Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch am ateb cwestiwn Mike, Weinidog; mae'n ddefnyddiol iawn. Mae'r sefyllfa gyda rhai o'n hafonydd ledled Cymru yn peri pryder mawr, ac rydym yn rhannu'r pryder hwnnw. Mae angen ymdrech ar y cyd ar frys i fynd i'r afael â'r lefelau llygredd a welir ar hyn o bryd. Serch hynny, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Weinidog, nad yw llygredd afonydd i gyd yn deillio o amaethyddiaeth, fel y gwelsom yn Afon Wysg, lle mae carthion crai yn cael eu gollwng i'r afon yn rheolaidd, hyd yn oed pan fo'n ymddangos nad oes cyfnodau sylweddol o law wedi bod. Mae cannoedd ar gannoedd o bobl leol yn pryderu'n fawr am hynny. Gwn y byddwch chi hefyd, ac rwyf wedi rhoi tystiolaeth o hynny i chi. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn malio am yr amgylchedd ac yn gwneud y pethau iawn? Ac a fyddech yn cytuno o'r diwedd fod angen i'n rheoleiddwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, gamu i'r adwy ac ymdrin ag unrhyw un neu unrhyw gorff sy'n torri'r rheolau, ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau dŵr? Mae'r hyn a welwn ar hyn o bryd yn gwbl annerbyniol, yn sicr mewn perthynas ag Afon Wysg.