1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2021.
6. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran datblygu cynllun strategol ar gyfer y grid ynni yn y dyfodol hyd at 2050? OQ56989
Llywydd, mae angen cynllun hirdymor integredig ar gyfer y rhwydweithiau nwy a thrydan ar Gymru. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o ran y newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddwyd y tendr am bartner annibynnol i arwain y gwaith hwn ar 29 Medi, a disgwylir i gontractwr gael ei benodi ym mis Tachwedd.
Diolch, Llywydd. Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Gallaf i ddeall bod angen dull wedi ei gynllunio o ddatblygu rhwydweithiau grid, a mabwysiadu dull strategol. Gwelais y datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf ynghylch mabwysiadu dull gweithredu ar y cyd, a Llywodraeth Cymru yn arwain o ran dwyn partïon perthnasol at ei gilydd i gael gafael ar dystiolaeth a'i chasglu, ac i ystyried senarios a chyngor. Yr hyn yr wyf i'n pryderu amdano, Prif Weinidog, yw bod yr holl bartïon yn cael eu dwyn ynghyd yn hyn o beth. Byddwch chi'n ymwybodol o'r hanes hirdymor yn fy etholaeth i o ran prosiect cysylltu canolbarth Cymru.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig, pan fyddwch chi yn dwyn partïon at ei gilydd, yw eich bod chi'n cynnwys yr holl bartneriaid, gan gynnwys grwpiau twristiaeth, busnesau y gallai effeithio arnyn nhw, yr Ymgyrch dros Ddiogelu Cymru Wledig a nifer o bartïon eraill. Mae'n ymddangos, hyd yn hyn—ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi ddweud wrthyf fy mod i'n anghywir—mai'r unig bartïon sy'n cymryd rhan yw'r cwmnïau ynni adnewyddadwy eu hunain, dosbarthwyr rhwydwaith a'r Grid Cenedlaethol. A fydd cyfle i'r rhanddeiliaid eraill hyn yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw hefyd fod yn rhan o'r darn hwn o waith y mae eich Llywodraeth yn arwain arno?
Diolch i Russell George am hynna. Diolch iddo am y cwestiwn, sydd, yn fy marn i, yn un o'r cwestiynau pwysig iawn ar y papur trefn heddiw. Mae Cymru wedi dioddef o'r ffordd y mae'r system bresennol wedi datblygu. Bydd yn gwybod mai'r ffordd y mae datblygiadau grid yng Nghymru wedi digwydd yw ar sail cais. Gwneir ceisiadau gan gwmnïau grid nwy a thrydan i Ofgem. Mae'r ceisiadau hyn yn cystadlu â'i gilydd am fuddsoddiad, ac mae Ofgem wedi gweithredu ar y sail y byddan nhw'n cytuno i gysylltiadau grid uwch dim ond pan fydd y galw eisoes yno ac yn cael ei ddangos. Nawr, diben menter Llywodraeth Cymru yw dod â'r cwmnïau hynny, y chwe chwmni hynny, o amgylch y bwrdd gyda Llywodraeth Cymru a gydag Ofgem i gynllunio'r dyfodol. A bydd yn rhaid i hynny, rwy'n credu, berswadio Ofgem i ariannu cysylltiadau grid lle rhagwelir y bydd galw yn ogystal â'r galw a ddangoswyd eisoes.
Nawr, rwy'n derbyn y pwynt y mae Russell George wedi ei wneud ynghylch pwysigrwydd ystyried cyfres ehangach o fuddiannau ar y daith hon, ac rwy'n credu bod awydd gwirioneddol yng Nghymru ymysg cymunedau ac unigolion i fod yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n gwneud ein system ynni yn addas ar gyfer yr argyfwng newid yn yr hinsawdd sy'n ein hwynebu. Rwyf i wedi bod yn dilyn yn agos ddatblygiad Garn Fach sydd wedi ei gynnig ar gyfer etholaeth yr Aelod ei hun. Gwelais yn ddiweddar fod dros 400 o bobl wedi ymateb i'r broses cyn-ymgynghori a bod y gefnogaeth i gynigion Garn Fach yn fwy na'r rhai a oedd ag amheuon yn ei gylch o fwy na 2:1. Rwy'n credu bod hynny yn dweud wrthyf fod safbwyntiau yn newid yng Nghymru, a bod gan bobl ddealltwriaeth uwch heddiw o'r rhwymedigaeth sydd ar bob un ohonom ni i chwarae ein rhan o ran ymateb i'r her sydd eisoes ar garreg ein drws, a bod yn rhaid i ni allu gwneud hynny ym mhob rhan o Gymru, ac mae gwaith i'w wneud, fel y dywedodd yr Aelod, i wneud yn siŵr bod pob llais yn rhan o'r sgwrs honno, tra bod y sgwrs ei hun yn canolbwyntio yn gadarn ar wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymdrin â'r anawsterau yr ydym ni'n gwybod y mae'r blaned hon eisoes yn eu dioddef.