2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 13 Hydref 2021.
Reit. Cwestiynau'r llefarwyr.
Mae'n ddrwg gennyf am yr oedi. Roeddwn ar y rhan anghywir yn fy sgript.
Cwestiynau'r llefarwyr. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, pa gamau a gymerir gennych i ddatgloi'r moratoriwm ar fuddsoddi cyfalaf mewn ffyrdd yn y rhanbarth?
Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyflwyno adolygiad ffyrdd. Nid yw wedi adrodd eto, ond yn amlwg, pan fydd yn adrodd, gallwn weld pa gynlluniau fydd yn parhau a gallwn edrych ar y materion ariannu bryd hynny.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond ni fydd llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn ystyried ei fod yn ddigon da. Gwnaeth y Blaid Lafur addewidion cyn yr etholiad y byddai'n sicrhau gwelliannau sylweddol i'r rhwydwaith cefnffyrdd yng ngogledd Cymru. Fe ddywedoch chi y byddech yn darparu pont dros y Fenai—trydedd bont y Fenai—ond mae wedi'i gohirio. Fe ddywedoch chi y byddech yn cael gwared ar gylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr ar yr A55, ac mae'r prosiectau hynny wedi'u gohirio. Ac fe ddywedoch chi hefyd y byddech yn cyflawni'r addewid i fynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Glannau Dyfrdwy, ond mae hynny wedi'i ohirio. Felly, mae'r rhain yn brosiectau mawr yr addawoch chi eu cyflawni ar gyfer pobl gogledd Cymru, ac maent bellach wedi'u rhewi o ganlyniad i'r penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth hon. Byddai pobl yng ngogledd Cymru yn disgwyl y byddech chi, fel Gweinidog gogledd Cymru, yn galw am ddatgloi'r prosiectau hyn a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Ond onid y gwir, mae arnaf ofn, yw nad yw'r Llywodraeth Lafur hon yn malio am ogledd Cymru, ac mai dyna pam y mae prosiectau eraill yn mynd rhagddynt tra bo'r rhain wedi'u rhewi?
Wel, mae Darren Millar yn gwybod nad yw hynny'n wir o gwbl. Rwy'n Aelod o ogledd-ddwyrain Cymru ac ni fyddwn byth yn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r ffaith bod gennym Weinidog gogledd Cymru a hynny ers nifer sylweddol o flynyddoedd, gydag is-bwyllgor Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, yn dangos hynny'n glir, felly peidiwch â chamarwain yn y ffordd honno. Rydych yn dweud eu bod wedi'u rhewi; nid ydynt wedi'u rhewi. Mae adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd. Fel y dywedwch, gwnaed ymrwymiadau maniffesto. Llywodraeth bum mlynedd yw hon, rydym bum mis i mewn iddi, felly nid wyf yn credu y gallwch ddweud na fydd y pethau hyn yn digwydd. Mae proses adolygu ar y gweill, a phan fydd y broses adolygu wedi adrodd ac y cawn weld beth sy'n digwydd, efallai y cewch ddechrau gweiddi wedyn.
Ond o gofio eu bod yn ymrwymiad maniffesto, a'ch bod newydd awgrymu y byddant yn cael eu cyflawni o fewn pum mlynedd tymor y Llywodraeth Lafur, pam ar y ddaear y byddech yn eu rhewi yn y lle cyntaf? Y gwir amdani yw y dylent fod yn mynd rhagddynt, oherwydd rydych wedi rhoi ymrwymiad clir. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch, eich bod yn malio am ogledd-ddwyrain Cymru: mae hwnnw'n lle rydych wedi'i gynrychioli'n fedrus ers blynyddoedd lawer. Ond mae arnaf ofn nad yw llais gogledd Cymru o amgylch bwrdd y Cabinet i'w weld yn cael llawer iawn o ddylanwad, oherwydd os edrychwch ar gyflawniad y Llywodraeth hon yng ngogledd Cymru, ein gwasanaeth iechyd, y perfformiad damweiniau ac achosion brys gwaethaf o bob un o'r byrddau iechyd yw'r un sy'n gwasanaethu rhanbarth gogledd Cymru. Gennym ni y mae'r amseroedd aros hwyaf yng Nghymru gyfan—ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan mewn gwirionedd. Gwyddom fod awdurdodau lleol, ar gyfartaledd, yng ngogledd Cymru yn cael setliadau gwaeth na rhannau eraill o'r wlad, a gwyddom fod prosiectau ffyrdd yng ngogledd Cymru wedi'u rhewi tra bod prosiectau'n dal i fynd rhagddynt yn ne Cymru ac mewn rhannau eraill o'r wlad. Onid yw'r dystiolaeth honno'n dangos yn glir mai Llywodraeth yw hon nad yw'n blaenoriaethu gogledd Cymru mewn gwirionedd, fod yr ardal honno bob amser yn ail ar ei rhestr o flaenoriaethau, a'i bod yn bryd i'r Llywodraeth hon godi'r gwastad ar draws Cymru gyfan er mwyn inni gael rhywfaint o degwch i'n rhanbarth ni yn y gogledd?
