1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2021.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofynion coronafeirws ar gyfer teithwyr rhyngwladol o Gymru? OQ57043
Llywydd, mae'n anochel bod teithio rhyngwladol yn dod â'r risg o fewnforio heintiau coronafeirws newydd, yn enwedig amrywiolion newydd, i'r Deyrnas Unedig. Mae mesurau iechyd ar y ffin yn amddiffyniad pwysig rhag risgiau o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo yn gyson ddull rhagofalus o ailagor teithio rhyngwladol.
Diolch, Prif Weinidog. Prif Weinidog, rwyf i wedi sefyll yma lawer gwaith, ac rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi ateb achosion unigol, ond mae nifer o etholwyr wedi gofyn i mi am fater yr hoffwn ei godi gyda chi heddiw, yma yn y Siambr. Nawr, mae teulu, fel y dywedais i, wedi cysylltu â mi gan eu bod yn cael anhawster wrth geisio cael pasbortau COVID ar gyfer teithio dramor. Yn gynharach eleni, roedden nhw'n destun cyfyngiadau symud ym Mhortiwgal ac, yn ystod y cyfnod hwn, cawson nhw gynnig brechiadau a'u cael ynghyd â'r cardiau priodol yn cofnodi'r ffaith hon. Maen nhw bellach yn canfod bod gwledydd y maen nhw'n dymuno teithio iddyn nhw ac ymweld â nhw yn mynnu cael pasbortau COVID swyddogol, a byddai methu â chyflwyno'r ddogfen ychwanegol honno yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw brofi a chael eu gosod dan gwarantin am bythefnos. Fe wnaethon nhw gysylltu â chanolfan pasbortau COVID GIG Cymru a dywedwyd wrthyn nhw nad oes system, fel y cyfryw, ar gyfer cyflwyno pasbortau COVID i unrhyw un nad ydyn nhw wedi eu brechu yma yng Nghymru. Wrth chwilio drwy dudalennau gwe Portiwgal, canfu fy etholwyr fod yr awdurdodau yno yn cyflwyno pasbortau COVID i drigolion am ddim, ond yn anffodus nid ydyn nhw'n drigolion Portiwgal. A wnewch chi roi gwybod sut y gall pobl yma yng Nghymru, o dan yr amgylchiadau hyn, gael pasbortau COVID i'w caniatáu i deithio dramor yn rhydd? Diolch.
Wel, Llywydd, fel y dywedodd yr Aelod, mae yn anodd rhoi cyngor ar achosion unigol wrth ateb cwestiynau. Y sefyllfa gyffredinol yw bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar y trefniadau cydnabod brechlynnau estynedig, a gyhoeddwyd pan gyflwynwyd y gyfres ddiweddaraf o newidiadau, gyda Llywodraeth y DU. Dylai hynny olygu y bydd pobl sydd wedi eu brechu mewn gwledydd eraill, lle mae eu trefn frechu yn bodloni'r safonau sydd wedi eu pennu gan ein rheoleiddiwr ein hunain, yn gallu cael tystysgrif brechlyn yma yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru. Ond mae hwnnw yn amddiffyniad pwysig—bod yn rhaid i frechlynnau sy'n cael eu gweinyddu mewn mannau eraill yn y byd fod yn frechlynnau sy'n cael eu cydnabod, y byddai ein system ni o'r farn eu bod yn rhoi diogelwch i'r unigolion hynny, a bod y drefn y darperir y brechlynnau hynny yn unol â hi yn un a fyddai'n gwrthsefyll craffu. Cyn belled ag y bo'r pethau hynny ar waith, cytunwyd ar ryddfrydoli sylweddol ledled y Deyrnas Unedig, gyda mwy o wledydd yn cael eu cydnabod at y dibenion hyn, ac felly gall ein system ein hunain gadarnhau mwy o ardystiadau brechlyn. Pa un a yw hynny yn berthnasol yn achos yr unigolyn y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, byddai angen rhagor o fanylion arnaf er mwyn gallu penderfynu.