Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 13 Hydref 2021.
Wel, yn ystod tymor blaenorol y Senedd, fe wnaethom greu mwy na 100,000 o brentisiaethau, ac roedd hynny'n uwch na'r targed a oedd gennym mewn gwirionedd, ond y tro hwn, rydym hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, gan gydnabod yr angen yn yr economi am y sgiliau hyn, ac rydym wedi codi ein targed i 125,000 o brentisiaethau newydd erbyn 2025. Felly yn amlwg, rydym wedi cydnabod bod angen sylweddol yn y maes hwn, ac rydym yn parhau i fuddsoddi, yn enwedig yn y meysydd lle rydym yn deall bod prinder sgiliau. Rwyf eisoes wedi cyfeirio at ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gynyddu nifer y prentisiaethau yn y sector gofal yn enwedig.