3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Cynnydd ar y Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 12 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:57, 12 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi, James Evans. Roedd gennych chi gant a mil o gwestiynau a phwyntiau, ond, cyn i mi ddechrau ymateb i chi, a gaf innau fynegi fy nymuniadau gorau ar goedd i Andrew R.T. Davies am adferiad buan a dweud pa mor llesol i bawb yn fy marn i yw ei fod ef wedi dangos dewrder fel hyn wrth siarad, fel yn wir y gwnaeth Sam Kurtz yr wythnos diwethaf? Wrth wneud fel hyn, mae hynny'n helpu pawb. Felly, rwy'n anfon fy nymuniadau gorau iddo am adferiad buan.

Os caf i ddechrau gyda'r pwyntiau a wnaeth James Evans am ein gwerthusiad ni o'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', mae hynny wedi dechrau eisoes, ac rydym ni wedi llunio cytundeb gyda phobl i gynnal y gwerthusiad hwnnw i ni mewn ffordd mor drylwyr ag y gallwn ni. Efallai y ceir ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac ati, ac fe ddisgwylir i'r gwaith hwnnw ei hun gael ei gwblhau erbyn y flwyddyn nesaf—erbyn mis Medi 2022. Ac rwy'n credu wedyn y bydd yn rhaid i ni edrych ar yr hyn a ddysgwn ni o'r gwerthusiad hwnnw, oherwydd, yn amlwg, fe fydd yn rhaid i ni gael cynlluniau newydd wrth symud ymlaen. Ac rwy'n credu, bryd hynny, y byddem ni'n dymuno ymgysylltu â phwyllgorau perthnasol a chyda'r Senedd i sicrhau ein bod ni'n gwrando ar farn pawb yn hyn o beth hefyd. Ond mae hi'n hanfodol bwysig fod y cynllun a fabwysiadwn yn un a fydd yn gweithio i'r bobl a fydd yn cael y gwasanaethau.

Roeddech chi'n sôn am y pwysau ar y gweithlu. Mae'r pwysau ar y gweithlu yn sylweddol iawn wir a dyma rywbeth yr wyf i'n canolbwyntio llawer o'm hamser a'm hymdrech arno. Fe fydd y cynllun yr ymgynghorir ag ef gan AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn nodi mewn ffordd gynhwysfawr iawn, rwy'n gobeithio, y mannau hynny lle mae angen i ni fod â'r staff gwahanol. Fe wyddom ein bod ni wedi gweld rhywfaint o lwyddiant o ran denu seiciatryddion i ddod i weithio yng Nghymru, ond mae yna brinder mewn arbenigeddau eraill hefyd. Felly, fe ddylai'r darn cynhwysfawr hwnnw o waith sy'n cael ei wneud gan AaGIC roi'r darlun llawn hwnnw inni. Fe ddylai hynny gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni, ac yna fe fyddwn ni'n ymgynghori. Ond nid ydym ni'n gorffwys ar ein bri yn y cyfamser. Mae AaGIC yn edrych ar ba gamau uniongyrchol y gallwn ni eu cymryd i lenwi swyddi gwag mewn ardaloedd lle mae prinder. Ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion ystyried a allwn ni dreialu math o gymorth seicolegol—yn hytrach na chael seicolegwyr clinigol cwbl gymwysedig, y gallwn ni edrych ar ymyrraeth gynharach gyda chymorth seicoleg—sy'n cael ei defnyddio'n effeithiol iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Fe fyddaf i'n cwrdd â nhw cyn bo hir i drafod yr hyn maen nhw'n ei wneud.

