1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 12 Hydref 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ar ran y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Sul diwethaf, a chyn i mi symud ymlaen i ofyn fy nghwestiynau, rwy'n siŵr y gwnewch chi a phawb yn y Siambr hon ymuno â mi i anfon ein dymuniadau gorau i'n cyd-Aelod Andrew R.T. Davies wrth iddo gymryd ychydig o amser nawr i ganolbwyntio ar ei iechyd ei hun.
Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o gyllid ychwanegol i ail-flaenoriaethu iechyd meddwl yng ngoleuni pandemig COVID-19. Fodd bynnag, y gwir amdani o hyd yw bod rhai pobl wedi bod heb apwyntiadau wyneb yn wyneb ers sawl mis bellach, ac nid yw rhai wedi gallu cael gafael ar gymorth arbenigol. Rwy'n sylweddoli y bydd datganiad yn ddiweddarach heddiw ar gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ond a wnewch chi ddweud wrthym ni pa gamau wedi eu targedu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd bellach i sicrhau y gall y rhai y mae angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw gael mynediad at wasanaethau lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru?
Diolch i Paul Davies am y cwestiwn yna, ac wrth gwrs rwyf i'n sicr yn cysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd o ran anfon ein dymuniadau gorau ar ran Llywodraeth Cymru a'r Blaid Lafur at arweinydd yr wrthblaid. Rwy'n gobeithio ei weld yn ôl yn ei le yn y Siambr cyn gynted ag y mae'n teimlo y gall wneud hynny.
Mae'r pwynt cyffredinol y mae Paul Davies yn ei godi yn un pwysig: roedd hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, fel y dywedodd, dros y penwythnos. Iechyd meddwl yw'r llinell gyllideb fwyaf o hyd yn y GIG cyfan yng Nghymru, ac yn gyffredinol mae ein byrddau iechyd yn gorwario'r swm o arian sy'n cael ei ddyrannu iddyn nhw at y diben hwnnw. Yr hyn y gwnaethom ni geisio ei wneud yn ystod y pandemig oedd cryfhau'r gwasanaethau dim atgyfeiriadau hynny, y gwasanaethau sylfaenol ac ataliol hynny y gall pobl eu cyrraedd heb orfod mynd drwy borthgeidwad yn y lle cyntaf, a chael cymorth pan fyddan nhw'n teimlo'r angen i wneud hynny gyntaf. Rydym ni'n canolbwyntio yn benodol ar hynny gyda phobl ifanc, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn ein buddsoddiad cynyddol mewn cwnsela mewn ysgolion, yn y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud gyda'r gwasanaeth ieuenctid i wneud yn siŵr bod gweithwyr yno mor barod ag y gallan nhw fod i ymateb i anghenion pobl ifanc, ac yn ein hymrwymiad i'r dull ysgol gyfan.
Mae'r galw am wasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y pandemig ac mae'n rhaid i'r gallu i ddarparu'r gwasanaethau hynny wyneb yn wyneb ystyried yr amodau clinigol y mae'r gwasanaeth yn gweithredu ynddyn nhw. Ond rwy'n credu bod pobl ymroddedig a phenderfynol iawn ledled Cymru sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn ceisio gwneud yn union yr hyn y mae Paul Davies wedi ei awgrymu.
Prif Weinidog, fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn ogystal â chael trafferth yn cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl, ceir pobl ledled Cymru sy'n cael trafferth fawr yn cael gafael ar eu meddyg teulu hefyd, fel y soniwyd yn gynharach yn y sesiwn hon. Mae'r pandemig wedi amlygu'r ffaith nad oes digon o feddygon a staff ym maes gofal sylfaenol. Er fy mod i'n deall bod gweithgarwch recriwtio wedi digwydd, nid yw hynny'n fawr o gysur i'r cleifion hynny sy'n aros ddydd ar ôl dydd i drefnu apwyntiad i weld eu meddyg teulu. Rwy'n derbyn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, bod y darlun yn gymysg, ond mae llawer yn cael eu gadael yn aros am hyd at awr neu hyd yn oed yn hirach ar y ffôn i siarad â rhywun, a phan fyddan nhw'n cael ateb o'r diwedd, dywedir wrthyn nhw yn aml nad oes unrhyw apwyntiadau ar gael, ac i ffonio eto y diwrnod canlynol.
