Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch, Weinidog. Mae gennym rai gwarchodfeydd anhygoel yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith hanfodol i achub anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael neu eu hanafu. Mae'r mwyafrif llethol o warchodfeydd a chanolfannau achub yn fodelau o arfer da. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reoleiddio arnynt. Gall unrhyw un eu sefydlu, ni waeth a oes ganddynt brofiad a gwybodaeth ai peidio. Barn yr RSPCA, un o'r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar les anifeiliaid, yw ei bod yn hen bryd rheoleiddio canolfannau achub a gwarchodfeydd yng Nghymru i ddangos bod anifeiliaid yn cael eu diogelu fel y maent ei angen. Byddai'r ddeddfwriaeth hefyd yn sicrhau bod canolfannau achub a gwarchodfeydd sefydledig sy'n fodelau o arfer da yn cael eu diogelu yn hytrach na chael llychwino gan sefydliadau amheus. A ydych chi'n ymchwilio i'r ddeddfwriaeth hon ac os felly, pryd y byddai'n dod yn weithredol?