Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 12 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sefyllfa COVID a'n cynlluniau i gadw Cymru'n ddiogel yn ystod hydref a gaeaf anodd o'n blaenau.
Nawr, cyn i mi roi fy niweddariad, hoffwn i gydnabod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a diolch i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles am ei diweddariad ar gynnydd ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn gynharach heddiw. Mae iechyd meddwl yn agenda mor bwysig, ac yn fwy felly ar hyn o bryd nag erioed yn ystod y 18 mis diwethaf. Yn yr hyn a fu'n adeg ddigynsail, rwy'n gwybod mor ddwfn y mae cynifer o bobl wedi teimlo effaith y pandemig. A hoffwn i hefyd estyn fy nghyfarchion i arweinydd y blaid Dorïaidd, a fy mharch tuag ato am sôn yn y ffordd y gwnaeth ef ynghylch ei sefyllfa. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i wella iechyd a lles yng Nghymru ac mae'n gwbl briodol i Gymru gael Dirprwy Weinidog iechyd a lles penodol yn ysgogi'r mentrau hyn.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd y Prif Weinidog ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, ac er ein bod ni'n parhau i fod ar lefel rhybudd 0, mae amddiffyniadau pwysig sydd wedi eu cynnal a'u cryfhau i'n cadw ni'n ddiogel. Mae'r coronafeirws yn dal i fod gyda ni; ers fy niweddariad diwethaf, roedd achosion wedi cynyddu. Mae gennym ni gyfraddau uchel iawn o'r coronafeirws yn ein cymunedau o hyd, ond rwy'n falch o ddweud bod y niferoedd wedi amrywio o amgylch tua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl yn ystod yr wythnos diwethaf ac rydym ni wedi gweld tueddiadau amrywiol tebyg o ran derbyniadau i'r ysbyty, er bod niferoedd amlwg yn is na'r mis diwethaf. Felly, rydym ni o'r farn bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn sefydlog, er ein bod ni'n ymwybodol iawn y gallai hyn newid yn gyflym.
Mae'r GIG yn dal i fod dan bwysau dwys. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn dal i wynebu pwysau adnoddau ac mae angen i bawb chwarae eu rhan o hyd a dilyn y canllawiau sydd ar waith i alluogi Cymru i aros ar agor o dan y lefel isaf o gyfyngiadau. Mae nifer uchel iawn o heintiau ymhlith pobl iau ac rydym ni'n monitro'r cysylltiadau rhwng ysgolion a throsglwyddo cymunedol. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi cyngor ac arweiniad cryfach i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau. Pan fydd aelod o'r cartref yn profi'n bositif am COVID-19, yn ogystal â'r cyngor presennol i gael prawf PCR ar ddiwrnodau dau ac wyth, yn y dyfodol, dylen nhw gynnal profion llif unffordd dyddiol am saith diwrnod. Drwy ddod o hyd i achosion positif a'u cadw ar wahân, gallwn ni helpu i roi'r gorau i drosglwyddo ymhellach.
Rydym ni hefyd wedi dechrau'r rhaglen frechu ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 oed. Mae ein rhaglen frechu anhygoel wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol. Brechu yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym ni yn erbyn y coronafeirws. Mae ein strategaeth frechu newydd a gafodd ei chyhoeddi heddiw yn nodi sut y bydd y rhaglen frechu yn parhau i gyflawni'n effeithiol ac yn gyflym yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu brechlyn atgyfnerthu i'r bobl fwyaf agored i niwed, brechu plant a phobl ifanc a'n hegwyddor o adael neb ar ôl, gan gynnwys y bobl hynny sy'n feichiog. Dros yr haf, fe wnaethom ni weithio gyda byrddau iechyd i gynllunio'r cam nesaf hwn. Mae hyn wedi eu galluogi i symud yn gyflym pan gafodd cadarnhad o'r brechlyn atgyfnerthu a brechu plant ei gyhoeddi yn ddiweddar. Mae'r cyfnod newydd hwn yn rhoi gobaith i ni.
Yr wythnos hon, rydym yn cyflwyno'r pàs COVID. Gyda'r cynnydd yn y niferoedd y gwnaethom ei weld fis diwethaf, rydym ni'n parhau i edrych ar fesurau i liniaru lledaeniad COVID drwy ein cymunedau. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld busnesau'n gorfod cau eto. Wrth gwrs, byddwn ni'n adolygu'r mesurau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur.