1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2021.
5. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i wella canlyniadau economaidd yng Ngorllewin De Cymru wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi? OQ57002
Mae cadernid economaidd yn parhau i fod yn un o nodau craidd y Llywodraeth hon, a dyna pam ein bod wedi buddsoddi dros £600 miliwn mewn cyllid grant i gefnogi busnesau eleni, ac mae dros £250 miliwn wedi'i ddarparu i fusnesau yn ne-orllewin Cymru ers mis Ebrill 2020.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb, a dechrau drwy ddatgan fy niddordeb fel cynghorydd sy'n eistedd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgelu bod cyflogau wythnosol cyfartalog yn sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi gostwng o £525.90 yn 2019, ffigur a oedd yn agos at gyfartaledd Cymru gyfan, i ddim ond £464.10 yn 2020, sef yr isaf ond un bellach o 22 awdurdod lleol Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, Weinidog, fod llithro o ganol y tabl i'r isaf ond un mewn cyfnod o flwyddyn yn destun pryder i lawer am berfformiad y cyngor a Llywodraeth Cymru yn gwella canlyniadau economaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Pe bai'r perfformiad hwnnw i'w weld gan reolwr pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair, byddent wedi cael eu diswyddo bellach. O ystyried hyn, pa ddisgwyliadau sydd gan y Llywodraeth i awdurdodau lleol wella eu heconomïau lleol yn eu hardaloedd, a pha ymyrraeth benodol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i atal pethau rhag dirywio ymhellach?
Mae gennyf ddisgwyliadau y bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau nad ydynt yn llesteirio cyflogau yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, fel y gwelsom yn fwyaf diweddar gan Lywodraeth y DU, felly mae'n anodd iawn i mi ymateb i'r cwestiwn hwn. Fe geisiaf helpu a chyfeirio at rôl y cyd-bwyllgorau corfforaethol a'r hyn y gallant ei wneud drwy gydweithio i wella'r sefyllfa economaidd yn eu hardaloedd lleol, ond rwy'n ei chael yn anodd iawn ymateb i gwestiynau gan y Ceidwadwyr am gyflogau pobl er mai Llywodraeth y DU sy'n dal cyflogau yn ôl ac sydd hefyd yn mynd â £20 o bocedi rhai o'n gweithwyr tlotaf o ganlyniad i'w newidiadau i'r credyd cynhwysol.
Weinidog, os ydym am wella sefyllfa economaidd pobl Gorllewin De Cymru, mae angen inni daclo'r lefelau uchel ac annheg o drethi cyngor mewn awdurdodau lleol a mynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ôl-ddyledion trethi cyngor. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyson yn pennu un o'r lefelau uchaf o'r dreth gyngor yng Nghymru. Dyw preswylwyr ddim yn gallu deall pam mae e'n costio cymaint yn fwy i fyw yng nghyngor Castell-nedd Port Talbot a sut maen nhw'n darparu gwasanaethau sydd llawer mwy drud o'u cymharu â siroedd cyfagos. Holais i'r Prif Weinidog nôl yng Ngorffennaf a oedd y Llywodraeth wedi ystyried cynnal ymchwiliad yn benodol i awdurdodau sy'n trethu yn uwch, fel Castell-nedd Port Talbot, gyda'r nod o sicrhau lefelau treth mwy cyson yng Nghymru, ond yn anffodus ches i ddim ateb uniongyrchol i'r cwestiwn hwnnw. A all y Gweinidog felly ddarparu ateb i'r cwestiwn hwn heddiw? Ac ar ben hyn, wrth gwrs, mae'r ôl-ddyledion trethi cyngor wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y pandemig, gyda 55,000 o gartrefi bellach mewn ôl-ddyledion gyda'u trethi cyngor rhwng Ionawr a Mai. Felly, hoffwn hefyd holi a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i gyhoeddi cynlluniau newydd i daclo problem gynyddol ôl-ddyledion trethi cyngor, gan fod hyn yn effeithio ar deuluoedd incwm isel yn fy rhanbarth. Diolch.
Diolch am ofyn y cwestiwn. Yn y pen draw, wrth gwrs, mater i awdurdodau lleol eu hunain yw pennu'r dreth gyngor—neu i'r cynghorau, dylwn ddweud. Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi pobl gyda'r dreth gyngor a thalu'r dreth gyngor, ac rydym yn cefnogi dros 200,000 o aelwydydd gyda'u treth gyngor. Yn aml, nid yw aelwydydd yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt, felly byddwn yn awgrymu yn y lle cyntaf y gallent gysylltu â'r cyngor neu edrych ar wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael iddynt. Rwy'n gwybod bod anallu i gasglu'r holl dreth gyngor drwy gyfnod COVID wedi bod yn broblem benodol i awdurdodau lleol, felly y llynedd, gallais roi arian ychwanegol i awdurdodau lleol i gydnabod eu bod wedi ei chael yn anos casglu'r dreth gyngor, a chredaf fod honno'n ymyrraeth ddefnyddiol.
O ran ôl-ddyledion, rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol yn awr i ddod o hyd i ffordd o gasglu ôl-ddyledion mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Felly, gofynnwn i awdurdodau lleol archwilio gydag unigolion beth yw achos yr ôl-ddyledion yn y lle cyntaf—efallai nad ydynt yn hawlio'r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo, er enghraifft—ac i ddod o hyd i ffordd sensitif o fynd ati i hawlio'r ôl-ddyledion hynny. Ond wyddoch chi, mae'n broblem wirioneddol yn ystod COVID, ac rydym wedi gweithio'n galed i gefnogi awdurdodau lleol, gan gydnabod nad ydynt wedi gallu hawlio cymaint o dreth, a rhoi dull o weithredu sy'n canolbwyntio llawer mwy ar yr unigolyn ar waith wrth fynd ati i gasglu ôl-ddyledion.