Llygredd Afonydd sy'n Deillio o Amaethyddiaeth

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:41, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Er bod y ddadl gyhoeddus fawr yr wythnos ddiwethaf yn ymwneud â diogelwch rhag COVID, cefais fwy o e-byst am lygredd Afon Gwy nag unrhyw beth arall. Rwyf hefyd yn ymwybodol o afonydd eraill sydd wedi'u llygru o ganlyniad i ddŵr ffo amaethyddol. Mae pobl hefyd yn pryderu am ddŵr ffo o ffermydd ieir a nitrogen a chemegau eraill sy'n mynd i mewn i'r afon. A allwn ddisgwyl gweld gwelliant yn ansawdd afonydd yn y dyfodol agos? Oherwydd, o'r hyn rwy'n ei glywed gan bobl am Afon Gwy, mae mewn cyflwr bregus iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd afonydd eraill yn yr un sefyllfa yn union yn weddol fuan. Mae angen inni ddiogelu ein hafonydd, ac mae angen gwneud beth bynnag sydd ei angen i ddiogelu ein hafonydd.