Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 13 Hydref 2021.
Rwy'n sicr yn cytuno â'r ddau ddatganiad a wnaethoch. Ni fyddwn byth yn dweud bod yr holl lygredd yn cael ei achosi gan arferion amaethyddol. Daw llygredd o sawl ffynhonnell, a byddwn yn dweud bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn sicr yn malio am yr amgylchedd. Fodd bynnag, rydym yn gweld lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol—a chyfeiriais at y rheoliadau a ddaeth i rym yn gynharach eleni.
Mewn perthynas â'ch pwynt arall, ynglŷn â ffynonellau eraill o lygredd, yn amlwg, os nad yw cwmnïau dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded, neu os ydynt yn gweithredu heb drwydded—ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau ar gyfer gorlif storm, er enghraifft—bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio, a lle bo'n briodol, byddant yn rhoi camau gorfodi ar waith. Felly, rydych yn llygad eich lle—mae'n bwysig fod ein rheoleiddwyr yn chwarae eu rhan hefyd.