Rydym ni'n gwybod y bu gostyngiad i nifer y meddygon teulu; yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, rhwng 2018 a 2020, bu gostyngiad i nifer y meddygon teulu fesul 10,000 o'r boblogaeth yn nhri o'n saith bwrdd iechyd—ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Powys ac Aneurin Bevan. Felly, Prif Weinidog, gyda'r niferoedd poblogaeth yn yr ardaloedd hynny yn tyfu dros yr un cyfnod, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith y mae'r gostyngiad i nifer y meddygon teulu yn yr ardaloedd hynny wedi ei chael ar ofal cleifion?
Yr asesiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw na all dyfodol gofal sylfaenol ddibynnu ar feddygon teulu yn unig. Mae natur y boblogaeth meddygon teulu yn newid. Mae'r mathau o gontractau y mae pobl sy'n cyrraedd y byd gofal sylfaenol yn dymuno manteisio arnyn nhw yn newid, ac mae'n rhaid i ni newid gyda nhw. Mae'n rhaid i ni newid gyda nhw yn bennaf drwy ehangu'r amrywiaeth o leisiau proffesiynol sy'n gallu darparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Ni fydd canolbwyntio ar feddygon teulu yn unig yn rhoi i ni y dyfodol cynaliadwy ar gyfer gofal sylfaenol sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru.
Mae meddygon teulu yn parhau i fod yn hanfodol i'r tîm gofal sylfaenol hwnnw—ei arwain, yn gyfrifol am safonau clinigol, gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gweld y bobl hynny dim ond meddyg teulu sy'n gallu eu gweld. Ond ar yr un pryd, byddan nhw'n goruchwylio timau ehangach sy'n cynnwys ffisiotherapyddion, fferyllwyr, nyrsys practis uwch a gweithwyr parafeddygol proffesiynol, y mae pob un ohonyn nhw'n gallu darparu gwasanaeth sy'n effeithiol yn glinigol i bobl y mae angen cyswllt gofal sylfaenol arnyn nhw. Dyna'r ffordd y byddwn ni'n dod o hyd i ddyfodol ar gyfer gofal sylfaenol sy'n diwallu anghenion poblogaeth Cymru ac a all, drwy'r cymysgedd hwnnw o weithwyr proffesiynol a fydd ar y rheng flaen, wneud yn siŵr bod y math cywir o gymorth ar gael i'r claf yn llawer cyflymach na phe baem ni'n dibynnu yn syml ar y model sydd wedi ein gwasanaethu ni yn dda hyd yma, ond sy'n cyrraedd diwedd ei ddefnyddioldeb unigryw.
Prif Weinidog, mae problem ddifrifol yma i gleifion sy'n ceisio cael gafael ar eu meddygon teulu. Mae Mair Hopkin o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi dweud bod yr argyfwng mewn meddygfeydd teulu wedi rhagflaenu COVID mewn gwirionedd, gyda llawer o gleifion yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiad cyn y pandemig, ac yn gorfod aros sawl wythnos am apwyntiad. Rydym ni wedi clywed gan Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor ymarferwyr cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain—mae wedi dweud y bu problemau yn datblygu cyn COVID, yn sgil colli mwy o feddygon teulu i ymddeoliad cynnar. Ac mae meddygon eu hunain wedi tynnu sylw at yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y system gyfan—meddygon fel Dr Oelmann, meddyg teulu ym meddygfa Clark Avenue yng Nghwmbrân, sydd wedi ei gwneud yn eglur nad mater o feddygon teulu yn unig ydyw, ei fod drwy'r system gyfan. Mae ôl-groniadau ym maes gofal eilaidd, y gwasanaeth ambiwlans, gofal cymdeithasol. Mae'n iawn wrth ddweud bod popeth wedi ei gysylltu, ac na ellir ystyried dim ohono ar ei ben ei hun. Mae'n mynd o gwmpas mewn cylch ac yn mynd yn fwy ac yn fwy anodd i staff, ac yn wir i gleifion. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn barn Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol bod yr argyfwng mewn meddygfeydd teulu yn rhagflaenu COVID? Ac, o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael, pa gamau brys wnaiff eich Llywodraeth chi eu cymryd i fynd i'r afael yn benodol â datblygu gofal sylfaenol yn y tymor seneddol hwn? O gofio mai un o nodau eich Llywodraeth chi a nodwyd yn adolygiad 'Cymru Iachach' oedd gwella profiad ac ansawdd y gofal i unigolion a theuluoedd, sut byddwch chi'n cyflawni hyn os bydd nifer y meddygon teulu yn parhau i ostwng, a'n poblogaeth yn parhau i dyfu?
Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am y pwysau sydd ar y system, ac maen nhw ym mhob rhan o'r system. Mae llawer o feddygon teulu wedi dewis ymddeol yn gynnar oherwydd y newidiadau i'w trefniadau pensiwn a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan, a oedd yn golygu nad oedd yn synhwyrol yn ariannol iddyn nhw barhau yn y swyddi yr oedden nhw wedi eu gwneud. Rydym ni wedi annog Llywodraeth y DU droeon i gael gwared ar y cymhellion gwrthnysig sydd wedi arwain at rai pobl yn tynnu eu hunain o'r gweithlu yn gynharach nag y bydden nhw wedi ei wneud fel arall.
Mae dyfodol gwasanaethau meddygon teulu—meddygon teulu yn yr ystyr gul honno—wedi ei seilio ar ein gallu i recriwtio mwy o bobl i'r proffesiwn, ac i hyfforddi yma yng Nghymru. Bydd yn ymwybodol iawn o'r ffigurau iach iawn rydym ni wedi eu sicrhau yn ddiweddar o ran cyrraedd a rhagori ar y targedau roeddem ni wedi eu gosod ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru. Rwy'n credu mewn ateb i gwestiwn yr wythnos diwethaf i mi esbonio sut y byddai nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant yn y gogledd yn cael ei chynyddu eto y flwyddyn nesaf. Nid meddygon teulu yn unig yw'r ateb cyfan i ofal sylfaenol, yn y ffordd yr wyf i wedi ei disgrifio eisoes, Llywydd, a'r hyn y byddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw buddsoddi yn y gronfa ehangach honno o weithwyr proffesiynol, gan newid natur gofal sylfaenol, sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r ffordd y mae pobl sy'n gweithio yn y maes yn ystyried eu dyfodol fel gweithwyr proffesiynol yma yng Nghymru, darparu meddygfeydd yr unfed ganrif ar hugain ar eu cyfer yn unol â'n hymrwymiad ymrwymo iddyn nhw yn ein maniffesto, a pharhau i ddathlu'r ymdrechion sy'n golygu bod miloedd ar filoedd o bobl, ddydd ar ôl dydd, yn cael eu trin yn llwyddiannus gan glinigwyr gofal sylfaenol yng Nghymru bob un dydd.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. I ddechrau, a gaf i ar ran fy mhlaid hefyd anfon ein negeseuon o gefnogaeth at Andrew R.T. Davies? Bydd llawer o bobl wedi cael eu calonogi a'u hysbrydoli ganddo yn siarad yn agored am yr heriau y mae'n eu hwynebu gyda'i les meddwl ac emosiynol ei hun, rhywbeth, wrth gwrs, y bydd llawer ohonom ni'n eu hwynebu ar wahanol adegau yn ein bywydau.
Prif Weinidog, mae ASau yn San Steffan heddiw wedi disgrifio ymateb y DU i'r pandemig fel un o'r methiannau iechyd cyhoeddus gwaethaf yn hanes y DU. Rwy'n cytuno â'r asesiad damniol hwnnw. Prif Weinidog, a ydych chi?
Nid wyf i wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw. Rwyf i wedi gweld adroddiadau papur newydd arno. Mae'n amlwg yn adroddiad sy'n haeddu ystyriaeth briodol, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny. Nid wyf i mewn sefyllfa i gymeradwyo na gwadu unrhyw ddyfarniadau y mae Aelodau Seneddol wedi eu gwneud nes y byddaf i wedi cael cyfle i astudio'r hyn a fu ganddyn nhw i'w ddweud yn fanylach nag yr wyf i wedi cael cyfle i'w wneud hyd yn hyn.
Prif Weinidog, ymysg canfyddiadau niferus yr adroddiad mae ei gasgliad bod penderfyniad Llywodraethau'r DU a Chymru i roi'r gorau i brofion cymunedol yn erbyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd ar 12 Mawrth 2020 yn gamgymeriad angheuol a arweiniodd at golli llawer o fywydau. Er gwaethaf y ffaith nad ydych chi wedi cael y cyfle i astudio'r adroddiad, a ydych chi'n cydnabod y feirniadaeth gyffredinol honno? A ydych chi'n derbyn y byddai wedi bod yn well yn ystod cyfnod cynnar hwnnw y pandemig i fod wedi dilyn eich polisi eich hun yng Nghymru, yn annibynnol ar San Steffan, yng nghyswllt hyn, fel y gwnaethoch chi yn wir ar gynifer o faterion eraill yn y camau diweddarach gyda chryn lwyddiant?
Diolch i Adam Price am hynna. Llywydd, gofynnwyd y cwestiwn i mi droeon, 'A oedd pethau y byddech chi wedi eu gwneud yn wahanol pe baech chi'n gwybod bryd hynny yr hyn rydych chi'n ei wybod nawr?' Rwy'n credu bod y cwestiwn hwnnw yn arbennig o berthnasol i gamau cynnar iawn hynny y coronafeirws, pan nad oeddem ni'n ymwybodol yn yr un ffordd o gynifer o bethau yr ydym ni wedi eu dysgu ers hynny, boed hynny'n brofion cymunedol neu yr enghraifft yr wyf i wedi ei rhoi amlaf, sef: pe baem ni wedi deall i ba raddau yr oedd y coronafeirws eisoes wedi ei sefydlu drwy'r Deyrnas Unedig, ac wedi deall pa mor gyflym y byddai'r feirws hwn yn lledaenu i rannau eraill ac i gymunedau eraill, byddem ni wedi gweithredu yn gynharach i gyflwyno rhai o'r mesurau a gyflwynwyd dim ond yn ail hanner mis Mawrth. Ond doedden ni ddim yn gwybod y pethau hynny bryd hynny. Roeddem ni'n dilyn y cyngor a gawsom ni ar y pryd. Wrth i'n gwybodaeth dyfu ac wrth i ni allu gwneud ein penderfyniadau annibynnol ein hunain oherwydd bod gennym ni'r sylfaen wybodaeth a ganiataodd i ni wneud hynny, fel y mae Adam Price yn ei ddweud, nid yw Llywodraeth Cymru wedi petruso cyn gwneud ein penderfyniadau ein hunain pan oeddem ni'n credu bod hynny er budd pennaf Cymru. Ond ar bob pwynt, rwy'n credu ei bod hi'n deg i bobl feddwl am: yr hyn yr oeddem ni'n ei wybod bryd hynny, yr hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr, ac yng ngoleuni amgylchiadau ar y pryd, a wnaethom ni'r penderfyniadau gorau yr oeddem ni'n gallu eu gwneud?
