Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 13 Hydref 2021.
Fel y gŵyr y Gweinidog, er gwaethaf pob ymdrech i atal a rhwystro pysgota anghyfreithlon, mae rhai pobl yn dal i fod yn benderfynol o dorri'r gyfraith a gorgynaeafu ein moroedd yn anghyfreithlon er budd masnachol iddynt hwy. Mae hyn, yn anffodus, yn cael effaith ganlyniadol enfawr, gyda stociau pysgod yn lleihau, bywoliaeth pysgotwyr sy'n cadw at y gyfraith yn cael eu heffeithio, a phoblogaeth rhywogaethau pysgod sydd eisoes mewn perygl yn dirywio ymhellach. Fel y gŵyr llawer yn y Siambr hon, mae Brexit wedi arwain at fwy na geiriau tanbaid ynghylch pysgota gan wledydd Ewrop yn nyfroedd tiriogaethol Prydain, a mater cyfredol sy'n dod i'r amlwg yw bod llongau pysgota yn diffodd eu systemau adnabod awtomatig a'u dyfeisiau adnabod a thracio o bell er mwyn iddynt allu pysgota mewn dyfroedd heb gael eu canfod. Nid oes gennyf fawr o amheuaeth fod dyfroedd Cymru yn debygol o gael eu targedu gan yr ymddygiad hwn, felly a allai'r Gweinidog wneud datganiad am y sgyrsiau y maent hwy a'u cyd-weinidogion wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr arfer hwn, a pha fesurau y gallant eu rhoi ar waith i'w atal?