Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 12 Hydref 2021.
Ddydd Gwener, cyhoeddwyd diweddariad o’n cynllun rheoli coronafeirws, sy'n nodi'r prif ffyrdd y byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel. Yn y bôn, y rhain yw: brechu, profi, olrhain a diogelu, a pharhau â'r mesurau sylfaenol sy'n dal yn bwysig, pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i amddiffyn ein hunain. Dyw ein cyngor ar brofi ddim wedi newid. Rydyn ni’n dal i ofyn ichi gymryd prawf PCR os ydych yn datblygu symptomau COVID-19, ac i hunanynysu os yw eich canlyniad yn bositif. Rydyn ni’n cadw golwg fanwl ar y niferoedd digynsail o bobl sy'n dod i gael eu profi yng Nghymru. Os bydd y lefel hon yn parhau, efallai y bydd angen inni wneud dewisiadau. Ond ar gyfer y cyfnod adolygu hwn, mae ein cyngor yn aros yr un peth. Profi yw'r ffordd orau o dorri'r gadwyn drosglwyddo.
Mae'r mesurau sylfaenol rydyn ni i gyd wedi bod yn eu dilyn trwy gydol y pandemig yn dal yn bwysig: golchi eich dwylo, cadw eich pellter, a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do. Mae'r rhain yn fesurau hanfodol a fydd yn ein cadw'n fwy diogel. Mae'r cynllun rheoli hefyd yn nodi dwy senario gynllunio ar gyfer y pandemig dros y gaeaf. Yn y senario gyntaf, COVID sefydlog, mae Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd 0, gyda phob busnes yn gallu agor. Rŷn ni’n disgwyl mai dyma fydd y senario at y dyfodol, wrth inni ddod i arfer â byw gyda'r coronafeirws a symud allan o'r pandemig yn raddol. O dan y senario hon, os bydd cyfraddau achosion yn gostwng, byddai modd llacio’r mesurau. Ond, os byddan nhw’n codi, byddai modd cryfhau'r mesurau presennol.
Mae'r ail senario, COVID brys, wedi'i chynllunio i ddelio â newidiadau sydyn i'r sefyllfa, fyddai’n gallu achosi cynnydd ym mhwysau’r pandemig ac yn rhoi pwysau llethol ar ein gwasanaeth iechyd. O dan y senario yma, byddai'r system lefelau rhybudd a'r cyfyngiadau yn cael eu defnyddio mewn ffordd gymesur, ond fel dewis olaf, i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad heintiau a diogelu'r gwasanaeth iechyd. Dirprwy Lywydd, mae gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn ymddangos ein bod wedi pasio'r uchafbwynt hwn, ond allwn ni ddim fforddio llaesu dwylo ar yr adeg dyngedfennol hon. Yn y misoedd nesaf bydd bygythiadau eraill o heintiau anadlol eraill, fel RSV a’r fliw tymhorol, yn dod. Rŷn ni’n parhau i ganolbwyntio ar frechu yn erbyn yr heintiau hyn hefyd.
Mae angen inni ofalu am ein hiechyd dros gyfnod y gaeaf hwn. Mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau bach, sydd o fewn ein cyrraedd, i gadw’n iach ac osgoi mynd yn sâl. Mae hyn yn cynnwys cadw’n actif yn gorfforol, bwyta deiet cytbwys, cyfyngu ar faint o alcohol rŷn ni’n ei yfed, rhoi'r gorau i ysmygu, ac wrth gwrs gofalu am ein hiechyd meddwl. Byddwn yn gweithio gyda chanolfannau brechu, meddygfeydd a fferyllfeydd dros y gaeaf i godi ymwybyddiaeth o'r negeseuon hyn a chyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael ledled Cymru.
Hoffwn i orffen ar nodyn cadarnhaol. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r rheolau dros y tair wythnos nesaf, y tu hwnt i'r rhai yr oedden ni eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae pawb wedi gweithio mor galed i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, ac mae'n gweithio. Rŷn ni’n newid cwrs y pandemig hwn gyda'n gilydd. Dydyn ni ddim allan o'r pandemig hwn eto—gall y sefyllfa newid yn gyflym—ond gyda'n gilydd, gallwn barhau â'r mesurau sydd ar waith i'n cadw ar y trywydd iawn, ac i ddiogelu ein gwasanaeth iechyd a diogelu ein gilydd. Diolch.