Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch. Weinidog, mae arweinydd eich plaid, Keir Starmer, wedi dweud bod y Blaid Lafur o blaid diddymu ardrethi busnes ac y dylid cael rhywbeth arall yn eu lle. Gŵyr pawb ohonom fod llawer o fusnesau yng Nghymru wedi ei chael hi'n anodd, a chyda ein trefi angen hwb economaidd, mae'n bryd mynd i'r afael â'n dull o roi cymorth busnes. A oedd Keir Starmer yn siarad ar eich rhan chi hefyd, ac os nad oedd, beth yw barn Llywodraeth Lafur Cymru am ddyfodol ardrethi busnes?