O ran CAMHS, maen nhw'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i mi, yn union fel mae gweithredu'r diwygiadau system gyfan o 'Cadernid Meddwl' yn ganolog i'r hyn yr wyf yn ceisio ei wneud. Dyna pam yr wyf i wedi mynd i mewn i'r Llywodraeth, ac rwyf i wedi ymrwymo yn llwyr i gyflawni hynny. Rydym ni wedi gweld amrywiadau yn yr amser aros cyfartalog y bydd plant a phobl ifanc yn cael cymorth CAMHS arbenigol yn ystod y pandemig. Mae data dros y 12 mis diwethaf yn dangos mai 4.4 wythnos yw'r amser aros cyfartalog i gael apwyntiad cyntaf ar gyfer CAMHS arbenigol, ac mae hynny'n amrywio o dair i chwe wythnos. Mae'r data amseroedd aros diweddaraf ar gyfer darpariaethau iechyd meddwl sylfaenol i bobl ifanc dan 18 oed yn dangos bod 83 y cant o bobl ifanc wedi derbyn eu hasesiadau gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol lleol nhw o fewn wyth wythnos i'w hatgyfeirio. Fe welsom ni gynnydd sydyn yn yr atgyfeiriadau, ond diolch byth mae hynny bellach yn dangos arwyddion o arafu. Serch hynny, nid ydym ni'n hunanfodlon, ac mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu trin mewn ffordd amserol yn brif flaenoriaeth i mi. Rwy'n cyfarfod â'r is-gadeiryddion yn rheolaidd, mae swyddogion yn cael trafodaethau rheolaidd, parhaus fel hyn gyda byrddau iechyd i ysgogi perfformiad, a phan oedd gennyf bryderon penodol am berfformiad bwrdd iechyd, roeddwn yn cael cyfarfod arbennig yno i drafod eu perfformiad nhw a cheisio sicrwydd eu bod nhw'n mynd i'r afael â'r mater hwnnw gyda'r brys haeddiannol.

Rwy'n nodi eich croeso chi i'r ddarpariaeth gofal argyfwng 24 awr. Rwy'n credu ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni hynny. Mae hwn yn ymrwymiad mawr, yn newid mawr, ond rwy'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd yno erbyn diwedd eleni, ac fe fyddwn ni mewn sefyllfa bryd hynny lle bydd pobl yn gallu ffonio 111 ar gyfer gofal iechyd meddwl yng Nghymru. Ond ar lefel is na hynny, rydym ni'n cynnal ymarfer hefyd lle mae'r uned gyflawni wedi bod yn ymweld â'r holl fyrddau iechyd i drafod y gwasanaethau argyfwng sy'n gweithredu ar gyfer plant a phobl ifanc yn benodol, ond yn gyffredinol hefyd. Fe fyddan nhw'n gwneud argymhellion ynghylch beth arall y mae angen i ni ei wneud i wella'r cymorth argyfwng y tu hwnt i'r llinell ffôn honno. Felly, mae hon yn flaenoriaeth fawr i mi.

Diolch i chi am eich croeso i'r cydweithio ar y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn amlwg, mae hi'n bwysig, lle gallwn ni weithio gyda Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol, ein bod ni'n gwneud felly. Roeddech chi'n gofyn a ddylem ni fod â chyfraith newydd i Gymru o ran iechyd meddwl. Fy ateb gonest ac ystyriol i yw nad honno yw'r her sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod pa bethau sydd angen iddyn nhw ddigwydd. Mae gennym ni Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a luniwyd yng Nghymru gan Aelod Ceidwadol, Jonathan Morgan, a ddygodd hynny drwy'r Senedd hon. Ein her ni yw sicrhau ein bod ni'n gweld cyflawniadau ledled y system gyfan. Felly, nid wyf i o'r farn mai ymwneud â deddfwriaeth y mae hynny fel y cyfryw, ond rydym ni'n hapus iawn i adeiladu ar y cyfleoedd deddfwriaethol sy'n codi lle maen nhw'n ymgyflwyno.

Yn olaf, o ran fy mlaenoriaethau i, fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod pawb yng Nghymru, ond plant a phobl ifanc yn arbennig felly, yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl amserol pan fydd ei angen arnyn nhw, a symud y system gyfan yng Nghymru, ar yr un pryd â hynny, tuag at un o atal ac ymyrryd yn gynnar, fel nad oes angen am y gwasanaethau arbenigol hynny ar gymaint o bobl yn y lle cyntaf. Felly, dyna sy'n ysgogi fy ngwaith i a'r hyn sy'n mynd â'm hamser i. Diolch i chi.