6. Dadl Plaid Cymru: Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 13 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:25, 13 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Mae rheolaeth Ystad y Goron ar wely ein môr, heb sôn am ddarnau mawr o'n tir, yn golygu bod Cymru'n colli'r rhuthr gwyrdd y mae'r Alban yn elwa ohono ar hyn o bryd, ac mae'r un peth wedi digwydd ar hyd y canrifoedd. A dyna eironi marchnad ynni neoryddfrydol y DU—mae cwmnïau ynni a chanddynt gefnogaeth y wladwriaeth o bob rhan o Ewrop yn manteisio ar adnoddau Cymru ac yn gwario'r arian hwnnw i helpu eu gwasanaethau cyhoeddus eu hunain gartref, tra bod ein gwasanaethau cyhoeddus ein hunain yn dirywio oherwydd diffyg buddsoddiad.

Heddiw, yn nigwyddiad y gynghrair werdd yn San Steffan, nododd Ed Miliband mai Rachel Reeves fyddai Canghellor gwyrdd cyntaf y DU. Wel, yma yng Nghymru, nid oes angen inni aros am Lywodraeth Lafur. Beth am gael y pwerau fel mai Rebecca Evans yw'r Gweinidog cyllid gwyrdd cyntaf a dangos y ffordd i'ch cyd-aelodau o'r Blaid Lafur yn Llundain?