth mawr ei angen. Amlinellodd Mind Cymru yn eu hadroddiad 'Rhy hir i aros' fod miloedd o bobl, hyd yn oed cyn y pandemig, yn aros yn hirach nag erioed i gael therapi seicolegol. Gwelsant na chyrhaeddwyd y targed o 80 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn 26 wythnos yn unrhyw un o'r 17 mis hyd at fis Awst 2020. Ond nid oes amheuaeth fod COVID-19 wedi gwneud y broblem yn waeth, oherwydd wrth gymharu mis Awst 2020 â'r un cyfnod yn 2019, tra bod nifer y bobl a oedd yn aros i ddechrau therapïau seicolegol wedi gostwng o 7,198 i 5,208, canfu Mind hefyd fod nifer y bobl sy'n aros yn hwy na 26 wythnos wedi codi 4 y cant, a bod y rhai sy'n aros yn hirach na blwyddyn wedi codi 17 y cant. Ac efallai nad yw hyd yn oed y gostyngiad yn nifer yr unigolion ar y rhestr aros yn newyddion mor dda ag y mae'n swnio. Mae'n golygu, yn ôl pob tebyg, fod llai o bobl yn gofyn am gymorth yn y lle cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnynt, oherwydd y pandemig.
Ac yn anffodus, mae pawb ohonom yn gwybod am yr effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar ein hiechyd meddwl, yn enwedig pobl iau. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, dywedodd dros hanner oedolion Cymru a thri chwarter y bobl ifanc fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu at ei gilydd yn ystod misoedd cynnar y pandemig. Ac er bod pryder am y pandemig yn gyffredinol wedi lleihau ymhlith oedolion y DU, o 42 y cant ym mis Chwefror 2021, roedd unigrwydd wedi codi o 10 y cant ym mis Mawrth 2020 i 26 y cant flwyddyn yn ddiweddarach. Ac efallai'n fwyaf amlwg, roedd mwy na 10 marwolaeth ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn 2020 yn hunanladdiad, ac mae'r gyfradd honno yn aml dair i bedair gwaith yn uwch ymhlith dynion nag ymhlith menywod.
Mae angen i'r strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd nesaf adlewyrchu'r newidiadau sylweddol a welsom yn y Gymru ôl-COVID. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw i ble'r oeddem ddwy flynedd yn ôl, ac mae angen i strategaeth newydd adlewyrchu hynny. Felly, yn y goleuni hwn, mae gwelliannau'r Llywodraeth heddiw yn siomedig iawn. Heddiw, mae gennym gyfle gwirioneddol i gyflwyno strategaeth hirdymor er mwyn sicrhau adolygiad priodol o wasanaethau iechyd meddwl fel eu bod yn addas ar gyfer heddiw a'r dyfodol. Felly, mae eu gweld wedi'u glastwreiddio gan welliannau'r Llywodraeth yn gyfle a gollwyd go iawn. Rydym angen targedau, ac rydym angen canlyniadau, a'r Senedd hon i allu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu cylch. Ac mae arnaf ofn nad yw gwelliannau'r Llywodraeth yn cyflawni'r un o'r amcanion hynny.
Mae ein cynnig yn adeiladol. Nid ydym yn ei gyflwyno heddiw i daflu bai ar y Llywodraeth nac unrhyw un arall. Er bod problemau amlwg yn y gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru cyn y pandemig, rydym i gyd yn cydnabod bod y flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi rhoi straen anhygoel ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Mae angen diweddaru'r atebion i fynd i'r afael â'r broblem er mwyn adlewyrchu hynny, a dyna pam y galwaf ar bob Aelod o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw.