Diogelu Bywyd Morol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:22, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau, yn sicr gyda'r rhan hon o'r portffolio; byddwn yn dychmygu y byddai hynny bellach yn dod o fewn cylch gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r grwpiau, fel yr awgrymwch, oherwydd os ydym am gael statws amgylcheddol da, er enghraifft, i'n dyfroedd, rhywbeth yr ydym yn ceisio'i gyflawni ar hyn o bryd, mae gwir angen inni wrando ar beth y mae'r bobl hyn yn ei ddweud wrthym a pha waith sy'n cael ei wneud. Ond fe ofynnaf i'r Gweinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.