Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 13 Hydref 2021.
Y Senedd hon oedd y gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd, yn ôl yn 2019, ac ychydig fisoedd yn ôl, hon oedd y Senedd gyntaf i ddatgan argyfwng natur. Gwyddom fod y dasg sydd o'n blaenau yn aruthrol, a bod angen meddwl o ddifrif amdani ac ewyllys i newid y system yr ydym yn byw ynddi. Rwyf bob amser wedi bod yn glir: mae'r system economaidd bresennol yr ydym yn byw ynddi yn anghydnaws â'r hyn sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, fel sy'n wir am unrhyw system sy'n rhoi elw a thrachwant o flaen popeth arall.
Bydd y newid i economi sero-net, er enghraifft, yn un o'r trawsnewidiadau economaidd mwyaf dwys i ni eu gweld ers degawdau, a bydd yn foment allweddol yn hanes nid yn unig Cymru, ond y ddynoliaeth. Mae'n galw arnom i roi cymunedau a'r blaned yn gyntaf. Ni, yn y fan hon, yr eiliad hon, fydd yn penderfynu a fydd y blaned hon yn weddus i'n hwyrion fyw arni neu beidio. Rydym yn byw ar un o'r adegau hynny mewn hanes, fel y dywedodd Delyth Jewell, lle mae dynoliaeth naill ai'n llwyddo neu'n methu.
Wrth inni symud tuag at economi sero-net, bydd y canlyniadau i'n cymunedau yn bellgyrhaeddol. Ydy, mae datgarboneiddio yn cynnig rhai enillion a allai fod yn werthfawr, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn elwa o'r enillion hynny. Gobeithio bod yr Aelodau'n ymwybodol o egwyddor trawsnewid cyfiawn. Mae'n rhaid i'r egwyddor hon fod yn allweddol i unrhyw strategaeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae'n golygu gwneud ein heconomi yn un fwy cynaliadwy, mewn ffordd sy'n deg i bob gweithiwr, ni waeth pa ddiwydiant y maent yn gweithio ynddo.
Mae'r ffordd yr adeiladwyd ein heconomi yn golygu bellach fod bywoliaeth llawer o bobl a chymunedau ehangach ynghlwm wrth y diwydiannau sy'n llygru: diwydiannau a fydd yn newid yn eithriadol; diwydiannau a fydd yn crebachu; a diwydiannau a allai ddiflannu'n llwyr, gan newid bywydau gweithwyr yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod yn y pen draw. Rydym eisoes wedi gweld effaith trawsnewid anghyfiawn. Pan gaeodd Thatcher y pyllau glo, gadawyd y cymunedau i wynebu'r canlyniadau ar eu pen eu hunain, ac mae'r effeithiau'n dal i'w teimlo heddiw.
Rhaid i Lywodraeth Cymru archwilio'r cyfleoedd i sefydlu canolfan ragoriaeth ynni adnewyddadwy i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau presennol, boed drwy hyfforddi pobl o'r newydd neu ailhyfforddi'r rheini mewn sectorau carbon uchel. Ni ellir ond cyflawni hyn ar raddfa genedlaethol strategol. Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru roi eu hymateb gonest, a ydynt yn credu y gall y gweithlu fel y mae ar hyn o bryd gyflawni eu hymrwymiadau gwyrdd? A all y gweithlu gyflawni ymrwymiadau tai gwyrdd mewn gwirionedd? A all gyflawni nodau inswleiddio ynni? A all gyflawni dros natur?
Er mwyn adeiladu gweithlu sero-net, mae angen inni weld arweiniad gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr. Mae ystod eang o randdeiliaid—megis EDF, er enghraifft—wedi mynegi pryderon ynglŷn ag a fyddai gan Gymru gapasiti i greu mwy o swyddi yn dilyn y pandemig COVID-19. Ategwyd pryderon tebyg y bore yma mewn cyfarfod a gynhaliais gyda chynrychiolwyr o'r sector adeiladu.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd yn rhaid i bob cwmni yng Nghymru fod ar ryw fath o daith ddatgarboneiddio. Mae angen inni fachu ar y cyfle a gweithredu yn awr i ddatblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer gweithlu gwyrdd, neu beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei alw—gwnewch hynny. Gallem greu miloedd ar filoedd o swyddi, sicrhau ffyniant economaidd i amryw o sectorau ar hyd a lled Cymru, cyflawni ein nodau gwyrdd, a sicrhau dyfodol cynaliadwy i bawb. Ond mae angen inni fod yn strategol, mae angen inni sicrhau bod gennym weithlu gwyrdd gyda sgiliau da ac wedi'i hyfforddi'n dda i gyflawni'r nodau hyn.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae yna rywbeth y credaf ei fod yn aml yn cael ei anwybyddu pan soniwn am wneud yr economi yn fwy cynaliadwy, a thlodi yw hwnnw. Gwyddom fod pobl eisiau gwneud y newidiadau gwyrdd hynny yn eu bywydau, fel y nododd Jenny Rathbone, ond y realiti yw na allant fforddio gwneud hynny. Mae'n iawn i ni sefyll yma a rhygnu ymlaen am y newidiadau sydd angen inni eu gwneud, ond rydym ni, wrth gwrs, yn siarad o safbwynt breintiedig. Os ydych yn deulu gyda phlant i'w bwydo, yn gweithio nifer o swyddi ac yn gwneud popeth yn eich gallu i gadw dau ben llinyn ynghyd, ni allwch fforddio mynd i brynu bwyd cynaliadwy. Ni allwch fforddio mynd i'r siop ddiwastraff, ni allwch fforddio newid i gerbyd trydan, ni allwch fforddio gwneud unrhyw beth heblaw cynnal y status quo ansicr. Mae'n rhaid i ymladd yr argyfwng hinsawdd olygu ymladd tlodi. Mae gennym gyfle i newid popeth, i droi'r byrddau. Pan fyddwn yn cymryd y camau hynny, mae angen iddynt fod ar gyfer pawb. Rydym wedi siarad digon, ac mae'r amser ar ben. Os nad yw'n digwydd yn awr, ni fydd byth yn digwydd.