Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 12 Hydref 2021.
Diolch, Llywydd. Mae'r amgylchedd naturiol yng Nghymru yn sail i'n llesiant. Mae gallu mynd i fyd natur a gweithredu gydag eraill i ofalu am natur o fudd i'n hiechyd meddwl. Mae'r cysylltiad sydd gennym yng Nghymru â'n tir a'n dyfroedd yn rhedeg yn ddwfn yn ein diwylliant. Mae'n ein gwneud ni pwy ydym ni. Er ein bod yn dibynnu ar natur am y cyfleoedd economaidd y mae'n eu darparu a'r amddiffyniad rhag llygredd a pheryglon naturiol, nid yw ein perthynas yn gwbl weithredol. Ni allwn grynhoi gwerth llawn natur ar fantolen ac ni allwn fforddio gadael i'r farchnad rydd benderfynu ar ei ffawd. Mae'r miloedd lawer o bobl ledled Cymru sydd eisoes yn cymryd camau i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn natur yn cael eu hysbrydoli gan awydd i drosglwyddo ein treftadaeth naturiol i gyflwr y gallwn fod yn falch ohono.
Mae datblygu perthynas fwy cynaliadwy â byd natur yn dechrau yn ein cymunedau lleol. Nod y Llywodraeth hon yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau a natur drwy gynyddu'r cyfleoedd i bobl fod yn rhan o weithredu ar y cyd i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Adlewyrchir y dull gweithredu hwn yn yr ystod eang o fentrau newydd yr ydym wedi'u datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ein coedwig genedlaethol, y cynllun ffermio cynaliadwy, ein gofynion sy'n arwain y byd i weithredu draenio cynaliadwy, y flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi i gynlluniau rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur, ac eraill. Rydym hefyd wedi ymrwymo yn ystod y tymor hwn i ddatblygu mentrau pellach, gan gynnwys cynllun adfer cynefinoedd arfordirol, parc cenedlaethol newydd, a chefnogi dynodi dyfroedd ymdrochi mewndirol i adeiladu ar y safonau dŵr ymdrochi uchel a gyflawnwyd ar hyd arfordir Cymru. Rwyf i'n credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio o ran safleoedd tai enghreifftiol i ddatblygu safleoedd adfer natur enghreifftiol, yn enwedig ar draws yr ardaloedd adnoddau natur cenedlaethol a nodwyd yn 'Cymru'r Dyfodol'. Nid yw'r camau hyn yn ymwneud â chynnal a gwella ein tirweddau, afonydd a moroedd yn unig, ond mae'n ymwneud â chysylltu cymunedau'n agosach atynt.
Hoffwn dynnu sylw at ddau gynllun arbennig o bwysig yr ydym ni wedi'u datblygu gyda phartneriaid, a byddwn i'n annog pob Aelod o'r Senedd i gymryd diddordeb mawr mewn gweithgareddau sydd ar droed yn eu hardaloedd lleol ac i annog cymunedau i gymryd rhan a llunio'r gweithgareddau hynny yn y blynyddoedd i ddod. Lansiwyd y fenter Rhwydweithiau Natur yn gynharach eleni, a heddiw rwyf wedi cyhoeddi'r 29 prosiect cyntaf i gael cyllid, gan fod o fudd i fwy na 100 o gynefinoedd a rhywogaethau o arwyddocâd rhyngwladol. Mae'r prosiectau hyn yn cydnabod natur fel cyfres o rwydweithiau ar dir ac ar y môr y mae angen i ni eu cysylltu a'u tyfu i'w gwneud yn fwy cydnerth. Mae'r prosiectau yr ydym ni'n eu hariannu yn cynnwys cysylltu coetiroedd tameidiog i alluogi rhywogaethau i sefydlu cynefin dros ardaloedd mwy, lleihau llygredd ffosffad mewn afonydd i ddiogelu natur ymhell i lawr yr afon, a gwella cyflwr cynefinoedd i alluogi rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig i gael mwy o ryddid i grwydro—y gylfinir, gloÿnnod byw britheg a maelgwn, er enghraifft. Yn hollbwysig, mae prosiectau'n harneisio egni cymunedau lleol—cefnogi gwyddoniaeth dinasyddion, cynnwys ysgolion, a darparu sgiliau a chyfleoedd hyfforddi. Yn yr ystyr hwn, mae Rhwydweithiau Natur yn rhwydweithiau ecolegol a hefyd yn rhwydweithiau o bobl sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn gallu cynnal y camau gweithredu hyn ar natur i'r dyfodol.
Yr ail fenter yr hoffwn i dynnu sylw ati yw'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a lansiwyd ar ddechrau 2020 gyda'r nod o gefnogi cymunedau i greu natur ar eu stepen drws, gan weithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol mawr a bach. Er bod Rhwydweithiau Natur yn cyflawni ar raddfa tirwedd, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi mesurau cymedrol a all wneud gwahaniaeth mawr ar lefel gymunedol, gan wella mynediad at natur drwy greu a gwella mannau gwyrdd sydd agosaf at le mae pobl yn byw ac yn gweithio, o dyfu bwyd cymunedol i arferion torri gwair sy'n ystyriol o natur. Er gwaethaf effaith y pandemig, roedd ymateb y cyhoedd i'r fenter hon yn aruthrol, a dyblodd maint y cynllun a mwy mewn ymateb i'r galw. Nid yn unig yr ydym ni'n bwriadu cynnal y lefel eithriadol o uchel hon o gyfranogiad y cyhoedd, ond rydym ni eisiau ei chynyddu hyd yn oed ymhellach, a byddwn i'n croesawu cyfraniadau gan Aelodau yma heddiw ynghylch cyfleoedd y maen nhw'n eu gweld i gyflawni hynny.
Yn anffodus, mae ein gallu i gefnogi gweithredu hirdymor ar natur wedi'i danseilio gan gamreoli cyllid cyhoeddus gan Lywodraeth y DU. Drwy fethu â darparu cyllid amlflwydd, a methu â rhoi cyllid yn lle'r cyllid a gawsom yn y gorffennol gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi gweithio yn erbyn adfer natur yng Nghymru. Gobeithio y bydd pob Aelod yn y Siambr heddiw yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu setliad ariannu amlflwydd i Lywodraeth Cymru yn yr adolygiad nesaf o wariant, i'n galluogi ni i ddarparu cyllid amlflwydd i'n partneriaid a'n cymunedau, fel y gellir cynyddu effaith y camau y mae cymunedau Cymru yn eu cymryd ar natur hyd yn oed yn fwy. O'i rhan hi, mae Llywodraeth Cymru yn barod i lansio cynlluniau amlflwydd, gan gynnwys Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a all roi mwy o sicrwydd a llinell derfyn hirach ar gyfer cynllunio i'r rhai yr ydym yn eu hariannu, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hirdymor yr ydym yn eu datblygu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a thrwy ein hymgysylltiad â'r trydydd sector.
Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau hefyd yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ei haddewid i sicrhau na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac i ddarparu cyllid newydd llawn yn lle cyllid ar gyfer datblygu gwledig yr UE a rhaglenni LIFE yr UE. Eleni yn unig, mae Cymru ar ei cholled o ddegau o filiynau o bunnau o fuddsoddiad mewn natur ac yng nghefn gwlad Cymru. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a natur, ac ar drothwy uwchgynadleddau byd-eang ar yr hinsawdd a natur, gan gynnwys COP26 yn Glasgow, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod pa mor frys yw'r sefyllfa a gwrthdroi ei phenderfyniad i amddifadu Cymru o'r buddsoddiadau hollbwysig hyn yn llesiant ein cymunedau. Mae'r wythnos hon yn nodi dechrau COP15, y confensiwn byd-eang ar amrywiaeth biolegol, sy'n bwriadu cytuno ar gyfres newydd o nodau ar gyfer adfer natur dros y degawd nesaf. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r targed 30x30, a gynigir i'w drafod yn COP15, i ddiogelu 30 y cant o'n tir a'n moroedd erbyn 2030.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau Cymru a'r Senedd i ddatblygu ein dull o gyflawni'r nod hwn. Bydd hyn yn gofyn am weithredu strategol, rheoleiddiol a deddfwriaethol, a dim ond Llywodraeth Cymru, gan weithio'n agos gyda'r Senedd, sy'n gallu cyflawni hyn. Bydd cyflawni'r nod hwn hefyd yn gofyn am weithredu ar y cyd ym mhob cymuned yng Nghymru, lle gall mentrau fel Rhwydweithiau Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur greu cyfleoedd i bobl gydweithio i ddiogelu a gwella ein treftadaeth naturiol, ac yn sgil hynny, ein hiechyd meddwl a'n llesiant ehangach. Diolch.