Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 13 Hydref 2021.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar fater pwysig a pherthnasol iawn. Ar wahân i rai ar gyrion cymdeithas, nid oes neb ar y blaned hon sy'n gallu gwadu'r trychinebau sy'n ein hwynebu, o'r newid hinsawdd sy'n bygwth digwyddiadau tywydd eithafol yn rheolaidd, fel y llifogydd dinistriol yn fy etholaeth ar ddechrau'r flwyddyn hon, i'r dirywiad enfawr ym myd natur sydd wedi arwain at golli rhywogaethau di-rif. Bydd y modd y gweithredwn dros y degawdau nesaf yn penderfynu pa mor hyfyw yw bywyd ar y ddaear.
Fodd bynnag, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn, a'n bod hefyd yn ei wneud yn y ffordd gywir. Rydym i gyd yn cofio polisïau trychinebus cyfnod Blair/Brown a oedd yn hyrwyddo injans diesel mewn ymgais annoeth i reoli allyriadau carbon. Rydym yn dal i ymdrin â chanlyniadau'r llanastr hwnnw heddiw. Faint o blant a fu farw neu sydd wedi dioddef effeithiau iechyd hirdymor o ganlyniad i'r cynnydd mewn gronynnau ac ocsidiau nitrogen? Mae'n raid inni sicrhau nad yw'r hyn a wnawn heddiw yn arwain at ganlyniadau anfwriadol, neu fel arall byddwn wedi methu dysgu gwersi'r gorffennol.
Arweiniodd y chwyldro diwydiannol at fanteision enfawr i'r ddynolryw, ond arweiniodd hefyd at ddifrod di-ben-draw i'r unig le y gall pobl ei alw'n gartref: y ddaear. Ni allwn barhau i wneud yr un camgymeriadau. Hyd yn oed ar lefel ficro, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r camau a gymerwn i gyfyngu ar ddifrod i'n hinsawdd a'n byd natur yn achosi niwed diangen i fywydau a bywoliaeth pobl. Mae'r 10 corfforaeth fyd-eang fwyaf yn gyfrifol am 70 y cant o allyriadau, ond nid eu cyfrifon banc hwy fydd yn dioddef wrth i ni ymladd newid hinsawdd; y rhai tlotaf mewn cymdeithas fydd yn rhannu'r baich trymaf.
Er nad oes dewis arall yn lle sero-net, bydd pris anferthol i'w dalu er mwyn cyflawni hynny. Bydd yn sicr o arwain at gost uwch am angenrheidiau sylfaenol, megis bwyd a thanwydd. Rydym yn gweld yr effeithiau hynny yn awr. Mae'n bosibl mai fy etholwyr i, rhai o'r bobl dlotaf yn y byd gorllewinol, fydd yn cael eu taro galetaf. Sut y bydd cwpl wedi ymddeol yn y Rhyl yn gallu fforddio talu am ôl-osod system yn lle eu system wresogi nwy? Gan na lwyddasom i ragweld beth oedd i ddod, rydym wedi methu buddsoddi yn y dechnoleg a fydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae ein gwariant ar ymchwil a datblygu yn druenus, a dyna pam y bu'n rhaid i Gymro deithio i America i ddatblygu cerbydau trydan. Gobeithio y gall Llywodraeth Cymru berswadio prif swyddog gweithredol Lucid Motors i ddychwelyd i Gymru, a gallaf argymell parc busnes Llanelwy yn fawr.
Dylai popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'n diffygion amgylcheddol, yn ogystal ag ystyried y goblygiadau ehangach. Drwy beidio ag ailadeiladu pont Llannerch yn fy etholaeth yn gynt, rydym yn ychwanegu at y tagfeydd a'r llygredd, yn ogystal ag atal mynediad at deithio llesol i drigolion lleol. Drwy ofyn i gynghorau ddilyn polisi dad-ddofi tir, rydych yn methu ystyried canlyniadau troi man gwyrdd, a ddefnyddir ar gyfer chwarae ac ymarfer corff, yn weirglodd blodau gwyllt. Mae'n wych ar gyfer gwenyn, ond heb fod mor wych ar gyfer bechgyn a merched. Mae lle i bob polisi, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau dull cyfannol o weithredu, a rhaid inni osgoi canlyniadau anfwriadol. Diolch yn fawr.