Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 12 Hydref 2021.
Diolch i Carolyn Thomas, Llywydd, am y cwestiwn yna. Y llynedd, fe wnaethom ni gynnull y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, i edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau'r gweithlu. Rydym ni wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yn ystod y tymor Senedd hwn ac rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â hyn.