Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 19 Hydref 2021.
Llywydd, mae'n anochel bod teithio rhyngwladol yn dod â'r risg o fewnforio heintiau coronafeirws newydd, yn enwedig amrywiolion newydd, i'r Deyrnas Unedig. Mae mesurau iechyd ar y ffin yn amddiffyniad pwysig rhag risgiau o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo yn gyson ddull rhagofalus o ailagor teithio rhyngwladol.