Wel, gallai fod ateb byr, a'r ateb byr yw 'na', ond rwyf am fod yn garedig a cheisio ymateb mewn ffordd llawer mwy cadarnhaol gyda chi. Rydych chi'n dewis a dethol. Fe gyfeirioch chi at awdurdodau lleol, er enghraifft. Fe wyddoch sut y caiff awdurdodau lleol eu hariannu—fe wyddoch hynny. Fformiwla yw hi. Rydym newydd glywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn esbonio i'r Aelodau nad oeddent, efallai, yn ymwybodol o'r ffordd y caiff awdurdodau lleol eu hariannu. Fformiwla yw hi. Fformiwla yw hi sy'n cael ei gwneud—
Mewn ffordd sy'n annheg i ogledd Cymru.
Fformiwla yw hi sy'n cael ei gwneud gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a hyd nes y bydd awdurdodau lleol yn gofyn—. Ac rwyf wedi bod yn Weinidog llywodraeth leol ac ni chefais erioed gais i edrych ar y fformiwla, oherwydd fe wyddant, os oes gennych—[Torri ar draws.] Os oes gennych chi restr o 22 awdurdod lleol, bydd rhywun ar y brig a bydd rhywun ar y gwaelod, a pha fformiwla bynnag a ddefnyddiwch, bydd hynny'n digwydd. Bydd hynny'n digwydd. Felly, un peth yw dewis a dethol yr holl bethau hyn.
Nawr, i fynd yn ôl at yr adolygiad ffyrdd, sef y cwestiwn a ofynnoch chi i mi yn y dechrau. Rydych yn sôn am 'rewi'. Nawr, rwy'n derbyn, ar hyn o bryd, fod adolygiad ffyrdd ar y gweill, felly mae'r pethau hyn wedi'u rhoi heibio am y tro—nid eu rhewi; maent wedi'u rhoi heibio am y tro. A phan gyhoeddir yr adolygiad ffyrdd gyda'r argymhellion—[Torri ar draws.] Gwn nad ydych erioed wedi bod mewn Llywodraeth yma. Mae ymrwymiad maniffesto yn ymrwymiad ar gyfer pum mlynedd; mae rhaglen lywodraethu yn para am bum mlynedd. Rydym bum mis i mewn i'r rhaglen lywodraethu honno; mae digon o amser i barhau i gyflawni dros ogledd Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod hon yn Wythnos Wlân, a llynedd, cododd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd pryderon gyda chi am gyflwr y farchnad wlân yng Nghymru. O ganlyniad i'r pandemig, roedd y cwymp yn y farchnad wlân yn golygu bod ffermwyr yn talu rhyw £1 am gneifio dafad a dim ond cael rhyw 19c neu 20c yn ôl am bob rholyn o wlân ar gyfartaledd. Diolch byth, mae prisiau gwlân wedi codi rhywfaint bach ers hynny, ond mae'n bell o fod yn ddigonol. Mae'n amlwg felly bod angen meddwl am ddulliau gwahanol o ddefnyddio gwlân er mwyn helpu'r diwydiant. Ac mae gwlân, fel mae pawb yn gwybod, yn cael ei ddefnyddio ers tro byd fel insiwleiddydd effeithiol iawn. Yng ngoleuni'r sylw cynyddol sy'n cael ei rhoi i newid hinsawdd a gwella'r amgylchedd, mae rhinweddau hyn yn dod yn fwyfwy pwysig i adeiladwyr a phrynwyr cartrefi. Felly, ydych chi'n fodlon rhoi ystyriaeth i gefnogi'r diwydiant gwlân yng Nghymru a defnyddio gwlân i insiwleiddio'r tai y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu codi, gan gynnwys y cynllun retroffitio? Diolch yn fawr.
Rydych yn gwneud pwyntiau cymwys iawn ynghylch pris gwlân. Rwy'n ceisio meddwl—rwy'n credu mai ar ddiwedd tymor y Llywodraeth ddiwethaf y gwelsom y prisiau gwlân yn gostwng o ddifrif a chefais gyfarfodydd gydag awdurdod gwlân Prydain i geisio gweld beth y gallem ei wneud i helpu Cymru. Cyflwynais sylwadau i Lywodraeth y DU gyda gweinidogion cyfatebol o'r Alban.
