Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 13 Hydref 2021.
Wel, gallai fod ateb byr, a'r ateb byr yw 'na', ond rwyf am fod yn garedig a cheisio ymateb mewn ffordd llawer mwy cadarnhaol gyda chi. Rydych chi'n dewis a dethol. Fe gyfeirioch chi at awdurdodau lleol, er enghraifft. Fe wyddoch sut y caiff awdurdodau lleol eu hariannu—fe wyddoch hynny. Fformiwla yw hi. Rydym newydd glywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn esbonio i'r Aelodau nad oeddent, efallai, yn ymwybodol o'r ffordd y caiff awdurdodau lleol eu hariannu. Fformiwla yw hi. Fformiwla yw hi sy'n cael ei gwneud—