6. Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:21, 13 Hydref 2021

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddigon ffodus i allu cerdded ar hyd yr afon Taf i'r Senedd, ac, wrth gerdded ar hyd y glannau, dwi'n adlewyrchu'n aml gymaint o'r ardaloedd o amgylch a fyddai o bosib o dan dŵr o fewn ychydig flynyddoedd os nad ydyn ni'n cydweithio gyda'n gilydd. Ac mae hyn yn bwysicach na gwleidyddiaeth pleidiol, onid yw e? Mae'n rhaid inni gydweithio gyda'n gilydd—Llywodraethau ledled y byd a hefyd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau lleol.