Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 13 Hydref 2021.
Da iawn chi ar gael eich penodi'n hyrwyddwr y morlo llwyd. Dylech gael cystadleuaeth gyda'ch cyd-Aelod, Darren Millar, i weld sawl gwaith y gallwch ddweud yn y Siambr pa rywogaeth yr ydych yn hyrwyddwr arni. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei bod wedi bod yn hyfryd iawn gweld cymaint o forloi bach o gwmpas ein harfordir dros yr haf. I fynd yn ôl at eich cwestiwn penodol am y sgyrsiau rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau ynglŷn â'n polisïau, mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau, er enghraifft, fod ein holl nodweddion dynodedig yn ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu hasesu yn erbyn unrhyw niwed posibl o weithgareddau fel y rhai y cyfeirioch chi atynt.