Cymorth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 19 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:11, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, cysylltodd gŵr ifanc â phroblemau iechyd meddwl cymhleth â mi yn ddiweddar a chanmolodd waith canolfan ddydd Ty Canna yn eich etholaeth chi yng Ngorllewin Caerdydd. I'r rhai yn y Siambr nad ydyn nhw'n gwybod, mae Ty Canna yn darparu gwasanaethau pontio i bobl sy'n trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Ac mae'r gwaith hwn yn hollbwysig; fel y gwyddom, mae llawer gormod o bobl yn syrthio drwy'r rhwyd ar hyn o bryd. Y pryder sydd gan y gŵr ifanc hwn yw y bydd y gwaith da sy'n digwydd yng ngwasanaethau dydd Ty Canna yn cael ei golli os caiff y gwasanaethau eu symud oddi yno. Mae mewn lleoliad canolog cyfleus iawn ar hyn o bryd, ac mae adnoddau gwych yno. Mae'n cynnig preifatrwydd i'r rhai sydd ei angen. A wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, y bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda phartneriaid allweddol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn ac i wneud yn siŵr nad oes rhagor o bobl ifanc yn cael eu colli o'r system? Diolch yn fawr, Brif Weinidog.