Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 13 Hydref 2021.
Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Rhun, ac er bod gennych rai pryderon am solar, mae'n deg dweud, ar hyd arfordir gogledd Cymru, fod y pryderon hynny bellach yn ymestyn i gynnwys y prosiectau ffermydd gwynt enfawr sydd ar y ffordd.
Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod tua 58,000 yn gweithio yn y sector ynni a'r sector amgylchedd yng Nghymru, gan gynhyrchu dros £4.8 biliwn mewn refeniw, ac mae'r sector hwn wedi'i baratoi i gael ei ehangu'n barhaus dros y blynyddoedd nesaf. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 86 o ffermydd gwynt gweithredol, potensial i gynhyrchu tua 10 GW o ynni morol, sector ynni solar aeddfed, ac amrediad llanw sy'n gallu darparu cyfleoedd cynhyrchu sylweddol ar hyd arfordir Cymru.
Roedd Rheoliadau Strategaeth Forol 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol i gyflawni neu gynnal statws amgylcheddol da dyfroedd morol erbyn 31 Rhagfyr 2020, a gwn na lwyddwyd i wneud hynny erbyn y dyddiad hwnnw. Mae bioamrywiaeth forol yn parhau i ddirywio. Beth am wrthdroi'r duedd drwy weld y ffermydd gwynt ar y môr a chysylltwyr gwely'r môr yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer adfer ecosystem gwely'r môr a dal a storio carbon glas?
Rwyf wedi bod yn cynnal trafodaethau adeiladol iawn gyda'r Athro Chris Baines sy'n byw yn fy etholaeth i, ac mae'n awdur enwog ar faterion o'r fath. Mae wedi amlinellu'n briodol, os gall ffermydd gwynt ddod—. Os ydynt yn mynd i fod yno, a allant ddod yn warchodfeydd gan aflonyddu cyn lleied â phosibl ar wely'r môr? Ac os gellir cyfuno hyn ag adfer cynefinoedd yn rhagweithiol ar ffurf pethau fel gosod riffiau artiffisial ar waelod y tyrbinau, gallai'r seilwaith ynni gwynt wneud cyfraniad unigryw a chadarnhaol tu hwnt i adferiad morol a charbon sero-net, tra'n cydymffurfio â'n nodau bioamrywiaeth a chadwraeth. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn pa gamau a gymerir gennych i annog datblygwyr ynni adnewyddadwy yn y dyfodol i gymryd rhan mewn prosiectau o'r fath i adfywio cynefinoedd morol Cymru? Pa gamau a gymerir gennych i annog dargyfeirio gwariant cymunedol tuag at ymdrechion plannu, fel rhai dolydd morwellt, y gwyddys eu bod yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol?
Byddai argymhelliad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ar gyfer cynllun datblygu morol yn rhoi eglurder ynghylch faint o ddatblygiad sy'n gynaliadwy ym moroedd Cymru, a lle sydd orau i'w leoli. Wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig i chi, Weinidog, fe wnaethoch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn dechrau rhaglen waith ddwy flynedd i fapio adnoddau strategol posibl. Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd y gweithgaredd mapio hwn a chadarnhau dyddiad ar gyfer cyflawni i ni heddiw?
Amcangyfrifodd adroddiad gan Zero Waste Scotland y bydd cynifer â 5,613 o dyrbinau yn cael eu datgomisiynu rhwng 2021 a 2050, gan gynhyrchu rhwng 1.25 miliwn ac 1.4 miliwn tunnell o ddeunydd. Ac wrth gwrs, rwyf wedi mynegi pryderon fy hun yn ddiweddar ynglŷn â sut na ellir ailgylchu llafnau'r tyrbin ar hyn o bryd. Felly, yn Nenmarc, mae'r Re-Wind Network yn addasu'r strwythurau hyn yn wahanol elfennau pensaernïol, megis llochesi beiciau a phontydd troed. Mae gan Rotterdam faes chwarae 1,200 metr sgwâr i blant sy'n cynnwys tŵr sleidiau, twnelau a rampiau, a'r cyfan wedi'i greu o lafnau tyrbinau gwynt a ddatgomisiynwyd. Pa gamau a gymerir gennych i gynhyrchu data ar y broses o ddatgomisiynu ffermydd gwynt, Weinidog? Ac a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr newydd i gyflwyno gofyniad yn galw arnynt i ymrwymo ymlaen llaw i addasu eu hoffer at ddibenion gwahanol mewn ffordd sydd o fudd i'n cymunedau, a'n hamgylchedd yn wir?
Yn olaf, mae'r Gweinidog yn gwybod bod prosiectau ffermydd gwynt ar y môr Awel y Môr, BP Morgan a Mona yn peri pryder mawr i lawer. Yn wir, pan ddatblygir y rhain, dywedodd sawl arbenigwr yn y maes y bydd gormod o dyrbinau gwynt ar arfordir gogledd Cymru. Hyd yma, mae un o bwyllgorau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dangos eu gwir wrthwynebiadau i gynllun enfawr Awel y Môr. Ni all fod yn iawn fod cyn lleied o ddiogelwch i'n pysgotwyr a fydd, Weinidog—mewn gwirionedd, wyddoch chi, gallai eu bywoliaeth gael ei bygwth gan gynllun ar y gorwel agos, 10.6 km yn unig oddi ar yr arfordir. Rydym mewn argyfwng natur, ac eto mae perygl gwirioneddol y gallai'r cynlluniau hyn gael effaith andwyol ar rywogaethau morol, ein cynnig twristiaeth, ac yn wir—