Canlyniadau Economaidd yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:00, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf ddisgwyliadau y bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau nad ydynt yn llesteirio cyflogau yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, fel y gwelsom yn fwyaf diweddar gan Lywodraeth y DU, felly mae'n anodd iawn i mi ymateb i'r cwestiwn hwn. Fe geisiaf helpu a chyfeirio at rôl y cyd-bwyllgorau corfforaethol a'r hyn y gallant ei wneud drwy gydweithio i wella'r sefyllfa economaidd yn eu hardaloedd lleol, ond rwy'n ei chael yn anodd iawn ymateb i gwestiynau gan y Ceidwadwyr am gyflogau pobl er mai Llywodraeth y DU sy'n dal cyflogau yn ôl ac sydd hefyd yn mynd â £20 o bocedi rhai o'n gweithwyr tlotaf o ganlyniad i'w newidiadau i'r credyd cynhwysol.