Ardrethi Busnes

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:04, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym yn datblygu rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau treth lleol sy'n cefnogi economi gryfach, cymunedau sefydlog a gwasanaethau cyhoeddus bywiog. O fewn hyn, rydym yn ystyried sut i wella ein system ardrethi annomestig tra'n cynnal refeniw hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol sy'n sicrhau manteision sylweddol i bawb.