Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 12 Hydref 2021.
Wel, Llywydd, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o allu darparu taliad o £500 yn gynnar yn y pandemig, a £735 yn ddiweddarach yn y pandemig—£735 gan ein bod ni wedi methu â pherswadio Llywodraeth y DU i ganiatáu i'r taliad hwnnw gael ei wneud heb iddo fod yn destun cyfraniadau treth ac yswiriant gwladol. Mae 64,000 o weithwyr yn y sector wedi elwa ar y taliadau hynny. Rwyf i, wrth gwrs, yn fodlon ymchwilio i unrhyw anghysondeb, a byddaf i'n nodi'r pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud yn benodol, wrth gymeradwyo'r pwynt a wnaeth yn wreiddiol am y gydnabyddiaeth y bwriadwyd i'r taliadau hynny ei rhoi i bobl sy'n gwneud y swyddi hyn i ni yma yng Nghymru.FootnoteLink