1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2021.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth lleol i bobl ifanc? OQ56999
Mae prentisiaethau'n helpu pobl, yn enwedig pobl ifanc, i wella eu sgiliau a'u gyrfaoedd, ac yn helpu cyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion sgiliau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n manteisio ar bob cyfle i drafod ymrwymiadau uchelgeisiol ein rhaglen lywodraethu i gefnogi twf, ehangu cyfranogiad mewn hyfforddiant a hybu symudedd cymdeithasol gyda Gweinidog yr Economi.
Roedd cyfeiriad gan Jenny Rathbone yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe ynghylch y prinder dybryd sydd yna o ran prentisiaethau yn y sector adeiladu, ac mae'r ffigurau gan y corff hyfforddi, y Construction Industry Training Board, yn dangos gostyngiad o hyd at 20 y cant, rwy'n credu, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dwi wedi cael gohebiaeth gan lu o bobl ifanc yn fy etholaeth i sydd angen prentisiaeth er mwyn sicrhau eu cymhwyster ond yn methu â chael hyd iddo fe. Roedd un person ifanc wedi ffonio pob trydanwr yn sir Gaerfyrddin a methu â dod o hyd i brentisiaeth. Rwyf wedi cael fy nghyfeirio gan Weinidog yr Economi at wefan pori'r Llywodraeth, Dod o Hyd i Brentisiaeth, ac fe wnes i drial fy hunan i ffeindio prentisiaethau ym mhob maes, a dweud y gwir, ar draws Cymru. Dim ond 107 trwy Gymru gyfan sydd ar gael ar hyn o bryd ar y wefan pori ac yn amlwg dyw hwnna ddim yn ddigonol o gwbl ar gyfer pobl ifanc yn fy etholaeth i a thrwy Gymru gyfan. Onid oes cyfle i ddatrys y sefyllfa trwy siarad gyda, a rhoi adnoddau i, awdurdodau lleol sydd â'r cysylltiadau gyda busnesau lleol a gwybodaeth leol er mwyn eu 'incentivise-o' nhw i gynnig y prentisiaethau sydd eu hangen?
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n galed iawn i gymell cyflogwyr i recriwtio prentisiaid i helpu pobl i gael gwaith ac i helpu’r economi i ddechrau symud unwaith eto, ac yn ddiweddar, rydym wedi ymestyn ein cymelliadau i gefnogi busnesau yng Nghymru i recriwtio prentisiaid hyd at fis Chwefror 2022. Mae'r cynllun cymell prentisiaethau i gyflogwyr yn rhan allweddol o'n hymrwymiad COVID i gefnogi busnesau a gweithwyr i'w helpu i ymadfer wedi effeithiau pandemig y coronafeirws. Ac mae'r cymelliadau hynny eisoes wedi golygu bod mwy na 5,500 o brentisiaid newydd wedi cael eu recriwtio ers mis Awst 2020.
Mae'r pwyntiau a wnewch yn rhai da ynglŷn â'r diwydiant adeiladu a diwydiannau eraill y bydd y pandemig, a Brexit wrth gwrs, yn effeithio'n arbennig arnynt. Byddaf yn gofyn i swyddogion Gweinidog yr Economi gael trafodaeth bellach gyda bwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu i archwilio beth arall y gellir ei wneud yn y maes hwn i sicrhau bod prentisiaethau adeiladu ar gael i'n pobl ifanc yng Nghymru.
Fe welwch fod gan ein rhaglen lywodraethu ymrwymiadau i gynyddu prentisiaethau ym maes gofal yn enwedig, gan fod hwnnw'n faes arall lle rydym yn gweld heriau penodol gyda recriwtio, ac yn arbennig gyda siaradwyr Cymraeg yn hynny o beth. Mae gennym ymrwymiad i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod tymor y Senedd hon ac i ehangu'r defnydd o rannu prentisiaethau a gradd-brentisiaethau. Felly yn sicr, byddaf yn archwilio ymhellach gyda Gweinidog yr Economi a gofyn am i'w swyddogion archwilio ymhellach gyda bwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu beth arall y gellir ei wneud yn y maes penodol hwnnw.
Bydd prentisiaethau'n chwarae rhan allweddol yn cefnogi'r broses o greu swyddi wrth inni ymadfer wedi'r pandemig hwn, ond mae sawl sector, fel sydd newydd gael ei drafod, yn dal i'w chael hi'n anodd recriwtio aelodau newydd o staff ers diwedd y cyfyngiadau symud. Yn dilyn cwestiwn Adam Price a'ch ateb chi, pa asesiad a wnaethoch—a wnaeth Llywodraeth Cymru—i gynyddu cwmpas cynllun prentisiaethau Llywodraeth Cymru er mwyn llenwi'r swyddi crefftus allweddol hyn?
Wel, yn ystod tymor blaenorol y Senedd, fe wnaethom greu mwy na 100,000 o brentisiaethau, ac roedd hynny'n uwch na'r targed a oedd gennym mewn gwirionedd, ond y tro hwn, rydym hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, gan gydnabod yr angen yn yr economi am y sgiliau hyn, ac rydym wedi codi ein targed i 125,000 o brentisiaethau newydd erbyn 2025. Felly yn amlwg, rydym wedi cydnabod bod angen sylweddol yn y maes hwn, ac rydym yn parhau i fuddsoddi, yn enwedig yn y meysydd lle rydym yn deall bod prinder sgiliau. Rwyf eisoes wedi cyfeirio at ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gynyddu nifer y prentisiaethau yn y sector gofal yn enwedig.