Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 13 Hydref 2021.
Wedi cael ei ofni gan gynnydd yr SNP ar ôl y refferendwm annibyniaeth, cafodd Ystâd y Goron ei datganoli i'r Alban, ond mae llais honedig Cymru yn y Cabinet, Simon Hart, yn erbyn hynny i Gymru; dyw Cymru ddim yn ddigon da am y pŵer yna, yn ôl e. Ond mae'r ffigurau yn drawiadol. Gwrandewch: 27 y cant o ynni Cymru yn dod o ynni adnewyddadwy o gymharu â 61 y cant yn yr Alban.