Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:26, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, mae Darren Millar yn gwybod nad yw hynny'n wir o gwbl. Rwy'n Aelod o ogledd-ddwyrain Cymru ac ni fyddwn byth yn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r ffaith bod gennym Weinidog gogledd Cymru a hynny ers nifer sylweddol o flynyddoedd, gydag is-bwyllgor Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, yn dangos hynny'n glir, felly peidiwch â chamarwain yn y ffordd honno. Rydych yn dweud eu bod wedi'u rhewi; nid ydynt wedi'u rhewi. Mae adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd. Fel y dywedwch, gwnaed ymrwymiadau maniffesto. Llywodraeth bum mlynedd yw hon, rydym bum mis i mewn iddi, felly nid wyf yn credu y gallwch ddweud na fydd y pethau hyn yn digwydd. Mae proses adolygu ar y gweill, a phan fydd y broses adolygu wedi adrodd ac y cawn weld beth sy'n digwydd, efallai y cewch ddechrau gweiddi wedyn.