6. Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:22, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Y rhybudd amlwg gan gadeirydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yw 'addasu neu farw', a gŵyr pob un ohonom nad oes Clawdd Offa yn bodoli mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd. Ond mae angen inni ddod o hyd i atebion yma yng Nghymru ar gyfer realiti byd-eang. I wneud hynny, mae angen y rheolaeth arnom. Mae arnom angen yr ysgogiadau i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae gwelliannau i'n trefniadau cyfansoddiadol wedi cael eu rhewi gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Tra bo Boris Johnson yn mwynhau paentio yn ei fila foethus, mae'r argyfwng hinsawdd yn arwain at rewlifoedd yn toddi, ac yma, maent yn gwarafun yr offer sydd eu hangen arnom i weithredu.