Diogelu Bywyd Morol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:21, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi yn gyntaf oll, fel hyrwyddwr eogiaid y Senedd, ofyn i'r morloi chwarae'n ofalus? [Chwerthin.] Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig, fel y gŵyr y Gweinidog, yn y gwaith partneriaeth sy'n sail i bysgodfeydd a rheoli morol, yr ymelwa, yn gynaliadwy, ar ein hadnoddau naturiol, ochr yn ochr â'r dull rheoli ar lefel yr ecosystem, y dywedodd yn gywir y byddai'n sail i ystyriaeth Llywodraeth Cymru. Felly, tybed a yw'n rhoi amser i edrych ar waith effeithiol y grwpiau cenedlaethol a lleol—grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol, ond hefyd y grwpiau sy'n ei gynnal yn lleol—i sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw'n iawn gennym, fod pob llais yn cael ei glywed, a bod partneriaeth effeithiol yn bodoli. Mae cryn dipyn o flynyddoedd bellach ers iddynt gael eu rhoi ar waith, felly mae'n ymddangos ei bod yn amser priodol i ddweud, 'A ydynt yn gweithio'n effeithiol, a yw'r cydbwysedd yn iawn ganddynt ar gyfer natur a hefyd ar gyfer ymelwa cynaliadwy?'