Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed, rwy'n siŵr, fy mod wedi cael fy mhenodi yn hyrwyddwr y morlo llwyd yn ddiweddar, a'r wythnos diwethaf, tra'n cymryd rhan mewn gweithgaredd glanhau traeth ar draeth y gogledd, Dinbych-y-pysgod, mwynheais gyfarfod â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i drafod rhai o'r heriau y mae'r creaduriaid hyn yn eu hwynebu yn sgil gweithredoedd pobl. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae llawer o forloi bach newydd-anedig yn mentro allan am y tro cyntaf i gefnfor gwyllt yr Iwerydd ar arfordir sir Benfro a sir Gaerfyrddin ond yn anffodus, un o'r prif fygythiadau i'r creaduriaid rhyfeddol hyn yw'r llygredd sy'n cael ei greu gan draffig morol. Gyda'r cyfrifoldeb dros ddiogelu ein bywyd gwyllt morol ar ysgwyddau eich cyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r cyfrifoldeb am bysgodfeydd o fewn eich portffolio eich hun, a allwch fanylu ar ba gamau yr ydych chi a'ch cyd-Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod dyfodol yr ymwelwyr hyn â'n harfordir yn cael ei ddiogelu am genedlaethau i ddod?