Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 13 Hydref 2021.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae gennym bryderon ynghylch Afon Gwy ar hyn o bryd. Rydych yn gofyn a fyddwn yn gweld gwelliant yn ein hafonydd. Rwyf eisiau gweld gwelliant ar y raddfa a welsom gyda'n dyfroedd ymdrochi, er enghraifft, lle rydym wedi gwneud cynnydd enfawr. Byddaf yn sicr eisiau gweld hynny gyda'r afonydd. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd yn sicr mae gan atal llygredd o ffermio dofednod rôl i'w chwarae, fel y dywedoch chi. Ac yn amlwg, mae awdurdodau cynllunio yn gorfod ystyried effeithiau amgylcheddol unrhyw gynigion cynllunio ar gyfer unedau dofednod newydd, felly dyna pam y bûm yn gweithio gyda'r Gweinidog mewn perthynas â chynllunio, oherwydd gwelsom nifer cynyddol, yn sicr yn nifer y ffermydd dofednod a'r ceisiadau hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau nad yw'r effaith gronnol yn arwain at ganlyniadau andwyol.