Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch, a gallaf dawelu meddwl Joyce Watson fod treillio am gregyn bylchog yn cael ei reoleiddio'n llym yn nyfroedd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys drwy gyfyngiadau gofodol hefyd. Rydym yn monitro'r gweithgaredd yn ofalus. Rydym yn rhoi camau gorfodi ar waith lle bynnag y bo angen, a gwneir hyn yn bennaf drwy dracio llongau gan ddefnyddio'r systemau monitro llongau sydd gennym ar ein llongau patrolio pysgodfeydd, sy'n cynnwys llong y Rhodri Morgan, er enghraifft, a hefyd drwy archwiliadau porthladd a harbwr gan ein swyddogion gorfodi morol. A phob blwyddyn cyn i'r bysgodfa cregyn bylchog ailagor, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad rheoleiddio cynhwysfawr o'r cynefinoedd, a dim ond gyda chytundeb pellach Cyfoeth Naturiol Cymru y gwneir hynny.