Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 12 Hydref 2021.
Prif Weinidog, ymysg canfyddiadau niferus yr adroddiad mae ei gasgliad bod penderfyniad Llywodraethau'r DU a Chymru i roi'r gorau i brofion cymunedol yn erbyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd ar 12 Mawrth 2020 yn gamgymeriad angheuol a arweiniodd at golli llawer o fywydau. Er gwaethaf y ffaith nad ydych chi wedi cael y cyfle i astudio'r adroddiad, a ydych chi'n cydnabod y feirniadaeth gyffredinol honno? A ydych chi'n derbyn y byddai wedi bod yn well yn ystod cyfnod cynnar hwnnw y pandemig i fod wedi dilyn eich polisi eich hun yng Nghymru, yn annibynnol ar San Steffan, yng nghyswllt hyn, fel y gwnaethoch chi yn wir ar gynifer o faterion eraill yn y camau diweddarach gyda chryn lwyddiant?