6. Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:23, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Gall Cymru gynhyrchu'r pŵer sydd ei angen arnom o ffynonellau adnewyddadwy ac allforio ynni ledled y byd. O'r lle hwn, bu porthladd Caerdydd, Cymru fyd-eang, Cymru ryngwladol, yn allforio glo i bedwar ban byd. Gallwn fod yn arweinydd unwaith eto.

Yr hyn na allwn ei wneud yw aros ac aros am roddion prin gan Lywodraeth ddifater San Steffan. Fel y gwelir yn yr adroddiad ar borthladdoedd y dyfodol, a gyhoeddwyd heddiw, mae Ystad y Goron yn arwerthu lesoedd ar gyfer datblygu ynni gwynt ar y môr a thechnolegau adnewyddadwy eraill. Gwnânt hynny er mai Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am ynni adnewyddadwy ar gyfer prosiectau hyd at 350 MW. Mae refeniw proffidiol o lesoedd Ystad y Goron a ddylai ddod yma i Drysorlys Cymru yn diflannu yn hytrach i bot yn Whitehall, gyda chyfran hael o 25 y cant i'r teulu brenhinol. Mae arian a allai wneud gwahaniaeth i deuluoedd yma yng Nghymru yn mynd yn syth i gyfrifon banc biliwnyddion.