5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Manteision cymunedol prosiectau ynni

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:26, 13 Hydref 2021

Mi fyddai hynny, dwi'n meddwl, yn gam pwysig ymlaen. Ond mi all budd ddod mewn ffyrdd eraill hefyd. Mi all o olygu addewidion go iawn am swyddi—bwrlwm economaidd o'r math yna—cryfhau cadwyni cyflenwi; biliau ynni rhatach, neu, o bosib, yn fwy gwerthfawr yn amgylcheddol, fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni o fewn y cymunedau hynny; rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan; batris cartref neu ynni solar cartref wedi cael ei sybsideiddio. Beth am rannu elw go iawn efo cymunedau? Prynu caniatâd am fferm solar y gwnaeth EDF. Beth am yr elw y gwnaeth y cwmni a wnaeth gael y caniatâd hwnnw a'i werthu fo ymlaen? Mi ddylai cyfran o'r elw a wnaeth y cwmni yna, dwi'n credu, aros yn lleol.

Ond nid dim ond rhestru buddion o'r math yna y byddwn i am i ddatblygwyr orfod ei wneud drwy gynnal asesiad effaith cymunedol. Mi fyddai angen mesur impact go iawn ar hagru cefn gwlad, ar golli amwynder gwyrdd sy'n bwysig iawn, iawn i ni; yr effaith ar bris eiddo o fewn y cymunedau hynny, a safon byw pobl hefyd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n anodd rhoi pris arno fo, o bosib, ond sydd mor, mor bwysig. O ystyried bod yr impact o gynllun unigol, neu effaith gronnol cynlluniau lluosog, a dyna'r broblem rydyn ni'n ei hwynebu yn Ynys Môn—. O ystyried yr impact yna, beth byddwn i'n dymuno ei weld wedyn fyddai ymdrechion i ddarparu'r cynhyrchiant ynni yna rydym ni'n ei angen mewn ffyrdd gwahanol.

Yn hytrach na defnyddio bloc o filoedd o aceri, beth am gannoedd o flociau llai, yn dilyn, o bosib, llinellau dosbarthu ynni—mwy o dirfeddianwyr yn elwa ychydig, yn hytrach nag ychydig o dirfeddianwyr yn elwa llawer iawn? Beth am, drwy gryfhau'r system ddosbarthu, ddefnyddio toeau siediau amaethyddol, toeau ffatrïoedd, eglwysi, capeli, ysgolion, canolfannau cymunedol ac ati? Beth am osod paneli cyfochrog efo cloddiau a ffiniau tir dros ardaloedd eang, gan greu coridorau cyfoethog mewn bioamrywiaeth tra'n cadw'r caeau eu hunain yn gynhyrchiol? Beth am ymylon ffyrdd? Un syniad arall a gafodd ei basio ymlaen i mi heddiw: defnyddio canol yr A55, hyd yn oed, ar gyfer paneli solar. Wn i ddim; mae'n bosib bod hynny'n bosib.  

Gadewch inni feddwl y tu allan i'r bocs. Drwy fod yn greadigol, dwi'n meddwl y gallwn ni gynhyrchu ynni ar raddfa eang iawn tra'n gweithio efo, yn hytrach nag yn erbyn, cymunedau. Dwi wedi sôn am solar yn bennaf heddiw, achos mai dyna'r prif fater sydd yn ymwneud â phrosiectau ynni o'r math yma yn Ynys Môn, ond mi allai fo gynnwys pob mathau o ddulliau o gynhyrchu ynni eraill hefyd.

Mae rhai wedi dadlau efo fi bod peidio â meddwl yn y ffordd greadigol yma hyd yn oed yn gallu creu'r risg o droi pobl yn erbyn prosiectau ynni adnewyddol, a rhwystro cynnydd, pan mai un o'r gwobrau net sero mawr, siawns, fyddai gallu ymgysylltu a hwyluso cymunedau yn effeithiol i ddatgarboneiddio. Rydym ni eisoes yn gweld cryn rwystredigaeth yn lleol, mae'n rhaid dweud, yn sgil colli dylanwad dros ba un a gaiff cynlluniau ganiatâd ai peidio, ond mi fyddai, dwi'n meddwl, cynnal asesiadau effaith cymunedol yn dod â'r gymuned yn ôl at galon penderfyniadau cynllunio ar ynni. Dwi'n edrych ymlaen i glywed cyfraniadau y prynhawn yma ac ymateb y Llywodraeth.