Yn sicr, gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn gyfrifol am dai ac am ôl-osod wedi cael trafodaethau am hyn, oherwydd, fel y dywedwch, mae gwlân yn ddeunydd inswleiddio da iawn. Felly, os yw honno'n un ffordd y gallwn barhau i helpu i gefnogi gwlân Cymru, byddwn yn sicr yn ystyried gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr pa mor bell y mae'r Gweinidog wedi mynd gyda'i thrafodaethau, ond gwn ei bod wedi cael trafodaethau cychwynnol ynglŷn â hyn.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r clafr, neu'r sgab, yn fater pwysig iawn, eto yn ymwneud â defaid ym maes llesiant anifeiliaid yn arbennig, ac yn fater sydd efallai ddim wedi derbyn ffocws digonol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n broblem sydd yn helaeth ac yn cynyddu, yn anffodus. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei fod yn clustnodi rhyw £5 miliwn i helpu cael gwared ar y clafr nôl ar ddechrau 2019. Yna, er mawr siom ym mis Tachwedd y llynedd, fe gyhoeddwyd y byddai'r £5 miliwn yn cael ei ddargyfeirio i gefnogi cynlluniau COVID. Mae'r sector amaeth nawr yn awyddus iawn bod Llywodraeth Cymru yn adfer y £5 miliwn yma i'r ymdrechion i waredu'r clafr, ac yn gwireddu eu hymrwymiad a'r addewid a wnaethoch chi i'r diwydiant. Mae yna arian, fel rŷch chi'n gwybod, dros ben yn y cynllun datblygu gwledig, ac ym marn Plaid Cymru, dylai'r Llywodraeth ddyrannu £5 miliwn o'r cynllun hwnnw i helpu'r diwydiant i waredu'r clafr. Felly, ydy'r Gweinidog yn fodlon ymrwymo i gadw at ei haddewid gwreiddiol er mwyn taclo'r her bwysig hon?
Rwy'n cytuno'n llwyr; mae'r clafr yn glefyd cymhleth ac anodd iawn. Nid wyf yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig ydyw; rwy'n credu ei fod yn fater i'r diwydiant gyda'i gilydd. Yn sicr, buom yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Yn anffodus, oherwydd penderfyniadau y bu'n rhaid i mi eu gwneud am y gyllideb mewn perthynas â COVID, ni fu modd imi gyflwyno'r cyllid hwnnw, ond yn sicr rwy'n cael trafodaethau yn awr am gam nesaf y cynllun datblygu gwledig, ac yn sicr gallaf eich sicrhau chi a'r diwydiant y bydd cyllid i helpu i ddileu'r clafr yn uchel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau.
Diolch yn fawr iawn. A'r cwestiwn olaf: bydd Aelodau'n ymwybodol bod y penwythnos diwethaf, wrth gwrs, wedi cael ei ddynodi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn ôl eu natur, mae cymunedau gwledig yn rhai diarffordd ac ynysig iawn, ac oherwydd y diffyg cyfleoedd i bobl i gwrdd â phobl eraill o ddydd i ddydd, mae teuluoedd yn aml yn gallu dioddef ynysu cymdeithasol gyda phroblemau iechyd meddwl yn gallu deillio o hyn. Yn anffodus, mae 84 y cant o ffermwyr o dan 40 oed yn dweud mai materion iechyd meddwl yw'r her anweledig fwyaf i ffermio yng Nghymru. Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Gronfa Cefn Gwlad Tywysog Cymru wedi amlinellu sut y gall martau sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i ffermwyr a'r cymunedau gwledig fel mannau mae pobl yn gallu mynd iddyn nhw i gymdeithasu. Felly, a allai'r Gweinidog amlinellu pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd nid yn unig i helpu i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr, ond hefyd i helpu i gefnogi'r rôl economaidd mae canolfannau cymunedol fel martau yn eu chwarae i ddarparu manteision cymdeithasol pwysig?
Diolch. Credaf mai dyna'r cwestiwn pwysicaf o'ch tri chwestiwn, ac mae'n rhywbeth rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr ac arbennig ynddo ers i mi ymgymryd â'r portffolio hwn. Oherwydd, er bod y sector amaethyddol a chymunedau ffermio yn rhai o'r grwpiau mwyaf agos y cyfarfûm â hwy erioed, gallwch deimlo braidd yn ynysig weithiau wrth fod ar fferm. Yn enwedig yn ystod y pandemig, credaf fod hynny'n sicr wedi'i amlygu. Felly, rwyf wedi rhoi cyllid sylweddol i elusennau iechyd meddwl amaethyddol.
Fe ofynnoch chi ar y diwedd am farchnadoedd, er enghraifft, ac un o'r pethau yw'r cyllid y gallasom ei ddyrannu i Sefydliad DPJ. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r elusen honno. Fe wnaethant edrych ar sut y gallent hyfforddi pobl eraill i adnabod symptomau o broblemau iechyd meddwl mewn mannau fel marchnadoedd ffermwyr, lle na fyddech yn meddwl efallai, pe baech yn ffermwr â phryderon, y gallech gael eich cyfeirio at y lle mwyaf priodol. Felly, mae hwnnw'n faes y buom yn gweithio arno. Hefyd, lansiwyd FarmWell gennym yn ystod pandemig COVID-19, a oedd fel siop un stop, lle byddech yn cael gwybod, pe baech yn cysylltu â hwy, ble i fynd ymlaen wedyn i gael rhagor o gymorth.
Rwy'n cyfarfod yn eithaf rheolaidd â'r holl elusennau amaethyddol, ac maent hwy, rwy'n credu, pob un ohonynt—cyfarfûm â thua hanner dwsin ohonynt yn rheolaidd dros y 18 mis diwethaf—wedi dweud bod yr atgyfeiriadau atynt wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Felly, mae'n rhywbeth rwy'n cadw llygad barcud arno, ac os oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i helpu, rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny.
Mae cwestiwn 3 wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 4, Siân Gwenllian.