Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle—maent yn chwarae rhan amhrisiadwy mewn gwasanaethau lles anifeiliaid, ac yn anffodus, ceir adegau pan fo pethau wedi mynd o chwith, ac yn sicr, ers imi fod yn Weinidog, cafodd un neu ddau o faterion eu dwyn i fy sylw, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt, fel y dywedwch, yn fodelau o arfer da. Soniais am y cod ymarfer yn fy ateb i chi, ac rwy'n ymwybodol fod y grŵp a weithiodd gyda ni ar hynny yn awyddus i gyflwyno mesurau statudol. Byddent yn hoffi gweld rheoleiddio statudol neu ryw fath o system drwyddedu yn dod i rym. Unwaith eto, mae'n rhywbeth rwy'n ei ystyried o fewn y cynllun lles anifeiliaid y byddaf yn ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni.