Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda grŵp Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, a gyhoeddodd eu cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer gwarchodfeydd neu sefydliadau lles anifeiliaid yn 2020. Bydd ystyriaeth bellach ar reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yn well, sy'n cynnwys gwarchodfeydd, yn cael ei rhoi drwy ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu a'r cynllun lles anifeiliaid arfaethedig i Gymru yr wyf newydd gyfeirio ato.