Rwy'n deall, wrth gwrs, y pwynt am ôl-ddoethineb, ond mae'n debyg mai craidd y mater yma oedd bod gan Sefydliad Iechyd y Byd y craffter ar y pryd i bwysleisio pwysigrwydd profion cymunedol. Yn wir, rwy'n cofio ein plaid ni yn beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i brofion cymunedol ar y pryd, ar y sail honno, oherwydd bod y cyngor yno a gadarnhawyd yn y pen draw mewn gwirionedd o ran ei bwysigrwydd. Yn 147 tudalen cyfan yr adroddiad, am y DU yn ei chyfanrwydd i bob golwg, rwy'n credu mai dim ond naw gwaith y cyfeirir at Gymru, ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau hynny yn y troednodiadau. Onid yw hynny yn hyrwyddo'r ddadl i Gymru gael ei hymchwiliad ei hun, oherwydd hebddo, os byddwn ni'n dirprwyo i San Steffan, bydd profiadau'r teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth y gwnaethoch chi gyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, yn cael eu hanghofio, a bydd y gwersi i Gymru a ddylai gael eu dysgu yn cael eu colli?
Wel, Llywydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud, nid wyf i wedi cael cyfle iawn i astudio'r adroddiad, ond hyd yn oed o'r adroddiad papur newydd yr wyf i wedi ei weld, roedd yn ymddangos i mi ei fod yn cryfhau'r ddadl dros ymchwilio yn iawn i brofiad Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU. Nid bwriad yr adroddiad hwn erioed, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, oedd bod am y profiad yng Nghymru, yr Alban, na Gogledd Iwerddon, ond mae yn nodi yn eglur iawn y penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar lefel y DU, a heb ddeall hynny, ni allwch chi ddeall y ffordd y cafodd penderfyniadau eu gwneud yma yng Nghymru. Ond gadewch i mi ailadrodd, oherwydd gwn fod yr Aelod wedi fy nghlywed i'n dweud hyn o'r blaen, fy mod i wedi bod yn eglur iawn gyda Llywodraeth y DU bod yn rhaid craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, a'r rhai a wnaed gan gyrff perthnasol eraill yng Nghymru, o fewn ymchwiliad y DU gyfan mewn ffordd lawn a chynhwysfawr. Ni all ac ni ddylai Cymru fod yn ôl-ystyriaeth nac yn droednodyn mewn unrhyw ymchwiliad y DU gyfan. Nodais, fel y mae'n gwybod, yn fy llythyr at Michael Gove ar 10 Medi, gyfres o brofion y byddem ni'n eu defnyddio i roi'r hyder i ni, neu fel arall, fod profiad Cymru yn cael y sylw o fewn ymchwiliad ar lefel y DU y mae ei angen ac yn ei haeddu, fel bod y teuluoedd hynny yn cael yr atebion gorau posibl.
Nawr, mae nifer o brofion ar y gorwel i Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Nid wyf i wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw eto, a byddaf yn edrych yn ofalus iawn arno pan fydd yn cyrraedd. Rwy'n gobeithio cael cyfarfod wyneb yn wyneb â Phrif Weinidog y DU yn ystod y diwrnodau nesaf, ac rwy'n bwriadu defnyddio'r cyfle hwnnw i wneud y pwyntiau hyn yn uniongyrchol iddo. Mae wedi addo i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth y bydd arweinydd yr ymchwiliad—rwyf i'n gobeithio mai'r barnwr fydd hynny—i oruchwylio'r ymchwiliad, yn cael ei benodi cyn y Nadolig. Byddwn i'n disgwyl i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon fod yn rhan briodol yn y penodiad hwnnw—nid darllen amdano mewn datganiad i'r wasg. Felly, ceir nifer o ffyrdd y gall Llywodraeth y DU, dros yr wythnosau nesaf, ddangos y bydd hwn yn ymchwiliad sy'n nodi'r camau a gymerwyd ar lefel y DU, gan ddarparu'r cyd-destun priodol felly i ddeall yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru, ond sy'n canolbwyntio ar brofiad Cymru, a fydd yn rhoi hyder i'r bobl a fydd yn edrych arno fod gweithredoedd Llywodraeth Cymru ac eraill wedi bod yn destun craffu llawn a thrwyadl a bod yr atebion i'r cwestiynau sydd gan bobl yn cael sylw priodol yn y broses.