Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 13 Hydref 2021.
Mae hwn yn amlwg yn rhywbeth a drafodais droeon gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chyda Llywodraeth y DU yn gyffredinol, yn sicr pan oeddem yn nesáu at gyfnod pontio'r UE. Weithiau, ateb Llywodraeth y DU oedd, 'Fe anfonwn y llynges i mewn', ac nid wyf yn credu mai dyna oedd yr ateb o gwbl. Ond mae unrhyw bysgota anghyfreithlon yn annerbyniol.
Yr hyn a wnaethom fel Llywodraeth, oherwydd dyna oedd ail ran eich cwestiwn, oedd sicrhau bod gennym longau patrolio pysgota newydd, oherwydd, yn sicr pan ymgymerais â'r portffolio hwn bum mlynedd yn ôl, nid oedd y llongau a oedd gennym bryd hynny yn addas i'r diben. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym longau gorfodi pysgota newydd, ac mae hynny'n sicr wedi helpu yn fy marn i. Ond mae unrhyw bysgota anghyfreithlon yn annerbyniol. Rwy'n cyfarfod â Gweinidog DEFRA a fy nghymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon eto, rwy'n credu, ddiwedd y mis hwn, ac yn sicr, mae pysgota bob amser ar yr agenda.